- £461 per week
- £66 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Bwthyn hunan arlwyo moethus ger Solfach, Sir Benfro. Mae Ty’r Gwalch wedi ei enwi ar ôl y gweilch sydd i’w gweld yn hedfan uwchben yn gyson. Wedi ei leoli ym mhentref Naw Ffynnon, milltir i ffwrdd o Solfa a dwy filltir o Dy Ddewi yng Ngogledd Sir Benfro, mae gan y bwthyn arfordirol hwn olygfeydd panoramig o’r môr a Bae Sain Ffraid. Lleoliad delfrydol ar gyfer cerdded, hwylio neu’n syml iawn, i ymlacio ymhlith y siopau, orielau a bwytai ynghanol golygfeydd prydferth.
Llawr Cyntaf
Mae gan Dy’r Gwalch ystafell fawr sy’n cynnwys ardal fwyta a lolfa ar gynllun agored gyda seddi cyfforddus, teledu a chwaraewr DVD.
Cegin gyda chyfleusterau da yn cynnwys hob a phopty nwy, microdon, oergell gyda bocs rhewi, peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad. Lle i rewi ar gael yn ogystal.
2 ystafell wely: 1 ddwbl ac 1 twin. Mae’r ystafell ymolchi yn cynnwys swît lawn a chawod uwchben y bath.
Balconi yn wynebu’r de sy’n cael yr haul drwy’r dydd.
Gardd
Patio gyda dodrefn gardd yn wynebu’r de ac yn mwynhau golygfeydd o’r môr dros dir amaeth. Y patio yn agor allan i gae mawr glaswelltog. Rhennir yr ardal laswelltog hon gyda’r ddau fwthyn arall ble mae gat - lle delfrydol i blant ac i gerdded anifeiliaid anwes (bydd angen i gwn fod ar dennyn)
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir dillad gwely a duvet, tywelion dwylo a thywelion sychu llestri.
Darperir tywelion bath ar gais am £3 ychwanegol y person (taladwy i’r perchennog wrth gyrraedd). Tywelion yn gynwysedig ar gyfer ymwelwyr tramor yn unig.
Gwres canolog llawn yn gynwysedig.
Cot a chadair uchel ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
Mae bwthyn gwyliau Ty’r Gwalch ar lawr cyntaf yr adeilad gyda grisiau yn arwain i fyny iddo.
Croesewir uchafswm o 2 anifail anwes* am £10 yr anifail, am wythnos lawn neu yn rhannol. Taladwy i’r perchennog wrth gyrraedd.
Digonedd o lefydd parcio ar gael.
Dim ysmygu.
Milltir i ffwrdd yn Solfa, mae yna amrywiaeth o siopau, tafarndai a bwytai.
*Derbynnir archebion sy’n cynnwys anifeiliaid anwes ar yr amod eu bod wedi eu trin am lyngyr. Noder na ddylid eu gadael ar eu pennau eu hunain yn y bwthyn nac yn yr ardaloedd cymunedol a dylid eu cadw oddi ar y dodrefn drwy’r adeg. Mae perchennog yr anifail yn gyfrifol am lanhau ar eu holau. Byddwch yn ystyriol o westeion eraill sy’n ymweld ar yr un pryd â chi a’r rhai sydd yn dod ar eich holau. Noder hefyd nad yw rhai traethau poblogaidd yn caniatáu cwn yn ystod misoedd yr haf.