Bwthyn Trefdraeth

Newport, Pembrokeshire West Wales

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

You can book this property from:

  • £554 per week
  • £79 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae Bwthyn Trefdraeth yn cynnig golygfa drawiadol, ddi-dor o Fae Trefdraeth. Mae ei leoliad delfrydol yn ei wneud yn safle perffaith ar gyfer cerdded llwybr arfordirol cyfagos Sir Benfro, y Parc Cenedlaethol neu i ymweld â thref glan môr hyfryd Trefdraeth, Sir Benfro. O fewn pellter cerdded mae traeth Trefdraeth, cildraethau pellach ac amrywiaeth o fwytai a thafarndai cyfeillgar. Yn ogystal mae Cwrs Meysydd Golff Trefdraeth, canolfannau merlota, gweithdai o grefftau lleol a chanolfannau chwaraeon gerllaw.

Fel mae’r enw Trefdraeth yn ei awgrymu, mae’r bwthyn a’r dref mor agos â phosib i’r traeth ac felly yn ddelfrydol ar gyfer nofio, syrffio gwynt, hwylio a chanwio. Mae gweithgareddau eraill i’w mwynhau yma megis tennis, beicio, pysgota a gwylio adar.

Llawr Gwaelod

Bwthyn croesawgar gyda chegin / ystafell fyw a’r lolfa ar gynllun agored.

Cegin - Unedau derw, peiriant golchi dillad, oergell, golchwr llestri, microdon yn ogystal â bar brecwast.

Lolfa - Llawr derw, soffa ledr i dri, teledu a chwaraewr DVD, ffenestr fawr yn edrych dros Fae Trefdraeth.

Ystafell ymolchi - gyda chawod, basn ymolchi, toiled a bidet.

Ystafell wely 1 - Gwely dwbl gyda chwpwrdd dillad yn y wal.

Ystafell wely 2 - Gwelyau twin gyda chwpwrdd dillad yn y wal.

Gardd

Gardd chwarae fawr o flaen y bwthyn, gyda dodrefn gardd ar gyfer prydau al fresco.

Patio gyda dodrefn gardd yn edrych dros y lawnt fawr, Bae Trefdraeth ac ar draws tuag at Gwrs Golff Trefdraeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Lle parcio eich hun ger y bwthyn.

Y perchnogion yn byw drws nesa ac yn hapus i gynnig cyngor am atyniadau lleol.

Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu o fewn y bwthyn.

Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig.

Storfa ddiogel i feiciau.

Cot a chadair uchel ar gael.

Darperir dillad gwely a thywelion.

Wi-fi ar gael.

Location

Mae llety gwyliau Bwthyn Trefdraeth, Trefdraeth, Sir Benfro wedi ei leoli yn ei dir eang ei hun, drws nesaf i gartref y perchenogion, dim ond milltir o ganol y dref. I’r de mae Abergwaun saith milltir i ffwrdd tra bo Caerfyrddin ddeuddeg milltir i’r gogledd.

O fewn pellter cerdded mae tref arfordirol hyfryd Trefdraeth gyda naws gwirioneddol Gymreig iddi. Mae’n un o’r llefydd tecaf am wyliau yng Nghymru gydag amrywiaeth o siopau, orielau celf niferus, siopau crefftau, siopau antiques, siopau llyfrau a siopau coffi. Mae’r holl dafarndai a’r bwytai lleol yn darparu bwydlenni, llawer gyda chynnyrch ffres lleol gan gynnwys cregynbysgod wedi eu dal yn lleol, bwyd môr a gleisiaid afon Nyfer. Wedi ei leoli ar arfordir gogledd Sir Benfro mae tair tref fwy Abergwaun, Caerfyrddin a Hwlffordd i gyd o fewn hanner awr yn y car.

I mewn i’r wlad o Fwthyn Trefdraeth mae Mynyddoedd hynafol y Preseli. Mae yna lawer o chwedlau a straeon gwerin yn ymwneud â’r mynyddoedd hudolus rhain ac oddi yma y daw meini gleision Stonehenge flynyddoedd maith yn ôl. Mae mynyddoedd Carningli hefyd uwchben y dref ac er mai dim ond 400 metr mewn uchder yw lleoliad y dref arfordirol, mae’n ei wneud yn llecyn unigryw am olygfeydd godidog.

Ar gyfer cerddwyr mae Poppit Rocket y bws gwennol yn rhedeg ar hyd yr arfordir o Drefdraeth tuag at Gaerfyrddin a gyda llawer o fannau gollwng ar hyd y ffordd mae’n ddelfrydol ar gyfer cyrraedd y rhannau cerdded o Lwybr Arfordirol Sir Benfro.

Yn enwog am ddigonedd o ddolffiniaid a llamhidyddion, mae’r pentir ar hyd y rhan hwn o arfordir Sir Benfro yn cynnig cyfleoedd gwych i ryfeddu ar y mamaliaid arbennig rhain.

Traethau

Traeth Mawr yw’r mwyaf o’r traethau gyda bron i filltir o dywod gwastad euraidd. Yn ystod yr haf mae yna ranbarth ar gyfer nofio diogel dan wyliadwriaeth achubwyr bywydau.

Cerdded

Gellir mwynhau rhannau gorau Llwybr Cerdded Arfordirol gogledd Sir Benfro yn hawdd a heb ormod o ymdrech, 0.5 milltir.

Pysgota

Mae yna lefydd pysgota gwych o amgylch ardal Trefdraeth.

Pysgota môr - Lle mae’r afon Nyfer yn cyfarfod â’r môr ac yn fan poblogaidd am ddraenogiaid y môr a lledennod, 0.5 milltir.

Pysgota bras - Digonedd o lynnoedd gan gynnwys Pysgodfa Fras Yet-y-Gors, 7 milltir.

Pysgota Gêm - Mae gan afon Nyfer frithyll brown gwyllt a rhediad eog a brithyll môr, 0.5 milltir.

Golff

Mae gan Drefdraeth rhai o’r cyrsiau cyswllt gorau yn y Deyrnas Unedig, wedi eu lleoli ar hyd y Llwybr Arfordirol, 2 filltir.

Beicio

Mae digonedd o lwybrau a ffyrdd lleol a distaw yn yr ardal yn ei gwneud yn wych ar gyfer beicio. Gellwch feicio'r holl ffordd o’r bwthyn i draethau Trefdraeth.

Merlota

Mae Asiant Geffylau Ffynnon y Groes yn darparu ar gyfer marchogwyr newydd a phrofiadol, 3 milltir.