- £1,423 per week
- £203 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 5 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 4 o welyau dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 5 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae’r bwthyn moethus 5 seren hwn wedi ei leoli ym mhrydferthwch cefn gwlad, 20 munud yn unig o ganol Caerdydd. Wedi ei amgylchynu gan goetir a bryniau, mae’n leoliad delfrydol ar gyfer eistedd yn nol ac ymlacio, neu i aros ar gyfer un o’r niferus ddigwyddiadau chwaraeon neu ddiwylliannol sydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a De Cymru. Mae yna dafarn a bwyty ardderchog gerllaw.
Mae llawer o weithgareddau ac atyniadau yn ymyl, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Mae’r llety hwn yn addas ar gyfer gwesteion anabl gyda drysau llydan a phob ystafell ar yr un llawr.
Llawr Gwaelod
Cegin ac ystafell fwyta agored. Cegin gyda ffwrn fawr, oergell/rhewgell math Americanaidd, peiriant gwneud coffi, golchwr llestri. Mae’r ystafell fwyta yn cynnwys bwrdd ar gyfer 8 o bobl, soffa gyfforddus, teledu a system sain anhygoel. Gwely soffa dwbl ar gael os dymunir - yn addas ar gyfer plant yn unig.
Lolfa gyda teledu 40 modfedd, freeview a chwaraewr DVD, soffas cyfforddus.
Ystafell ymolchi foethus gyda toiled, basn a baddon.
Llofft 1 - gyda gwely dwbl, cypyrddau dillad ac ystafell gawod cerdded i mewn ynghlwm
Llofft 2 - gyda gwely dwbl, cypyrddau dillad ac ystafell gawod cerdded i mewn ynghlwm
Llofft 3 - gyda gwely dwbl, cypyrddau dillad ac ystafell gawod ynghlwm
Llofft 4 - gyda gwely dwbl, cypyrddau dillad ac ystafell gawod cerdded i mewn ynghlwm
Ystafell arwahan gyda pheiriant golchi
** Dalier sylw - 8 yw’r nifer mwyaf o westeion y gall y bwthyn letya
Tu Allan
Gardd breifat wedi ei chau i mewn, gyda Barbaciw, bwrdd mawr a chadeiriau. Y mae yna hefyd ddigon o dir agored gyda 50 o aceri i’w mwynhau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys dewis o nwyddau Cymreig
- Llety un llawr gyda mynediad i’r anabl, a chawodydd cerdded i mewn. Sylwer nad oes canllawiau (hand rails) yn yr ystafelloedd ymolchi.
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig.
- Trydan a gwres canolog yn gynwysedig.
- Cadair uchel a chot trafeilio. Rhaid dod â dillad eich hun ar gyfer y cot.
- Wi-fi ar gael.
- Dewis eang o lyfrau, gemau a DVDs ar gael.
- Bydd y canlynol hefyd ar gael ar gyfer eich arhosiad yn y bwthyn: Cegin: Pupur a halen; papur cegin; hylif golchi llestri/tabledi i’r golchwr llestri; clytiau sychu fyny; Ffoil; Cling Film. Ystafell Ymolchi: hylif golchi dwylo; 2 rolyn o bapur toiled ar gyfer pob toiled.
- Cynnyrch Glanhau Cyffredinol
- Dim ysmygu a dim anifeiliaid anwes
Noder fod bys yn rhedeg yn uniongyrchol i Gaerdydd o fan 1 milltir i ffwrdd o’r bwthyn. Mae yna hefyd gwmniau tacsi a bysiau mini ar gael yn lleol os dymunir.