Ty Uchaf

Porthmadog, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July
  • Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
  • Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August

You can book this property from:

  • £660 per week
  • £94 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • Dim tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mwynhewch fynediad hawdd i fynyddoedd , cestyll , atyniadau diddiwedd a thraethau tywodlyd. Canolog i Borthmadog , Caernarfon , Eryri a Phenrhyn Llyn , dyma fwthyn sy’n darparu lleoliad gwych ar gyfer darganfod Gogledd Cymru. Mae’r bwthyn hefyd yn cynnig llety clud sydd yn croesawu anifeiliaid anwes gyda’i holl nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys lle tân inglenook mawr. Credir mai dyma’r ty hynaf yn sir Gwynedd , ac mae’r neuadd-dy yn dyddio yn ôl i oddeutu 1543 ac fe’i hadeiladwyd ar safle a oedd o bosib yn dy baddon Rhufeinig.

Llawr Gwaelod

Mae yna le tân inglenook yn y lolfa, gyda thrawstiau coed a dresel Cymreig hen ffasiwn. Mae yna hefyd gloc taid , piano , teledu digidol mawr , DVD a lle eistedd cyfforddus o amgylch y lle tân croesawgar.

Mae’r gegin yn cynnwys peiriant golchi llestri, peiriant golchi dillad, microdon , oergell/rhewgell , popty trydan a digonedd o unedau cegin. Bwrdd bwyta derw i bedwar o westeion , rhaniad derw post a phanel a tho gyda thrawstiau derw.

Grisiau troellog cerrig gyda stepiau derw yn arwain i fyny o’r lolfa, gyda ffenestri agen sydd yn eich atgoffa o dwll saeth.

Llawr Cyntaf

Yn y brif ystafell wely mae yna wely maint king Ffrengig hen ffasiwn, trawstiau a phaneli yn y waliau.

Yn yr ail ystafell wely mae yna wlâu twin mahogani , cwpwrdd dillad mawr hen ffasiwn a chist ddroriau.

Mae’r ystafell ymolchi yn cynnwys bath Fictorianaidd gyda phapur wal Cath Kidston.

Gardd

Gardd amgaeedig hudolus gydag afon fechan yn rhedeg drwyddi, coed aeddfed a llyn unigryw i fywyd gwyllt. Gwnewch y mwyaf o’ch gwyliau hunan-ddarpar drwy orffwyso yn y lleoliad heddychlon hwn sydd hefyd yn hafan i fywyd gwyllt megis gweision y neidr , gloÿnnod byw, adar amrywiol a bwtsias y gog.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwres a thrydan yn gynwysedig.

Darperir dillad gwely. Gellir darparu tywelion am £5 yr ymwelydd.

Darperir cadair uchel a chot teithio ar gais (dewch â’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot os gwelwch yn dda).

Gwyliau hunan-ddarpar Gogledd Cymru i chi a hyd at ddau gi am ffi ychwannegol o £25 y ci - iw nodi wrth archebu

Wi-fi ar gael.

Llefydd parcio preifat ar gael.

Location

Mae bwthyn Ty Uchaf yn darparu lleoliad heddychlon, canolog a gwych ar gyfer darganfod Gogledd Cymru. Wedi ei leoli ar fferm ar ffin orllewinol Parc Cenedlaethol Eryri, dim ond 5 milltir i’r gogledd o Gricieth a Phorthmadog (7.5 milltir) a 12 milltir i’r de o Gaernarfon. Mae traethau hefyd yn agos ar arfordiroedd gogleddol a deheuol Penrhyn Llyn.

Mae’r ty fferm hwn o’r unfed ganrif ar bymtheg wedi ei adeiladu ar safle Rhufeinig ac yn enghraifft wych o fwthyn cyfnod. Mae’r dafarn leol a’r bwyty (y Goat) wedi ei leoli dim ond milltir i ffwrdd ym mhentref Bryncir a thy cyri hefyd o fewn milltir a hanner. Bwytai eraill cymeradwy ydy Y Sgwâr yn Nhremadog (7 milltir) a Blas yng Nghaernarfon (12 milltir). Y siop groser agosaf yw Penygroes, dim ond 5 milltir i ffwrdd lle y gellwch hefyd flasu gwin gwinllan Pant Du.

O fynyddoedd godidog i draethau hyfryd, llwybrau cerdded arfordirol, trenau bach a chestyll, fe ddewch o hyd i’r cyfan o fewn ugain munud i Dy Uchaf. Mae’r bwthyn hwn yng Ngogledd Cymru wedi ei leoli 200 llath o Lwybr Beicio Lôn Eifion sydd yn dilyn yr hen lein rheilffordd yr holl ffordd o Fryncir i Gaernarfon. Yn ogystal, ar drothwy’r drws, mae Melin Wlân Bryncir sydd yn troi gwlân Cymreig o gnu yn wlanen o flaen eich llygaid.

