Ty ar y Mynydd

Aberystwyth, West Wales

  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% october Half Term offer for stays between 18th until 31st October 2024

You can book this property from:

  • £723 per week
  • £103 per night
  • 5 Star
  • This property can be found on Niche Retreats

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Dringo
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Hollol unigryw ac ysbrydoledig ac yn guddfan berffaith. Os ydych chi’n edrych am leoliad tawel â golygfeydd, sydd ymhell o bob dim, mae’r bwthyn gwyliau hyfryd a diarffordd hwn yn cynnig yr encil perffaith yng nghanol mynyddoedd y Cambria yng Nghanolbarth Cymru. Enillydd gwobr lletygarwch ‘Y croeso gorau yn Aber’ 2017. 

Ychwanegiad Newydd Sbon i’r Wefan

Mae golygfeydd eang o’r mynyddoedd i’w gweld o bob ffenestr o’r eiddo hwn sydd wedi’i ailwampio’n drwsiadus. Hyd yn oed ar y ffordd i’r bwthyn, bydd Pumlumon, y mynydd uchaf o blith mynyddoedd y Cambria, yn dod i’r golwg. Nid oes yr un tŷ arall i’w weld, ac mae gwyliau yn Tŷ ar y Mynydd yn brofiad gwirioneddol ryddhaol lle gallwch fwynhau’r ardd fwyaf, o bosibl, yng Nghymru! Mae’n 8 milltir i ffwrdd o bentref Tal-y-bont gyda’i siop, tafarn a bwyty, ond eto mae’n fyd gwahanol i brysurdeb gwallgof bywyd modern. Os oes angen, gall y perchennog hefyd ddarparu mynediad i gerbyd 4x4.  

Llawr Gwaelod

Ystafell fyw cynllun agored gyda stôf llosgi coed, soffas lledr, teledu Freesat, chwaraewr DVD a radio/chwaraewr CD. Ardal fwyta gyda golygfeydd o’r mynyddoedd, yn arwain at gyntedd bychan / ardal eistedd wrth flaen y tŷ sydd â golygfa anhygoel o’r mynyddoedd.

Mae popeth sydd ei angen arnoch chi i’w gael yn y gegin, gan gynnwys peiriant golchi llestri, ffwrn a microdon, oergell / rhewgell a pheiriant golchi dillad.

Ystafell ymolchi gyda chawod dros y bath, tŷ bach a basn ymolchi.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 – gwely dwbl, teledu ar y wal, a golygfeydd eang.

Ystafell wely 2 – gwelyau sengl, teledu a’r un olygfa â’r ystafell wely ddwbl.

Ystafell gwely bync, hefyd gyda theledu a golygfeydd o’r mynyddoedd.

Ystafell gawod gyda thŷ bach, rheilen cynhesu tyweli a basn ymolchi.

Gardd

Patio amgaeedig, teras, set barbeciw a dodrefn gardd wedi’u hamgylchynu gan olygfeydd 360 gradd o ucheldiroedd naturiol heb eu difetha. Dewch â’ch sbienddrych i wylio adar a mwynhau’r golygfeydd o’r mynyddoedd mawr, gan werthfawrogi’r tawelwch o’ch cwmpas. Gan nad oes llygredd golau yma, mae’n berffaith hefyd ar gyfer gwylio’r sêr.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Er gwybodaeth: mae llynnoedd ac afonydd yn yr ardd. Mae’r ffordd fynediad i’r eiddo yn addas ar gyfer cerbydau uchel neu gerbydau 4x4. Ar gyfer teuluoedd a chyplau yn unig, gall y perchennog ddarparu cerbyd 4x4 i’w ddefnyddio ar gais, i gael mynediad i’r tŷ, yn ôl yr angen.
  • Pecyn i’ch croesawu pan gyrhaeddwch.
  • Darperir dillad gwely, a thyweli bach a mawr.
  • Trydan (paneli solar), nwy a gwres canolog nwy llawn yn gynwysedig.
  • Stôf llosgi coed – tanwydd yn gynwysedig.
  • Darperir cot teithio a chadair uchel ar gais.
  • Wi-fi ar gael.
  • 1 anifail anwes am ddim.
  • Dim ysmygu y tu mewn.
  • Digon o fannau parcio.
  • Man storio ar gyfer beiciau ac ati.

 

Location

Tri pheth sy’n bwysig, medden nhw: lleoliad, lleoliad, lleoliad. Os felly, mae’r bwthyn carreg hwn a saif ar ei ben ei hun yn cynnig profiad cwbl unigryw a bythgofiadwy i deuluoedd a chyplau. Mae wedi’i leoli yng nghanol Mynyddoedd y Cambria yng Nghanolbarth Cymru, ac mae hefyd o fewn Biosffêr Dyfi, yr unig ardal yng Nghymru sydd wedi’i chofrestru gan UNESCO. Mae mor ddiarffordd ag y gall bwthyn gwyliau diarffordd fod: y llecyn tawel perffaith yw Tŷ ar y Mynydd. Ceir mynediad iddo ar hyd trac graean da â golygfeydd, sy’n croesi rhyd ar y ffordd. Dyma antur o’r cychwyn i’r diwedd! Gall y perchennog ddarparu cerbyd 4x4 os oes angen.

