Ael y Bryn

Newport, Pembrokeshire West Wales

  • 4 Star
  • Bwthyn gwyliau yn Nhrefdraeth Sir Benfro o fewn pellter cerdded i'r traeth a'r pentref bach glan môr

You can book this property from:

  • £471 per week
  • £67 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 4 o welyau sengl
  • 1 gwely soffa

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae Ael y Bryn yn fwthyn o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, sydd wedi ei adnewyddu yn drawiadol i gadw ei gymeriad. Mae'r bwthyn wrth droed Castell Trefdraeth ac o fewn pellter cerdded i bentref arfordirol Trefdraeth, gyda'i ddewis o gaffis, siopau lleol, bwytai a thafarndai. Mae'n leoliad gwyliau delfrydol sydd yn cynnig traeth gwych, llwybr arfordirol a cwrs golff trawiadol gerllaw. Mae'n cynnwys 3 man parcio. Adeiladwyd y ty yn wreiddiol fel cartref i reolwr y felin wlan a leolir drws nesaf, ac fe welir addurn stensil unigryw ar wal y cyntedd.

Llawr Gwaelod

Cegin ac ardal fwyta agored. Cegin fodern llawn offer, yn cynnwys popty a hob nwy, meicrodon, peiriant golchi llestri ac oergell. Bar brecwast ac hefyd bwrdd bwyta gyda lle i 6 eistedd.

Lolfa gyda thân coed o fewn y lle tân gwreiddiol, teledu a soffas cyfforddus.

Ail ystafell eistedd, yn ddelfrydol ar gyfer ymlacio, gyda dewis eang o lyfrau a gemau bwrdd, chwaraewr CD a radio

Ystafell arwahan gyda rhewgell, oergell ychwanegol a pheiriant golchi dillad, lle i sychu a storio

Toiled lawr grisiau

Llawr Cyntaf

Llofft wely ddwbl - ystafell ymolchi ynghlwm gyda chawod a thoiled

Llofft twin

Prif ystafell ymolchi gyda thoiled, basn, bath â chawod uwchben

Llofft twin yn yn cefn gyda golygfeydd o’r môr

Gardd

Drysau dwbl yn agor allan o’r ystafell fwyta i’r ardd lle ceir bwrdd a chadeiriau, yn ogystal â Barbaciw braf. I’r cefn mae ardal helaeth o laswellt yn codi ar i fyny gyda mynediad ato drwy gât (sylwer, mae angen gofal o blant bach yn yr ardal yma). Gellir mwynhau golygfeydd o’r môr dros doeon y tai oddi yma. Mae yna hefyd garej ar gyfer storio beiciau, caiacau, ayb yn ddiogel

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso Cymreig yn gynwysedig
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig
  • Cyflenwad gwreiddiol o goed tân yn gynwysedig, gellir prynu rhagor os dymunir
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir (bydd yn rhaid dod â dillad eich hun i’r cot)
  • Dim ysmygu
  • Dim anifeiliad anwes
  • Wi-Fi yn gynwysedig
  • Gellir trefnu angorfa i ymwelwyr gyda’r gymdeithas angorfa annibynnol leol gyda rhybudd ymlaen llaw (darperir manylion ar ôl bwcio)
  • Man diogel i storio beiciau ayb
  • 3 man parcio oddi ar y ffordd (caffaeliad mawr yn Nhrefdraeth)

 

Location

Bwthyn gwyliau ym mhentref Trefdraeth yw Ael y Bryn gyda gardd fawr i’r ochr a’r cefn. Gellir cyrraedd orielau celf, a siopau amrywiol yn cynnwys siopau crefftau, siopau hen greiriau, siopau llyfrau a siopau coffi o fewn taith gerdded fer. Mae yna ddewis o dafarndai a bwytai, a gellir hefyd brynu cynnyrch lleol sy’n cynnwys pysgod, pysgod cregyn a gleisiaid (sewin) yn ffres o’r afon Nanhyfer. Wedi eu lleoli ar Arfordir Ogleddol Sir Benfro mae trefi Abergwaun, Aberteifi a Hwlffordd (gydag archfarchnadoedd a siopau amrywiol) - i gyd o fewn 30 munud i’r bwthyn.

