Pembroke Retreat no.2

Pembroke, Pembrokeshire West Wales

  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer15% May Half term - 24th May - 31st May 2024
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

You can book this property from:

  • £535 per week
  • £76 per night
  • 5 Star
  • Awaiting Grading

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Syrffio
  • Pysgota

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 4 o welyau sengl

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 09:00

Description

Mae'r llety hunan ddarpar hwn yn Sir Benfro yn rhan o hen felin ddŵr o'r ail ganrif ar bymtheg, sydd wedi ei hadnewyddu. Oddi mewn i 30 acer o dir preifat ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae'r llety yn leoliad gwych i ddarganfod yr holl sydd yna i'w gynnig yn Sir Benfro gan gynnwys 50 o draethau braf ar gyfer hwylio, syrffio a chaiacio. Mae Pembroke Retreat yn le delfrydol ar gyfer plant gyda tripiau gwylio dolffiniaid a morfilod, ymweliad â Fferm Folly, a llawer mwy i'w fwynhau. Gellir ymweld â chestyll niferus Sir Benfro, gerddi botaneg, yn ogystal â marchnadoedd y ffermwyr a gwyliau bwyd sydd yn cymryd lle drwy gydol y flwyddyn. 

Llawr Gwaelod

Derbynfa helaeth gyda grisiau yn arwain i fyny at Pembroke Retreat.

Mae'r llety wedi ei leoli ar lawr cyntaf ac ail lawr un hanner melin ddŵr sydd wedi ei hadnewyddu.

Mae yma gegin fasnachol ac ystafell fwyta fawr ar y llawr gwaelod - gellir defnyddio'r rhain gan y gwestai yn unig pan fydd y ddau lety yn cael eu archebu gan un parti, sy'n caniatau i bawb goginio a bwyta gyda'i gilydd.

Mae yna hefyd doiled anabl ar y llawr gwaelod.  

Llawr Cyntaf

Lolfa helaeth gyda soffas lledr a theledu lloeren (freeview a Sky+), chwaraewr DVD, a gorsaf docio IPOD. 

Cegin - gyda'r holl offer yn cynnwys popty, meicrodon a llestri.

Ystafell wely 1 - gyda gwely sengl a theledu.

Ail lawr

Ystafell wely 2 - ystafell deuluol gyda gwely dwbwl, gwely sengl a theledu.

Ystafell wely 3 - gyda gwely sengl.

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn.

Gardd

Patio caeedig gyda lawnt a 30 acer o dir preifat.

Gwybodaeth Ychwanegol

Trydan a gwres canolog yn gynwysedig   

Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael  

WIFI am ddim

Cot a chadair uchel ar gael os dymunir   

Ystafell olchi a sychu dillad  

Dim anifeiliaid anwes

Lle parcio diogel  

Mae lle yn Pembroke Retreat ar gyfer storio eich offer adloniadol   

Dewis o gemau a theganau plant ar gael  

Gellir trefnu i logi beic os dymunir  

Gwasanaeth pigo i fyny neu ollwng i lawr ar gael i westeion sydd am gerdded llwybr yr arfordir neu ymweld â mannau eraill yn yr ardal   

Gellir archebu'r llety am wyliau byr ar rai adegau o'r flwyddyn. Mwy o wybodaeth o dan 'Prisiau'  

Gellir cyfuno'r llety hefo Pembroke Mill i gysgu hyd at 12

 

Location

Mae Pembroke Retreat yn un o ddau lety hunan ddarpar oddi mewn i hen felin ddŵr sydd newydd ei hadnewyddu. Wedi ei leoli ar 30 acer o dir preifat, hanner milltir o ganol tref Penfro a 5 munud o'r traeth agosaf. Mae llawer iawn i'w wneud yn yr ardal, gan gynnwys 7 cwrs golff o fewn taith chwarter awr yn y car. 

