- £592 per week
- £85 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae Ger y Traeth, bwthyn hunan-ddarpar yn Nhrefdraeth, yn cysgu hyd at 6 o westai ac mae modd edrych dros y traeth yn Nhrefdraeth, Sir Ddinbych ac Aber Nyfer ohono. Mae yna lwybr byr sy’n mynd lawr at y traethau ar ochr Parrog y Bae ac mae hefyd modd cerdded i fwytai, caffis, tafarndai traddodiadol a llwybr arfordir Cymru o’r bwthyn. Mae’r bwthyn hunan-ddarpar hwn yn Nhrefdraeth mewn lleoliad delfrydol ar gyfer deulu neu grwp o ffrindiau.
Llawr Gwaelod
Cegin – popty drydan, hob nwy ychwanegol, micro-don, peiriant golchi llestri, peiriant golchi dillad, peiriant sychu dillad, oergell a rhewgell maint llawn.
Lolfa - Soffas lledr cyfforddus gyda lle i 6 eistedd arnynt, drysau patio sy’n arwain at yr ystafell wydr. Teledu gyda freeview a chwaraewr DVD, ac mae hefyd gasgliad o lyfrau i’w mwynhau.
Ardal fwyta – Bwrdd bwyd clasurol a chrand gyda lle i chwech eistedd, agoriad gweini yn y wal wedi’i gysylltu i’r gegin.
Ystafell wydr - Golygfeydd syfrdanol o’r traethau, Traeth Mawr ac Aber Nyfer.
Un ty bach ar wahân.
Prif ystafell ymolchi gyda baddon ac ardal â theils ar wahân ar gyfer y gawod.
Prif ystafell wely – Golygfeydd gwych ar hyd y bae o wely maint 'super king' gyda matres foethus 9000 sbring. Bwrdd ymbincio a chwpwrdd dillad.
Ystafell wely twin - Ystafell fawr gyda dau wely gyda bwrdd ymbincio, ystafell gawod en-suite a mynediad trwyddo i’r drydedd ystafell wely.
Ystafell wely ddwbl - Gwely dwbl a chwpwrdd dillad gyda ffenestr lled yr ystafell. Nodwch mai trwy’r ystafell wely twin y mae cyrraedd yr ystafell wely ddwbl.
Gardd
Gardd hollol amgaeedig gyda golygfeydd gwych. Gardd 360* lle gallwch fwynhau’r haul ar bob adeg o’r dydd.
Ardal barbeciw a storfa ddiogel ar gyfer beiciau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso wrth gyrraedd, gall y cynnwys amrywio yn dibynnu ar y tymor ond yn cynnwys te, coffi, siwgr a llaeth.
- Darperir dillad gwely a thywelion dwylo. Dewch â thywelion traeth eich hun.
- Trydan a gwres canolog yn gynwysedig.
- Cot a chadair uchel ar gael.
- Mae croeso i anifeiliaid anwes am £20 yr anifail - ni chaniateir cwn mawr, ac ni chaniateir gadael cwn yn y ty heb oruchwyliaeth.
- Man parcio o flaen y ty.
- Dim ysmygu
- Storfa ddiogel i feics
- Nodwch mai drwy'r ystafell twin y mae cyrraedd yr ystafell wely ddwbl.
- Wifi ar gael
- Darperir yr eitemau canlynol yn y bwthyn hefyd... Cegin: halen a phupur, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi peiriant golchi llestri. Ystafell Ymolchi: 2 bapur toiled i bob toiled. Offer glanhau: Chwistrellydd gwrth facteria ac ati.