- £585 per week
- £84 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Dim tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Trwydded parcio ar gael
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Bwthyn gwyliau moethus yw Bwthyn Clyd wedi ei leoli yng nghanol tref leiaf Cymru a Phrydain, Ty Ddewi, Sir Benfro - lathenni yn unig o’r sgwâr, yr Eglwys Gadeiriol odidog, bwytai, siopau, tafarndai ac orielau. Mae llwybr arfordirol Sir Benfro deg munud o’r bwthyn ar droed, tra bod traeth Porth Mawr a phentrefi pysgota bychain Porthgain a Solfach ond ychydig funudau i ffwrdd mewn car neu ar fws.
Llawr Gwaelod
Mae’r bwthyn wedi ei adnewyddu a’i ailddodrefnu’n gain i safon uchel gan gadw ei gymeriad gwreiddiol ac mae lloriau derw Cymreig drwyddo draw.
Ystafell fyw - cynnwys 2 soffa gyfforddus (un yn troi’n wely sengl), stôf llosgi coed, chwaraewr DVD a theledu SKY.
Cegin a lle bwyta agored - bwrdd a chadeiriau a chegin wedi ei dodrefnu’n llawn yn cynnwys microdon a pheiriant golchi.
Ystafell iwtiliti - Cwpwrdd dan y grisiau ar gyfer storfa ychwanegol.
Llawr Cyntaf
Dwy ystafell wely - un gyda gwely dwbl addurnedig a chwpwrdd dillad, a'r ail yn ystafell twin.
Ystafell ymolchi chwaethus gyda bath ‘roll top’ a chawod.
Llefydd storio ar ben y grisiau
Gardd
Ardal wedi ei phalmantu â llechfeini traddodiadol o’r 19eg Ganrif, gyda bwrdd a cadeiriau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Dillad gwely a sychwr gwallt ar gael
Gwres a thrydan yn gynwysedig
Cot a chadair uchel ar gael. Dewch â dillad eich hun i'r cot.
Dewch â thywelion eich hunan. Mae tywelion o safon ar gael fel opsiwn - cost yn £10 yr archeb/parti yr wythnos (i'w dalu'n ychwanegol pan yn archebu)
Pecyn gwybodaeth cynhwysfawr yn eich disgwyl pan fyddwch yn cyrraedd
Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
Wifi ar gael
Parcio Cyhoeddus 80 metr i ffwrdd - caniatad parcio ar gael. Er hynny, mae lleoliad canolog y bwthyn yn golygu y gellir aros yma heb gar hefyd