- £424 per week
- £61 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Cot
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch lonyddwch tawel y bwthyn gwyliau hwn yn Y Fenni. Golygfeydd aruthrol ar hyd y dyffryn, y Mynyddoedd Duon a Bannau Brycheiniog - mae’r bwthyn hwn yn fan delfrydol ar gyfer gwyliau rhamantus. Mae hefyd yn le perffaith ar gyfer gwyliau i deulu bach. Mae naws hyfryd o fod yn bell o bopeth arall, ond mae’n ddigon agos at drefydd ac atyniadau cyfagos.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw a bwyta ar gynllun agored, gyda digon o le i 6 wrth y bwrdd bwyd. Soffa gyfforddus fawr gyda dwy gadair fawr esmwyth. Casgliad mawr o lyfrau a gwybodaeth i ymwelwyr. Teledu gyda Sky Freeview, chwaraewr DVD, radio a chwaraewr CD.
Cegin fodern gydag oergell a rhewgell ar wahân, peiriant golchi llestri, peiriannau golchi a sychu dillad, hob trydanol, micro-don a phopty ffan.
Ystafell ymolchi gyda chawod maint dwbl a basn a thoiled.
Llawr Cyntaf
Prif ystafell wely gyda gwely dwbl a chot. Dwy ffenestr fawr ar y to gyda golygfeydd anhygoel ar hyd y dyffryn a’r tir fferm.
Gardd
Mae’r bwthyn wedi ei leoli mewn gardd sydd yn 2 erw, ac yn cynnwys perllan, gardd flodau a phadog mawr yn cynnwys ardal fawr amgaeedig. Mae yno hefyd ardal batio breifat gyda barbeciw a mainc.
Mae gan y bwthyn garej ei hun sy’n darparu lle delfrydol i storio beiciau ac offer eraill.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgr, llaeth a chacennau cri neu fisgedi.
- Cadair uchel, cot teithio a chot gwely ar gael (gofynnwch i archebu). Dewch â dillad gwely eich hun ar gyfer y cot.
- Dillad gwely a thywelion yn cael eu darparu
- Trydan a gwres canolog olew yn gynwysedig
- Darperir yr eitemau canlynol hefyd yn y bwthyn...
- Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri, powdr golchi, llieiniau llestri a sgwriwr.
- Ystafell ymolchi: sebon llaw hylif, 3 papur toiled yr wythnos (2 am wyliau byr).
- Offer golchi cyffredinol: cannydd, golchwr cawod, a chwistrellydd gwrthfacteria ayyb.
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
- Mae archfarchnadoedd Sainsbury’s, Tesco a Waitrose yn gallu cludo archebion i’r bwthyn.