Am ddyddiau hamdden gyda’r teulu, mae’r rhestr yn un hirfaith, Fferm Gwningod Dwyfor ger Llanystumdwy (4.3 milltir) gydag amryw o wahanol gwningod ac anifeiliaid fferm megis wyn a merlod. Mae Parc Glasfryn (11 milltir) yn cynnig go cartio , beiciau cwad , bowlio deg a mwy , gan ei wneud yn le gwych ar gyfer pob tywydd. Mae Parc Gelli Gyffwrdd (16 milltir) yn ddiwrnod gwych i’r teulu yn Eryri, yn yr un modd á’r Mynydd Gwefru yn Llanberis. Mae Ceudyllau Llechi Llechwedd (19 milltir) yn cynnig teithiau tanddaearol trwy geudyllau'r pwll llechi gweithiol hwn tra ei bod hi’n werth ymweld â Sw Môr Môn (acwariwm bywyd môr mwyaf Cymru) hefyd.

Am wyliau mwy hamddenol yng Ngogledd Cymru, ewch am dro i Gricieth am enghraifft deg o gastell Cymreig, tra bod Caernarfon yn gartref o bosib i un o gestyll enwocaf Cymru. Mwynhewch arfordir gwefreiddiol Llyn ; ei draethau, ei bentrefi glan y môr hardd a thrip cwch drosodd i Ynys Enlli - un o ynysoedd sanctaidd Cymru. Ymwelwch â phentref a gerddi Eidalaidd Portmeirion (10 milltir) a chymrwch daith ar drên bach o’r môr ger Porthmadog i’r mynyddoedd ym Mlaenau Ffestiniog.

Traethau

Mwynhewch eich gwyliau yng Ngogledd Cymru drwy ymweld â thraeth gwahanol bob diwrnod. Mae yna sawl traeth gwych gerllaw, gan gynnwys:

Cricieth gyda’i ddau draeth poblogaidd, y naill ochr i’r castell. Mae’r rhain yn gymysgedd o dywod a cherrig crynion gydag ardal greigiog ar ben pellaf ochr ddwyreiniol y traeth gyda phyllau rhwng y creigiau ar lanw isel, 5 milltir.

Mae Borth-y-Gest yn swatio ar ochr Glaslyn o’r Aber, gyda sawl cildraeth tywodlyd a chilfachau bychain o fewn pellter cerdded, 8 milltir.

Traeth Morfa Bychan - Un o’r harddaf ym Mhrydain. Caniateir cwn ar y traeth mewn mannau penodol a gellwch fynd â’ch car ar y traeth am ffi fechan, 9.5 milltir.

Mae yna hefyd fwy o draethau hardd ar Benrhyn Llyn ac yn ardal Caernarfon (e.e. Aberdesach a Dinas Dinlle).

Beicio

Lôn Eifion - trac hen reilffordd o Fryncir i Gaernarfon. Ymunwch â’r llwybr 200 llath i ffwrdd.

Cerdded

Lôn Eifion (fel uchod).

Lôn Goed - dro hyfryd 6 milltir o goed pren caled a pharadwys i gerddwyr. 3 milltir o’r bwthyn.

Llwybr Arfordir Llyn (rhan o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan) - sawl rhan o fewn pellter byr, gyda’r man ymuno agosaf yng Nghricieth, 5 milltir.

Digonedd o lwybrau mynydd i ddewis ohonynt yn Eryri. Mae’n werth dringo’r mynydd uchaf yng Nghymru, Y Wyddfa, ac mae’r llwybr agosaf yn cychwyn o Ryd-ddu (13 milltir), neu gellwch ddal y trên bach o Lanberis (18 milltir) i’r caffi ar y copa.

Pysgota

Pysgotwch a’m frithyll yn yr afon sydd yn llifo drwy’r fferm, 200 llath o’r bwthyn.

Llanystumdwy - pysgota ar lyn 6 acer ac ar afon Dwyfor, 4.3 milltir.

Neu beth am drip pysgota o amgylch ynysoedd St Tudwals, dwy ynys fechan oddi ar arfordir Abersoch (17 milltir). Neu gellwch orffwys a gwylio’r dolffiniaid, y morloi a’r holl fywyd gwyllt yn eu cynefin naturiol.

Golff

Clwb Golff Cricieth - cwrs unigryw 11 twll, enwog am ei olygfeydd godidog a’r tawelwch a’r llonyddwch sy’n ei amgylchynu, 5 milltir.

Merlota

Canolfan Weithgareddau Porthmadog - mwynhewch filltiroedd o ferlota mewn golygfeydd gwefreiddiol. Addas ar gyfer plant 4 oed neu hyn ac oedolion, 8 milltir.

Chwaraeon Dwr

Clwb Hwylio Pwllheli, Marina Pwllheli - cyfleusterau gwych ac o bosib y dyfroedd hwylio gorau yn y Deyrnas Unedig, 11 milltir.

Mae traeth Abersoch yn cynnig dwr gwastad ar gyfer tonfyrddio a sgïo dwr, hwylio, mynd ar gychod pwer a hwylfyrddio, 17 milltir.