- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May
- £1,158 per week
- £165 per night
- 5 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r llyn
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 3 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Mae Caban Cwm Hedd yn llety hunan ddarpar sy'n derbyn anifeiliaid anwes ar fferm weithiol. Gyda golygfeydd anhygoel dros y llyn sy'n llawn bywyd gwyllt, yn cynnwys glas y dorlan, gwas y neidr a mwy o adar a phryfed. Gyda cyswllt trafnidiaeth cyhoeddus gwych gerllaw, yn cynnwys rheilffordd i Lundain a mynediad hawdd i rwydwaith yr M4 i Gaerdydd, Abertawe, Bryste a Bath. I'r gogledd gellir mwynhau Sir Fynwy, Y Fenni a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Castell Caerffili yn un o'r rhai mwyaf ysblennydd yng Ngorllewin Ewrop ac ond taith fer i ffwrdd. O fewn y blynyddoedd diwethaf mae'r ardal hon wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau mawreddog yn cynnwys uwchgynhadledd NATO, Cwpan Ryder, a rownd derfynol Cyngrair Pencampwyr UEFA. Gall y llety gysgu hyd at 6 drwy ddefnyddio gwely tynnu allan ychwanegol.
Llawr Gwaelod
Lolfa ac ardal fwyta, gyda drws deu-blyg yn agor allan i'r patio. Teledu, chwaraewr DVD a dewis o lyfrau a gemau. Stôf goed.
Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell a rhewgell, popty trydan a hob nwy, meicrodon, tostiwr a thegell. Bwrdd a chadeiriau i chwech.
Ystafell wely 1 - dau wely sengl a chwpwrdd dillad.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl, cwpwrdd dillad a golygfeydd o'r llyn. Yn arwain drwodd i ystafell 3.
Ystafell wely 3 - gwely sengl gyda mynediad drwy ystafell 2 (un gwely tynnu allan ychwanegol ar gael - gwnewch gais pan yn archebu)
Ystafell ymolchi - gyda baddon a chawod oddi mewn, toiled a basn.
Tu Allan
Patio mawr yn edrych allan dros y llyn, gyda soffa a chadeiriau rattan, a simdde. Mae'r ardd wedi ei chau mewn gyda ffens bren.
Gwybodaeth ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth a siwgwr.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Mae gan y ty hwn gyflenwad dwr ei hun sydd yn cael ei ffiltro
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Wifi ar gael
- Basgedaid cychwynnol o goed yn gynwysedig - mwy o goed i'w prynu gan y perchennig
- Cot a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Dim ysmygu tu mewn y bwthyn
- Anifeiliaid anwes - hyd at 2 gi. Ni ganiateir iddynt fynd mewn i'r llyn
- Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau
- Ystafell ymolchi: sebon a 2 rolyn papur toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Digon o le parcio
- Ni chaniateir archebu ar gyfer partion
Gwybodaeth Hygyrchedd
Y llety i gyd ar y llawr gwaelod
Drysau i bob ystafell yn 2'9" o led
Lle parcio gwastad wrth ochr y llety, gyda digon o le i fynd mewn ac allan
Mae yna lip ar y prif ddrws, ac ychydig o godiad rhwng yr ardal fyw a'r ystafell ymolchi, gyda'r gweddill yn lefel
Os na fydd yr eitemau ailgylch'n cael eu glanhau a didolui, bydd £20 yn cael ei gadw'n ol.