Cei Gwaun

Fishguard, Pembrokeshire West Wales

  • 4 Star Gold
  • Mae'r bwthyn Cymreig hwn ar waelod Cwm Gwaun, gyda'r afon yn rhedeg i'r cei hardd gerllaw.

You can book this property from:

  • £728 per week
  • £104 per night
  • 4 Star Gold

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 7:00pm
  • Amser gadael: 9:00am

Description

Mae'r bwthyn Cymreig hwn ar waelod Cwm Gwaun, gyda'r afon yn rhedeg i'r cei hardd gerllaw. Mae wyneb y bwthyn yn restredig ac wedi ei adnewyddu'n gariadus gan ddarparu yr hyn oll y byddwch ei angen ar gyfer gwyliau yng Ngogledd Penfro, yn cynnwys balconi trawiadol ar y llawr cyntaf sy'n edrych allan dros yr ardd gefn ac ymlaen i goetir hardd Cwm Gwaun. Mae tafarn draddodiadol, 'The Ship Inn' lai na munud i ffwrdd, yn ogystal a'r cei, sydd yn ddelfrydol ar gyfer caiacio, pysgota crancod a cherdded. Mae digon o draethau yn yr ardal ac hefyd ystod eang o weithgareddau ac atyniadau ar gyfer pob tywydd. 

Llawr Gwaelod

Lolfa/ardal fwyta gyda stôf goed (coed cychwynol ar gael), bwrdd a chadeiriau bwyta, cadeiriau a theledu, yn arwain drwodd i gegin gyda'r holl offer yn cynnwys hob 'induction', popty, meicrodon, peiriant golchi llestri, bar brecwast gyda 2 stôl, ac oergell/rhewgell mawr. Drws cefn yn arwain allan i'r ardd gyda lle i eistedd.

Lolfa/ystafell ddarllen gyda soffas lledr cyfforddus, teledu a stôf goed.

Ystafell iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad, ystafell ymolchi gydag uned gawod, basn a thoiled. 

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl gydag en-suite yn cynnwys uned gawod, basn a thoiled.

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl

Ystafell wely 3 - dau wely sengl

Ystafell wely 4 - gwely sengl

Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod oddi mewn, basn a thoiled.

Landin gyda drysau patio yn arwain i'r balconi sy'n edrych allan i'r ardd gefn, a golygfeydd o Gwm Gwaun.

Tu Allan

Gardd gaeedig gyda lawnt a dodrefn gardd. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso Cymreig yn gynwysedig    
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig ond dewch â thywelion eich hun i'r traeth    
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir (dewch â dillad eich hun i'r cot)     
  • Dim ysmygu 
  • Croesewir anifeiliaid anwes - mwyafrif o 2 gi @ £20 y ci. Ni ddylid gadael cwn ar ben eu hunain ac ni chaniateir iddynt fynd fyny grisiau neu ar y gwelyau   
  • Wifi ar gael
  • Parcio ar gyfer un car - parcio ychwanegol yn y maes parcio cyhoeddus yn y Cei  
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri. Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol     

Gwybodaeth ar gyfer yr Anabl a'r Llai Abl   

  • Mynediad gwastad i'r llety   
  • Parcio rhwydd ac wyneb slabiau a choncrid i mewn i'r llety    
  • Yr ystafelloedd gwely i gyd ar y llawr cyntaf   
  • Croesewir cwn tywys    

Location