Cafodd ei adeiladu ym 1886 ac, ar un adeg, bugeiliaid oedd yn defnyddio’r lle. Nid oedd yn bosibl cael mynediad iddo yn y 1950au yn sgil adeiladu’r argae trydan-dŵr yn Nant y Moch. Wedi hynny, safodd yn unig a gwag am nifer o flynyddoedd nes i ffordd 8 milltir gael ei hadeiladu i’w gysylltu â phentref Tal-y-bont, sydd â siop, tafarn a bwyty. Prynodd y perchnogion presennol y tir a’r bwthyn yn yr 1980au ac fe’i defnyddiwyd i storio bwyd defaid nes ei ailwampio’n llwyr yn 2011. Yna, ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe’i trawsnewidiwyd yn gartref gwyliau hardd mewn lleoliad unigryw.

Wrth ichi agosáu at y bwthyn, bydd Pumlumon, y copa uchaf ym Mynyddoedd y Cambria, yn dod i’r golwg, gyda’i 760 milltir sgwâr o rug, coedwigoedd, llynnoedd disglair, a nentydd sy’n ffynonellau i afonydd godidog yr Hafren a’r Wysg. Mae’r tir uchel, eang hwn fel pe bai’n ymwrthod â gwareiddiad – cuddfan i gerddwyr, beicwyr mynydd a gwylwyr adar fel ei gilydd ydyw.

Os gallwch dynnu eich hunan i ffwrdd o lonyddwch y bwthyn gwyliau diarffordd hwn, mae ffordd fynydd odidog sy’n werth ei harchwilio, draw i gronfa Nant-y-moch ac ymlaen i Bonterwyd a Phontarfynach. Heb os, mae’n werth ymweld â threfi glan y môr Aberystwyth ac Aberaeron, yn ogystal â thref farchnad Machynlleth (prifddinas hynafol Cymru), yn ystod eich ymweliad. Mae’r dref agosaf, Aberystwyth, yn dref brifysgol brysur, ac yn gartref i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, castell a chanolfan gelfyddydau fwyaf Cymru. Gallwch deithio o’r dref ar y Rheilffordd Gul hefyd i Bontarfynach sydd â rhaeadrau enwog a theithiau cerdded hyfryd. Ymhlith y pethau eraill sydd i’w gwneud a’u gweld yn yr ardal mae Gwarchodfa Natur Ynys-hir a’r twyni tywod, y traeth a’r anifeilfa yn Borth, golffio a physgota.

Traethau

Traethau hardd o fewn 15 milltir i Borth ac Ynyslas, gyda thref glan y môr boblogaidd Aberystwyth 16 milltir i ffwrdd.

Cerdded

  • Digon o deithiau cerdded ar y mynyddoedd o stepen eich drws.
  • Mae teithiau tywys ar gael hefyd os hoffech gerdded ym Mynyddoedd y Cambria yng Ngheredigion a sir Gaerfyrddin, a’r rheini wedi’u trefnu gan twmstreks.com. Mae Twm’s Treks yn wasanaeth tywys cerddwyr, a gallan nhw ddarparu teithiau cerdded diwrnod llawn neu hanner diwrnod ym Mynyddoedd y Cambria. Y tywysydd profiadol Dafydd Wyn Morgan sy’n rhedeg y teithiau. Mae wedi bod yn cerdded ym mynyddoedd Ceredigion a sir Gaerfyrddin ers pan oedd yn 7 oed, felly mae’n adnabod yr ardal fel cefn ei law ac mae’n llawn o wybodaeth ychwanegol a fydd yn ychwanegu at eich profiad.
  • Ymunwch â’r llwybr arfordirol yn Borth – 14 milltir.

Beicio

  • Mae’r mynyddoedd o amgylch yn berffaith ar gyfer beicio, ac mae man storio beiciau yn y bwthyn.
  • Beicio Mynydd Dyfi – mae pob llwybr yn dechrau o Fachynlleth. 19 milltir.
  • Canolfan Beicio Mynydd Nant yr Arian – un o brif ganolfannau beicio mynydd Cymru. 22 milltir.

Gwylio adar

Yr RSPB yn Ynys-hir, Prosiect Gweilch Dyfi, Canolfan Bwydo Barcutiaid Coch yn Nant yr Arian.

Golff

Mae’r bwthyn o fewn 15 milltir i Glwb Golff Borth, ac 17 milltir i Glwb Golff Aberystwyth.