- £505 per week
- £72 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mwynhewch wyliau arbennig mewn bwthyn yn Eryri - wyliau 5 seren. Mae’r llety hardd hwn yn cynnig lleoliad gwledig a thawel gyda golygfeydd arbennig, ynghyd â’r fantais o fod mewn man canolog rhwng trefi marchnad, Dolgellau (6 milltir) a’r Bala (13 milltir). Gallwch fynd am dro hamddenol o garreg eich drws i archwilio cefn gwlad, neu ymlaciwch mewn steil ar y dec preifat wrth edmygu’r Barcutiaid Coch uwchben, neu awyr llawn sêr yn y nosweithiau.
Os ydych yn hoff o antur, mae’r ganolfan beicio mynydd adnabyddus Coed y Brenin a chanolfan Go Ape o fewn tafliad carreg. Mae hefyd cyfleoedd o fynd am dro yn ddi-ben-draw, yn amrywio o lwybrau arfordirol hyd at fynyddoedd yr Eryri. Mae gwyliau bwthyn ym Mwthyn Wnion hefyd yn berffaith ar gyfer y rhai sy’n frwdfrydig am chwaraeon dwr, gan fod Bala yn un o brif ganolfannau chwaraeon dwr yng Nghymru.
Llawr Gwaelod
Mae’r ardal fyw a bwyta sydd ar gynllun agored yn eich croesawu’n syth wrth i chi fynd i mewn i’r bwthyn. Mae yno gadeiriau esmwyth lledr yn y lolfa gyda theledu sydd â phecyn sylfaenol Sky, chwaraewyr DVD a CD ac amryw o gemau / teganau at fryd y plant. Mae modd i 6 eistedd wrth y bwrdd bwyd gyda digon o le.
Mae mynedfa yn arwain at y gegin sydd wedi’i gosod gyda phopeth y bydd ei angen arnoch - phopty dwbl, hob, micro-don, peiriant golchi llestri ac oergell/rhewgell.
Ystafell iwtiliti tu allan gyda pheiriant golchi dillad a basn. Man storio cloadwy sy’n ddelfrydol i gadw beiciau, offer cerdded/pysgota ac i sychu dillad gwlyb. Mae yno hefyd dap tu allan er mwyn golchi beiciau, esgidiau ac ati.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely dwbl gydag ystafell folchi en suite, bath cornel, basn a thoiled. Gwely dwbl deniadol gyda bwrdd gwisgo a chwpwrdd dillad dwbl. Drws yn arwain yn uniongyrchol at ddec preifat gyda golygfeydd hardd o'r cefn gwlad o amgylch.
Ystafell wely twin glyd gydag ystafell ymolchi en suite. Bwrdd wrth y gwely a chwpwrdd dillad dwbl.
Gardd
Ni fyddai gwyliau bwthyn Eryri yr un peth heb y golygfeydd godidog o’r mynyddoedd a chefn gwlad. Mae yma ddec preifat wedi’i godi ac arno fwrdd a chadeiriau gardd er mwyn i chi allu ymlacio ac edmygu'r tirwedd rhyfeddol drwy gydol y dydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
· Dillad gwely, tywelion llaw a baddon a sychwr gwallt yn gynwysedig
· Gwres a thrydan yn gynwysedig
· Cadair uchel a chot teithio ar gael os gofynnir amdanynt
· Monitor babi, mat newid a diheintydd stêm Avent ar gael
· Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes
Croeso i 1 ci (2 gi bach) - am £25 y ci. Dim cathod. Dim anifeiialiad anwes yn y llofftydd.
· Darperir offer golchi, cwpl o dabledi peiriant golchi llestri, sebon a phapur toiled.
· Digonedd o fannau parcio