- £352 per week
- £50 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
Cegin
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Bwthyn gwyliau yn Solfach yn cysgu 2 ac o fewn pellter cerdded i’r llwybr arfordirol a golygfeydd anhygoel. Pentref pysgota yw Solfach gyda harbwr trawiadol a dewis bychan o siopau, bwytai, tafarndai a galeriau. Lleoliad delfrydol i ddarganfod popeth sydd gan Sir Benfro i gynnig.
Llawr Gwaelod
Ardal agored i goginio, bwyta ac ymlacio. Cegin gyda’r holl offer angenrheidiol yn cynnwys hob nwy, popty trydan, meicrodon, tostiwr, tegell, slow cooker, a chymysgydd llaw trydan. Lle ar gael i rewi nwyddau mewn rhewgell sydd yn cael ei rhannu.
Ystafell wely - gwely dwbwl, droriau a lampau ger y gwely, cwpwrdd droriau, soffa ledr, llyfrau a gemau, teledu a chwaraewr DVD, sychwr gwallt a lle i hongian dillad.
Ystafell ymolchi yn cynnwys uned gawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Mae dwy ardal benodol - un ardal o slabiau yn y cefn gyda bwrdd, cadeiriau a barbaciw; ardal arall gyda chadeiriau i orwedd ac ymlacio, ac i edrych allan dros y lawnt helaeth at y môr yn y pellter.
Gwybodaeth ychwanegol
- Mae croeso i hyd at 2 gi* - cost ychwanegol o £15 y ci, i’w dalu yn ystod y broses archebu
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig (dewch a thywelion eich hunan ar gyfer y traeth)
- Gwres canolog llawn yn gynwysedig
- Wi-fi ar gael
- Derbyniad ffôn symudol yn amrywio - EE yw’r unig ddarparwr dibynadwy
- Gellir trefnu gwasanaeth gwarchod plant
- Cadair uchel ar gael
- Dim ysmygu yn y bwthyn
* Mae archebion sy’n cynnwys cŵn yn cael eu derbyn ar y dealltwriaeth fod pob triniaeth ar gyfer chwaen a mwydod (fleas & worms) yn gyfoes. Cofiwch nad yw cŵn i gael eu gadael ar ben eu hunain yn y bwthyn nac yn yr ardal gymunedol, ac nag ydynt i ddringo ar ben y dodrefn ar unrhyw adeg. Mae perchennog yr anifail yn gyfrifol am lanhau i fyny ar ei ôl. Ystyriwch y gwestai eraill sydd yno yr un adeg â chi, a’r rhai sydd yn eich dilyn. Cofiwch nad ydy rhai traethau poblogaidd yn caniatau cŵn yn ystod misoedd yr haf. Gellir llawrlwytho canllawiau ar gyfer cŵn oddi ar wefan Cyngor Sir Benfro.