Mae’r arfordir yn adnabyddus am ei ddolffiniaid, a gellir archebu trip ar long o dref Aberteifi. Fe geir nifer o atyniadau gwych yn yr ardal gan gynnwys Cardigan Island Coastal Farm Park, Dyfed Shire Horse Farm, Folly Farm a Parc Thema Oakwood. Fe welir adfeilion Castell yn Nhrefdraeth, gyda llawer o gestyll eraill gerllaw yn cynnwys Castell Aberteifi a Chilgerran. Mae Pentref Oes Haearn Castell Henllys yn fan sy’n werth ymweld ag ef - yma gellir teithio yn nol 2000 o flynyddoedd mewn amser

Mae Mynyddoedd y Preseli i mewn i’r tir o Drefdraeth a ceir llawer o chwedleuon a storiau yn ymwneud â’r mynyddoedd hudol hyn. Dywedir i gerrig gleision byd enwog Stonehenge darddu o’r bryniau hyn. Mae Mynydd Carningli yn gorwedd gerllaw Trefdraeth, ac er ei fod ond 400 metr o uchder, mae ei leoliad ger yr arfordir yn ei wneud yn fan unigryw gyda golygfeydd anhygoel o’i gopa. Ar ddiwrnod clir gellir gweld y Wyddfa a Gogledd Cymru oddi yno, ac ar adegau gellir gweld drosodd i Iwerddon a Mynyddoedd Wiclow. I gerddwyr, mae’r bws gwennol ‘Poppit Rocket’ yn teithio ar hyd yr arfordir o Drefdraeth tuag at Aberteifi, a gyda llawer o arhosiadau ar hyd y ffordd, mae’n ddull delfrydol i gerdded rhannau o Lwybr Arfordirol Cymru

Traethau
  • Traeth Mawr yw’r mwyaf o’r traethau gyda bron i filltir o dywod euraidd. Yn ystod yr haf fe geir parth nofio diogel sydd yn cael ei oruchwylio gan warchodwyr (0.6 milltir)
Chwaraeon Dwr
  • Gellir trefnu angorfa i ymwelwyr gyda’r gymdeithas angorfa annibynnol leol gyda rhybudd ymlaen llaw (0.6milltir)
Cerdded
  • Gellir mwynhau teithiau cerdded ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru heb lawer o ymdrech (0.6 milltir)
  • Mae yno hefyd lwybrau lleol eraill uwchben y bwthyn sydd yn cynnig golygfeydd gwych dros yr arfordir (0.1 milltir)
Pysgota
  • Mae yna bysgota gwych o gwmpas ardal Trefdraeth
  • Pysgota Môr - mae aber yr afon Nanhyfer yn fan poblogaidd am ddraenogiaid y môr (sea bass) a pysgod fflat (flat fish) (0.5 milltir)
  • Pysgota garw (coarse) - llawer o lynnoedd gan gynnwys Pysgodfa Yet-y-Gors (7 milltir)
  • Pysgota Gêm (game) - gellir ceisio dal brithyll brown, eogiaid a brithyll y môr yn Afon Nanhyfer (0.5 milltir)
Golff
  • Mae un o’r cyrsiau linc gorau ym Mhrydain Fawr wedi ei leoli yn Nhrefdraeth (1.2 milltir)
Beicio
  • Mae’r llwybrau a’r lonydd cefn tawel sydd yn yr ardal yn fannau delfrydol ar gyfer beicio. Mae taith feicio blynyddol Sir Benfro yn pasio drwy Drefdraeth bob mis Ebrill (0.1 milltir)
Marchogaeth
  • Mae Crosswell Horse Agency yn darparu ar gyfer marchogion di-brofiad yn ogystal â’r profiadol (3 milltir)