- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- £900 per week
- £129 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Ystafell wlyb
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
- Pwynt gwefru modur trydan
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
O'i leoliad arbennig mae'r bwthyn 5 seren hwn yn mwynhau golygfeydd anhygoel o fynyddoedd Eryri, sydd wedi eu fframio'n berffaith drwy ffenestr fawr yr ystafell fyw. Mae'r patio preifat gyda twb poeth a dodrefn gardd hefyd yn cynnig y llwyfan perffaith i edmygu'r ardal o gwmpas mewn llwyr lonyddwch. Gydag ensuite yn mhob ystafell wely a nodweddion trawiadol drwyddo draw, mae Beudy'r Wennol wedi ei leoli ar fferm deuluol, ond 3 milltir o Lanrwst a 5.5 milltir o Betws y Coed.
Mae amrywiaeth wych o atyniadau gerllaw, yn cynnwys Zip World Forest, Adventure Park Snowdonia, cestyll, rhaeadrau, a nifer o lwybrau cerdded mynyddig a thraciau beicio. Dyma'r lle i fwynhau Gogledd Cymru ar ei orau.
Llawr Gwaelod
Cegin/Ystafell fwyta/Lolfa - ystafell fyw fawr ar gynllun agored gyda digon o olau naturiol.
Lolfa gyda ffenestr fawr yn cynnig golygfeydd gwych o dirwedd Eryri. Soffa a chadeiriau cyfforddus o gwmpas stôf drydan a theledu. Bwrdd pêl-droed a drws i'r patio.
Mae'r gegin gyda'r holl offer yn cynnwys popty a meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant golchi llestri. Mae'r ystafell gymdeithasol hon hefyd gyda bwrdd bwyta mawr a golygfeydd o gefn gwlad.
Ystafell iwtiliti - yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad.
Ystafell wely 1 - gwely maint king ac ensuite.
Ystafell wely 2 - gwely maint king ac ensuite.
Ystafell wely 3 - dau wely sengl gyda soffa a theledu ar y wal. Ensuite gyda cawod cerdded i mewn.
Cyntedd - yn arwain i'r ystafelloedd gwely gyda lle i eistedd a mwynhau'r golygfeydd. Drws yn arwain i'r patio preifat gyda twb poeth.
Gardd
Patio mawr caeedig gyda golygfeydd pellgyrhaeddol i lawr y dyffryn tuag at fynyddoedd Eryri yn cynnwys Moel Siabod.
Gellir mwynhau'r golygfeydd o'r twb poeth preifat. Barbaciw nwy ar gael.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso gyda dewis o gynnyrch lleol, yn cynnwys bara, wyau, te a choffi, siwgwr a llaeth, cacennau, bisgedi a gwîn
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Trydan a gwres dan y llawr yn gynwysedig
- 3 sychwr gwallt ar gael (un ym mhob ystafell wely)
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Wifi ar gael
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Darpariaethau cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Darpariaethau ystafell ymolchi: sebon dwylo a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol. Powdwr i'r peiriant golchi dillad
- Parcio ar gyfer 3 car