Tawelfan

Fairbourne, North Wales Snowdonia

  • 3 Star
  • Mwynhewch wyliau arfordirol ymlaciol yng Ngogledd Cymru yn y llety cysurus hwn i 2 yn y Friog, lai na milltir o'r traeth, a Llwybr Arfordirol Cymru ar stepen y drws. 

You can book this property from:

  • £356 per week
  • £51 per night
  • 3 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 ystafell ymolchi
  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 15:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Wedi ei leoli mewn ardal arfordirol drawiadol, mae'r anecs gwyliau hwn yn cynnig mangre heddychlon gyda digonedd o lwybrau a gweithgareddau ar stepen eich drws. Gyda cyswllt trên gwych i Abermaw (ar draws aber yr afon), Portmeirion, Porthmadog ayb i'r gogledd, Tywyn ac Aberdyfi i'r de, mae hefyd yn le gwych i ddarganfod arfordir Gogledd Cymru ar un o'r teithiau trên mwyaf golygfaol yn y byd.

Llawr Gwaelod

Cegin/Ardal fwyta - yn cynnwys popty a hob trydan, meicrodon, oergell, llestri a bwrdd bwyta.  

Ystafell ymolchi - cawod, basn a thoiled. 

Ystafell olchi dillad - mae'r ystafell hon arwahan i'r anecs ac yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad (yn cael eu rhannu gyda'r perchnogion sy'n byw drws nesaf) a rhewgell (at defnydd y gwesteion yn unig.    

Llawr Cyntaf

Ystafell fyw gyda golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd a'r arfordir ar y gorwel. Dwy soffa ar gyfer dau berson, teledu freeview, chwaraewr DVD, a thân trydan modern.   

Ystafell wely gyda gwely maint king, cwpwrdd dillad a golygfeydd godidog.    

Gardd

Patio gyda mynediad i lawnt estynedig. Mae'r lawnt yn arwain at dŷ hâf ym mhen ucha'r ardd gyda golygfeydd gwych tuag at yr arfordir ar y gorwel.  Bydd y tŷ hâf yn cael ei ddefnyddio yn achlysurol gan y perchnogion ond mae croeso i'r gwesteion hefyd fwynhau'r golygfeydd - lle delfrydol i ymlacio gyda paned o goffi yn y bore, neu bryd o fwyd yn yr awyr agored.  

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr a llaeth, cacennau cri, bara lleol, menyn Cymreig a cwpwl o boteli cwrw lleol    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
  • Sychwr gwallt ar gael 
  • Wifi ar gael
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y llety    
  • Lle parcio oddi ar y ffordd 

Location