Becws Clyd

Trawsfynydd, North Wales Snowdonia

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

You can book this property from:

  • £513 per week
  • £73 per night
  • 4 Star Gold

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl

Cegin

  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Hyfryd a rhamantus, mae’r llety hwn i ddau yn Nhrawsfynydd yn cynnig lleoliad gwych a chanolog i archwilio Parc Cenedlaethol Eryri. Un tro’n darparu bara ffres i’r pentref i gyd, mae’r hen fecws hwn bellach yn darparu encil modern a steilus i gyplau, gyda digon o foethusrwydd tu mewn. Mae’r atyniadau a’r gweithgareddau lleol yn ddi-ben-draw.

Ar gyfer dyddiau ymlaciol mae gennych drenau stem, ogofau llechi, cestyll, gerddi, nifer o lwybrau cerdded, caffis a threfi bach hyfryd. Ar gyfer y rhai mwy anturus, mae zip wire hiraf a’r trampolin tanddaearol mwyaf yn Ewrop, canolfannau beicio mynydd byd enwog a llawer mwy.

Llawr Gwaelod

Mae’r ystafell fyw hon ar gynllwyn agored yn cynnig soffa foethus sy’n gorwedd yn ôl gyda dodrefn modern a theledu sgrin fflat. To uchel cromennog.

Cegin fodern gydag oergell/adran rewgell, peiriant golchi llestri, hob/popty a nifer o offer eraill.

Ystafell wely dwbl sy’n steilus a rhamantus gyda dodrefn a digon o le storio. To uchel cromennog.

En-suite modern gyda chawod bwer drydan, basn ymolchi a thoiled, a drych sy’n cael ei oleuo gyda sensor.

Gardd

Mae’r ardal batio yn y llety hwn yn Nhrawsfynydd yn dal yr haul. Dodrefn gardd gyfforddus i chi fwynhau ac ymlacio wedi archwilio’r cefn gwlad o’ch amgylch a’r gweithgareddau awyr agored amrywiol. Darperir cyfleusterau barbeciw.

Sied y gellir ei chloi er mwyn storio beics ayyb yn yr ardd.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso wrth i chi gyrraedd. Mae hyn yn cynnwys llefrith, te, coffi, bisgedi a rhai hanfodion coginio e.e. olew, oxo, sôs brown a choch). Potel o unai gwyn neu rose pefriog, coch, gwin coch, gwyn neu rose. Cacen siocled neu fara brith. Os yn bosib a ferwch ddweud eich ffafriaeth gyda’r ddau os gwelwch yn dda.
  • Darperir lleiniau gwely, tyweli bath a dwylo ac un sychwr gwallt
  • Gwres a thrydan yn gynwysiedig
  • Wifi ar gael
  • Dim anifeiliaid nac ysmygu’r tu mewn
  • Digon o lefydd parcio oddi ar y ffordd wrth y bwthyn

Location

Mae Becws Clyd wedi ei leoli mewn lleoliad heddychlon, ond eto o fewn pellter cerdded ar hyd lôn wledig i holl gyfleusterau’r pentref. Mae’r siop agosaf ddwy funud o gerdded o’ch llety, ble darperir yr holl bethau angenrheidiol. Mae Canolfan Dreftadaeth Hanesyddol leol hefyd o fewn pellter cerdded.

Mae’r llefydd gorau i fwyta’n lleol yn cynnwys Grapes ym Maentwrog (5 milltir). Caffi’r Llyn ger Llyn Trawsfynydd (2 filltir) a Rhiw Goch ym Mronaber (3 milltir). Mae digon o fwytai eraill sy’n cael eu hargymell o fewn pellter byr gan gynnwys Bwyty Mawddach yn Llanelltud a Chastell Deudraeth (11 milltir), Cross Foxes ger Dolgellau a’r Hebog ym Meddgelert (16 milltir) a digon i ddewis ohonynt ym Metws-y-Coed (20 milltir). Y tafarndai gorau gerllaw yw Rhiw Goch a Grapes.

Mae rhai o’r atyniadau gorau yn cynnwys Canolfan Feicio Mynydd byd enwog Coed y Brenin a Go Ape Adventures (6 milltir), Zip Wire a thrampolîn tanddaearol ym Mlaenau Ffestiniog (9 milltir). Gallwch hefyd ymweld â Rheilffordd Eryri Porthmadog (12 milltir) a Chanolfan Genedlaethol Rafftio Dwr Gwyn ger y Bala (14 milltir).

Ar gyfer dyddiau ymlaciol mae digon o drefi marchnad a phentrefi hyfryd Cymreig i’w harchwilio, Portmeirion, nifer o erddi a chestyll, yn ogystal â mynyddoedd uchaf Cymru a milltiroedd di-ben-draw o draethau godidog.

Cerdded

Llyn Trawsfynydd – llwybr gylchol 8 milltir o amgylch y llyn gyda golygfeydd anhygoel yn cynnwys Mynyddoedd Moelwyn, yr Arenig, a Chadair Idris. 2 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Coedwig Coed y Brenin. 6 milltir

Pysgota

Llyn Trawsfynydd – pellter cerdded

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Merlod Felin Rhyd Fawr, Maentwrog. 5 milltir

Beicio / Beicio Mynydd

Canolfan Feicio Mynydd Coed y Brenin. 6 milltir.

Antur Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog. 9 milltir.

Traethau

Morfa Bychan – 3 milltir o draeth tywodlyd. 12 milltir.

Traeth Harlech – traeth tywyodlyd gwyn, hyfryd. 15 milltir.

Golff

Clwb Golff Porthmadog, cwrs golff 18 twll wedi ei leoli mewn cefn gwlad arbennig. 12 milltir

Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech. Yn enwog yn genedlaethol a rhyngwladol, dyma un o gyrsiau golff gorau Cymru. 15 milltir.

Chwaraeon Dwr

Canolfan Rafftio Dwr Gwyn (rafftio, caiacio, canwio). 14 milltir

Llyn Tegid - hwylio, canwio, caiacio, syrffio gwynt, adeiladu rafft ayyb. 18 milltir.