- £635 per week
- £91 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 2 o welyau soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Newydd ei adnewyddu, mae gan y llety hunan-ddarpar hwn ger Tywyn dwb poeth a golygfeydd godidog dros Ddyffryn Dysynni tua’r môr a Bae Ceredigion. Cynigia’r llety Cymreig gyfuniad gwych o foethusrwydd a lleoliad penigamp ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ymhell o swn unrhyw draffig. Mae traethau poblogaidd Tywyn ac Aberdyfi ychydig filltiroedd i ffwrdd a cheir yn ogystal fynediad preifat i draeth dair milltir i ffwrdd.
Dyma safle canolog perffaith i fwynhau’r atyniadau lleol megis ramblo, heicio a beicio gyda mynediad gwych at lwybrau cerdded lleol. Bydd croeso cynnes Cymreig yn eich aros.
Llawr Gwaelod
Mae’r ysgubor Gymreig hyfryd hon wedi ei hadnewyddu’n llwyr ond nid yw wedi colli dim o’i chymeriad gwreiddiol. Mae’r brif ystafell yn gegin/ystafell fwyta a byw ar gynllun agored ac yn llawn cyfaredd gwledig.
Mae’r gegin fodern yn cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol megis peiriant golchi llestri, oergell, rhewgell, stôf drydan, microdon a pheiriant golchi dillad, yn ogystal â bar brecwast. Bwrdd bwyta mawr derw gyda digonedd o lefydd eistedd i 8 o westai.
Ceir soffas cyfforddus lledr yn y lolfa a theledu gyda sgrin fflat o amgylch y lle tân gwreiddiol a’i stôf llosgi coed groesawgar.
Llawr Gwaelod Isaf
Ystafell wely ddwbl eang en-suite gyda drws stabl traddodiadol sy’n darparu mynediad preifat i’r buarth tu allan.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely maint king gyda’i falconi preifat ei hun yn edrych dros Ddyffryn Dysynni ac arfordir Bae Ceredigion – cwbl wefreiddiol. Y lle perffaith i ymlacio a mwynhau’r ardal o’ch cwmpas.
Ystafell wely twin gyda chypyrddau yn y waliau. Digonedd o gymeriad gyda’r trawstiau derw a’r ‘A frames’ hyfryd.
Mae’r oriel a’i thrawstiau derw yn cynnwys gwely soffa dwbl ar gyfer dau ymwelydd ychwanegol pe bai angen. Ceir hefyd ystafell ymolchi fawr deuluol gyda chawod dros
y bath sydd yn edrych allan ar y caeau gerllaw.
Gardd
Mae ardal batio tu allan gyda bwrdd picnic a set barbeciw – delfrydol ar gyfer pryd o fwyd gyda golygfeydd gwefreiddiol i’w mwynhau hefyd, y cyfan tu mewn i fuarth gyda wal o’i gwmpas. Digonedd o le i’r plant chwarae’n ddiogel ac wrth gwrs - twb poeth preifat.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd pecyn croesawu yn eich disgwyl wrth i chi gyrraedd, gyda chacen gartref, llefrith, bara ffres, wyau, te a choffi. Darperir yn ogystal wybodaeth am yr ardal gyfagos.
- Darperir dillad gwely, tywelion bath a llaw a dau sychwr gwallt.
- Trydan, gwres a choed tân yn gynwysedig.
- Darperir cot, cadair uchel a giât ar gyfer y grisiau ar gais. Dewch â’ch dillad gwlâu eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda.
- Ni chaniateir ysmygu nac anifeiliaid anwes tu mewn i’r bwthyn.
- Digonedd o le parcio ar gael.
- Cyfleusterau glanhau beiciau ar gael yn ogystal a storfa ddiogel i’w cadw dan glo os oes angen.
- Mae’r perchnogion yn gwneud eu byrgers cig oen Cymreig eu hunain, ac mae croeso i chi eu blasu.