Tref fach yw Penfro ei hun wedi ei hamgylchynu gan wal hynafol - y rhan fwyaf yn dal i sefyll. Fe saif Castell Penfro yn urddasol ger cefnen greigiog gyda dŵr ar dair ochr - dyma un o'r cestyll Normanaidd sydd wedi goresgyn orau yn y wlad. Mae'n hawdd gweld pam y datganwyd Penfro yn ardal cadwraeth yn 1977. Gellir dod o hyd i nifer o dafarndai lleol traddodiadol yn y dref.

Heb fod ymhell o'r llety hwn mae trefi glan môr Dinbych y Pysgod a Llanussyllt (Saundersfoot); trefi hanesyddol Doc Penfro ac Aberdaugleddau; cestyll Maenorbŷr a Caeriw; traethau gwych arfordir De Sir Benfro; tref farchnad boblogaidd Narberth; dyfrffordd hardd Aberdaugleddau, ac wrth gwrs, Llwybr Arfordirol Penfro. Mae hyn i gyd, yn ogystal â llawer o atyniadau a gweithgareddau eraill i'w darganfod yn yr ardal. I'r rhai sy'n mwynhau chwaraeon dŵr neu'r traethau, nid oes unrhyw Sir arall yn y DU gyda mwy o wobrau glan môr neu draethau Baner Lâs, felly os ydech am syrffio, caiacio, hwylio, neu ymlacio ar y tywod, mae yna draeth i chi - yr agosaf ond 5 munud i ffwrdd a 49 arall heb fod ymhell yn y car!

Os ydych wrth eich bodd yn bwyta ac yfed ar eich gwyliau, mae yna dafarndai lleol traddodiadol a bwytai, o fewn pellter cerdded i'ch llety. Mae porthladd yr Irish Ferry ond 5 munud o Pembroke Mill, a gyda llongau yn rhedeg ddwywaith y dydd, beth am daro drosodd i Iwerddon am y diwrnod. 

Mae nifer o atyniadau teuluol yn yr ardal yn cynnwys parciau antur, parciau dŵr, sŵ a chanolfannau bywyd gwyllt, chwaraeon dŵr, gwîb gartio, saethyddiaeth, marchogaeth ar y traeth, adar ysglyfaethus, tripiau ar gwch i ddarganfod ynysoedd lleol, a llawer, llawer mwy.

Beaches

Traeth Aberfawr (Freshwater East) yw'r agosaf i Pembroke Retreat, yn wynebu'r dwyrain, ac wedi ei gysgodi o'r gwynt sy'n ei wneud yn ddelfrydol i deuluoedd (4 milltir)   

Traeth Barafundle - un o'r traethau gorau ym Mhrydain a'r byd; fe'i gymherir yn aml i draeth yn y Caribî, ond yn well! (4.9 milltir)  

Chwaraeon Dŵr

Un o'r ardaloedd gorau am anturiaethau chwaraeon dŵr yn cynnig tripiau jet-sgi, hurio caiac, hurio cwch modur, a phob math o chwaraeon bordiau - Tenby Watersports (11 milltir)

Cerdded

Cerdded ar gyfer pob gallu ar stepen y drws, gyda tafarn leol i dorri syched heb fod ymhell - Llwybr Arfordirol Penfro (0.5 milltir)

Pysgota

Heb fod ymhell o'r llety, mae pysgota môr gwych yn Aberdaugleddau (harbwr naturiol ail fwyaf y byd) (8 milltir)  

Tripiau cwch i bysgota neu i weld y golygfeydd o Ddinbych y Pysgod (11 milltir) neu Aberdaugleddau (8 milltir)   

Golff

Clwb Golff De Penfro - cwrs gwych 18 twll yn addas ar gyfer golffwyr o bob gallu drwy gydol y flwyddyn (3.5 milltir)  

Beicio

Mae'r ffyrdd gwledig tawel yn ddelfrydol ar gyfer beicio i bob oed a gallu, gyda llwybrau megis Cardi Bach a Llys y Frân gerllaw. Mae ffyrdd lleol yn arwain yn syth o'r llety (0 milltir)   

Marchogaeth

Marchogaeth Traeth Stablau Nolton - busnes teuluol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro (19 milltir)