- £682 per week
- £97 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Nodweddion Arbennig
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
Cegin
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Balconi
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae’r fflat steilus hwn ym Mae Caerdydd yn leoliad perffaith ar gyfer eich arhosiad yng Nghaerdydd. Wedi ei leoli ar y 5ed llawr, gyda balconi yn edrych allan dros y dŵr, a golygfeydd gwych draw tuag at ganol y ddinas. Mae Canolfan y Mileniwm, gorsaf drên Bae Caerdydd, bwytai, tafarndai, sinema, casino ac atyniadau eraill gerllaw. Fe geir cyswllt trafnidiaeth cyhoeddus gwych gyda canol y dref, gan gynnwys Stadiwm y Mileniwn (Principality), sydd lai na milltir i ffwrdd.
Mae’r fflat ar y 5ed llawr gyda lifft i gael mynediad.
Ystafell fyw/bwyta agored â chegin gyda’r holl offer angenrheidiol yn cynnwys peiriant golchi llestri, popty a hob trydan, peiriant golchi/sychu dillad, ac oergell/rhewgell. Bwrdd bwyta gyda lle i 4.
Ystafell wely ddwbwl gyda ystafell ymolchi ynghlwm sy’n cynnwys cawod, teledu a golygfeydd gwych dros y dŵr.
Prif ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn.
Ystafell wely ddwbwl gyda theledu.
Balconi â golygfeydd o’r dŵr, gyda bwrdd a chadeiriau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Sychwr a sythwr gwallt, a haearn smwddio ar gael
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Chwaraewr DVD a ‘free-view’
- Dim wi-fi, ond 4G a BT-wifi ar gael
- Cadair uchel a cot trafeilio ar gael (noder pan yn archebu). Dewch a’ch dillad eich hun ar gyfer y cot
- Coffi, te a siwgwr cychwynnol ar gael
- Clytiau sychu llestri, tabledi i’r peiriant golchi llestri
- Mynediad i’r fflat drwy lifft neu staer
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
- Un lle parcio wedi’i neilltuo. Mae meysydd parcio gerllaw ar gyfer ceir ychwanegol
- Mae’n rhaid sicrhau fod plant bach yn cael eu goruchwylio drwy’r amser, oherwydd y balconi