Pen Dinas Cardiff Apartment

Cardiff, South Wales

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 24th May and 25th July
  • Special Offer20% off Easter holidays - 22nd March - 11th April
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

You can book this property from:

  • £661 per week
  • £94 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Parcio ar y stryd

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae’r golygfeydd di-dor dros orwelion y ddinas o’r apartment gwyliau moethus yma yng Nghaerdydd wir yn ysblennydd. Tydi Pen Dinas ond tafliad carreg o Stadiwm y Principality, y castell a’r holl atyniadau gwych sydd gan canol y ddinas i’w chynnig. Yn chwaethus a modern, mae’r apartment newydd yma yn berffaith ar gyfer gwyliau dinesig yng Nghaerdydd, trip siopa, digwyddiad chwaraeon neu i gael criw o ffrindiau/teulu at ei gilydd. Mae popeth yr ydych ei angen yng Nghaerdydd ar stepen eich drws. Mae’r apartment newydd sbon yma yn un o’r llefydd mwyaf dymunol yng Nghaerdydd ar hyd stryd goedwigol brydferth Cathedral Road.

 

Golygfeydd ysblennydd dros y brifddinas.

Apartment 5ed llawr gyda mynediad drwy lifft.

Ardal fwyta, cegin a lolfa fawr agored. Teledu gyda DVD, Blueray, Smart TV yn cynnwys apiau. Gwely soffa ddwbl yn y lolfa.

Cegin uwch-fodern ag offer llawn gyda hob seramig wedi ei ymgorffori, oergell/rhewgell, popty, meicrodon, peiriant golchi llestri a pheiriant coffi Nespresso.

Ystafell 1 – Y brif ystafell wely gyda gwely king (neu gall gael ei osod fel dau wely sengl 6’3” – plîs gofynnwch am hyn wrth archebu) gydag en-suite gyda cawod, toiled a sinc.

Ystafell 2 – Ystafell ddwbl gyda gwely king (neu gall gael ei osod fel dau wely sengl 6’3” – plîs gofynnwch am hyn wrth archebu) gydag en-suite gyda cawod dros y bath, toiled a sinc.

Ystafell iwtiliti gyda pheiriant golchi/sychu dillad, bwrdd a haearn smwddio.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae’r apartment gwyliau moethus yma yng Nghaerdydd wedi ei leoli ar y 5ed llawr gyda mynediad drwy lifft a 3 step bach o’r hôl i fyny i’r apartment.
  • Mae’r apartment yn berffaith addas i 4 ond mi all gysgu 6 gyda’r gwely soffa ddwbl.
  • Ni ddylid heirio’r apartment ar gyfer partïon – yr ydym yn llym iawn gyda’r rheol hwn.
  • Wedi ei leoli mewn datblygiad preswyl.
  • Gwres a thrydan yn gynnwysedig.
  • Dillad gwlau, tywelion dwylo a bath yn cael eu darparu.
  • 2 sychwr gwallt.
  • Gemau bwrdd a chasgliad o DVD’s a llyfrau.
  • Cadair uchel a chot deithiol ar gael. Plîs gofynnwch am hyn wrth archebu a plîs dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
  • Wi-fi yn gynnwysedig (am ddim).
  • Nid yw parcio’n gynnwysedig ond mae digon o opsiynau ar gael gerllaw – mae yna barcio stryd am ddim 5 munud o gerdded i ffwrdd. Mi fydd manylion llawn a map yn cael eu darparu i westeion. Mae cyrraedd ar dren neu fws yn ddelfrydol gan nad yw’r llety yn bell o’r orsaf drenau a’r orsaf fysiau.
  • Dim ysmygu.
  • Dim anifeiliaid anwes.

Location

Wedi ei leoli ar 5ed llawr datblygiad moethus ar Ffordd y Gadeirlan, ar draws yr afon i Stadiwm Principality, Castell Caerdydd a chanol y Ddinas. Gyda bwytai a thafarndai o fewn 5 munud o gerdded yng nghanol y ddinas, siopau lleol ym Mhontcanna gerllaw, yn ogystal â bar/caffi trwyddedig yn yr adeilad ei hun.

Os mai siopa sy'n mynd â'ch bryd, mae canolfan siopa St Davids 2 ( yn cynnwys John Lewis) yn agos iawn i'ch llety, yn ogystal ac arcêd siopau a rhodfeydd eraill poblogaidd. Fe gynhelir digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol a chyngherddau mawr gan rai o artistiaid mwyaf y byd yn Stadiwm Principality, Arena Motorpoint, Neuadd Dewi Sant a Chanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd. Mae awyrgylch arbennig yng Nghaerdydd adeg digwyddiad Rhyngwladol ac mae Pen Dinas Cardiff Apartment wedi ei leoli mewn man delfrydol i chi fedru ei fwynhau. Mae Gerddi Soffia, cartref Criced Morgannwg a lleoliad gemau prawf neu un-dydd ond tafliad pêl criced i ffwrdd, a Stadiwm Dinas Caerdydd (cartref tîm pêl-droed Caerdydd) o fewn pellter cerdded. Gydag ystod eang o theatrau, neuaddau a galeriau, yn cynnig opera, balê, sioeau cerdd a cherddoriaeth byw gan artistiaid byd enwog. Gellir gwneud y daith fer i Fae Caerdydd mewn bws, tacsi neu dacsi dwr. Yma fe leolir Canolfan y Mileniwm, Y Senedd, yn ogystal â nifer o atyniadau eraill yn cynnwys bariau modern a bwytai, pwll nofio maint Olympaidd a chyfleuster hamdden, Canolfan Dwr Gwyn, Clwb Hwylio a nifer o lwybrau cerdded a beicio o gwmpas Bared Bae Caerdydd.

Cerdded

Caeau Pontcanna - ond ychydig fetrau o'ch llety gyda nifer o lwybrau cerdded i'w mwynhau yn cynnwys Llwybr Camlwyddiant Caerdydd (0.1 milltir)

Beicio

Mae Llwybr Taf yn lwybr aml-bwrpas rhwng Caerdydd a thref farchnad Aberhonddu i'r gogledd - 55 milltir o hyd. Ffordd ardderchog o weld de Cymru (0.1 milltir)

Chwaraeon Dwr

Canolfan Ryngwladol Dwr Gwyn Caerdydd (CIWW) - cyfleusterau rafftio dwr gwyn yn cynnwys canwîo a caiacio. Gellir llogi'r holl offer (2.5 milltir)

Pysgota

Mae pysgota gwych o gwmpas arfordir Caerdydd. Gellir llogi cwch bysgota o Fae Caerdydd (2 filltir)

Afon Tâf - yn cynnwys eog a brithyll. Trwyddedau Dydd i'w cael gan gymdeithasau lleol (0.2 milltir)

Golff 

Mae nifer o gyrsiau golff yn yr ardal yn cynnwys yr enwog Celtic Manor (18 milltir). Un o'r cyrsiau agosaf yw Parc Cottrell (7 milltir)

Marchogaeth

Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd wedi ei lleoli o fewn 35 acer o barcdir yn agos i ganol y ddinas (1 milltir)

Traethau

Gydag Arfordir Treftadaeth Morgannwg heb fod ymhell mae yna nifer o draethau i ymweld â hwy, o dref glan môr prysur Ynys y Barri (9 milltir) i draeth syfrdanol Southerndown (20 milltir)