Maesmor

Dinas Mawddwy, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Os ydych yn chwilio am lecyn llonydd a thawel wedi ei amgylchynu â golygfeydd godidog mynyddig, yna y bwthyn gwyliau hwn ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw'r encil perffaith.

You can book this property from:

  • £503 per week
  • £72 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Os ydych yn chwilio am lecyn llonydd a thawel wedi ei amgylchynu â golygfeydd godidog mynyddig, yna mae bwthyn gwyliau Maesmor ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn cynnig yr encil perffaith. Mae’r bwthyn hwn ar wahân wedi ei leoli mewn pentrefan bychan gwledig gyda gerddi mawr preifat hyfryd. Mwynhewch olygfeydd gwefreiddiol ar hyd lonydd mynyddig ac anadlwch yr awyr iach ar lwybrau cerdded braf drwy’r wlad. Cewch ymweld â Llyn Fyrnwy, llyn naturiol mwyaf Cymru (Llyn Tegid) ar gyfer chwaraeon dwr, beicio gyda glannau’r llyn a llawer mwy. Dyma’r porth i Barc Cenedlaethol Eryri gerllaw tarddle hyfryd yr afon Dyfi a Dyffryn Dyfi.

Llawr Gwaelod

Ystafell haul fodern a helaeth gyda golygfeydd llydan a gwych ar hyd Dyffryn Dyfi, wedi ei orffen i ansawdd uchel. Mae’r ystafell yn cynnwys dwy soffa fawr a silff lyfrau. Llawr llechfaen drwyddo draw.

Ystafell eistedd llawn cymeriad yn cynnwys y paneli a’r trawstiau gwreiddiol. Lle tân agored (neu stôf drydan ar gais). Mae’r moethau modern yn cynnwys dwy soffa gyfoes, teledu freeview HD a chwaraewr DVD. Llawr llechfaen.

Mae’r drydedd ystafell fyw yn llonydd a thawel, ac mae’r parlwr clud yn cynnwys lle tân clasurol a llawr pren. Lle eistedd cyfforddus, bwrdd a chadeiriau.

Cegin gyfoes gyfarparedig gyda phopty trydan/hob, microdon a pheiriant golchi llestri. Ystafell iwtiliti ar wahân gyda pheiriant golchi, sychwr dillad, rhewgell fechan a basn Belfast. Llawr llechfaen.

Ystafell fwyta sydd yn eistedd chwe oedolyn yn gyfforddus. Ystafell gyda’i nodweddion gwreiddiol yn cynnwys popty bara o haearn bwrw a thrawstiau clasurol. Llawr llechfaen a golygfeydd hyfryd ar draws Dyffryn Dyfi.

Ystafell gawod gyda chawod fawr ar lefel y llawr, basn wedi ei ffitio a thoiled. Llawr llechfaen a rheilen cynhesu tywelion.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely ddwbl olau gyda chynllun lliw melyn sydd yn cynnwys gwely coed a chist ddroriau. Cwpwrdd dillad, lle i hongian dillad a byrddau ochr gwely gyda lampau arnynt.

Mae gan yr ail ystafell wely gynllun lliw llwyd a gwyrddlas sydd yn cynnwys lle tân o haearn bwrw a gwely. Cwpwrdd dillad art deco a bwrdd gwisgo ynghyd â byrddau ochr gwely a lampau.

Ystafell wely twin olau, gyda chynllun lliw gwyrdd a phinc yn cynnwys cwpwrdd dillad pîn a chwpwrdd droriau ar ochr y gwely a lampau. Mae gan yr ystafell olygfeydd dros yr ardd, ac ar hyd Dyffryn Dyfi, tua chefn y llety.

Ystafell ymolchi clasurol helaeth gyda chawod dros y bath, wedi ei ffitio gyda basn ymolchi a thoiled. Golygfeydd dros y caeau i gefn y bwthyn, ar draws Dyffryn Dyfi.

Gardd

Gardd breifat amgaeedig, gyda gwlâu blodau, dodrefn gardd a barbeciw siarcol wedi ei osod yng nghefn y bwthyn gwyliau. Gellir mwynhau golygfeydd o dir Parc Cenedlaethol Eryri ar eu gorau o’r llecyn tawel hwn.

Gwybodaeth ychwanegol

Darperir dillad gwely, tywelion bath a llaw a sychwr gwallt.

Trydan, gwresogyddion storio a thrydan yn gynwysedig.

Darperir logiau a glo ar gyfer y tân agored.

Wifi am ddim

Llyfrau, DVDs, gemau a mapiau ar gael at eich defnydd yn y bwthyn

Papur toiled, hylif golchi llestri, tabledi peiriant golchi llestri, hylif golchi dillad a chynnyrch ymolchi yn cael eu darparu


Parcio oddi ar y ffordd.

Cot teithio a chadair uchel ar gael ar gais.

Dim rhwydwaith ffôn - delfrydol os ydych chi’n chwilio am lonydd gwirioneddol o fywyd pob dydd, fodd bynnag os ydych chi angen cysylltu gyda rhywun o’r bwthyn, darperir ffôn yn y llety sydd yn gallu derbyn galwadau.

Os ydy hi’n well gennych chi gael stôf dân drydanol, yn hytrach na thân agored, yna nodwch hynny wrth archebu’ch gwyliau.

Mae posib archebu bwyd i gael eu cludo i'r bwthyn o Asda a Tesco.

Location

Mae’r bwthyn gwyliau ar wahân hwn wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ym mhentref gwledig Llanymawddwy, gyda golygfeydd agored godidog ar hyd y caeau a’r mynyddoedd. Nid nepell o odre’r Aran Fawddwy, y mynydd uchaf yn Ne Eryri a gerllaw'r bwlch uchaf yng Nghymru sy’n arwain at lynnoedd Efyrnwy a Tegid yn y Bala, gyda’u hamrywiaeth eang o chwaraeon dŵr.

Mae Dinas Mawddwy (4 milltir) yn cynnig tafarn/bwyty pentref hyfryd ynghyd â siop a chaffi ymwelwyr. Dwy filltir ymhellach mae pentref Mallwyd gyda siop groser fechan, swyddfa bost a garej ar gyfer tanwydd. Ar ochr arall y bwlch uchaf yng Nghymru, mae yna dafarn/bwyty arall cymeradwy a Thafarn yr Eryrod, Llanuwchllyn ger Bala (8.5 milltir).

Mae’r bwthyn hefyd yn ganolog i dair tref farchnad hardd; Dolgellau (13 milltir), Bala (14 milltir) a Machynlleth (17 milltir). Mae’n werth ymweld â’r dair gan eu bod yn cynnig amrywiaeth dda o siopau a digonedd o fwytai da, gan gynnwys ‘Y Meirionnydd’ yn Nolgellau, ‘Number Twenty One’ ym Machynlleth, ‘Cross Foxes’ a ‘Bwyty Mawddach’, y ddau ger Dolgellau. Mae yna hefyd gaffi hyfryd sydd yn cynnig wi-fi am ddim yn Nolgellau, o’r enw T.H.Roberts, Senedd-dy.

Ymhlith yr amrywiaeth eang o bethau i’w gwneud tra’r ydych ar eich gwyliau ym mwthyn Maesmor, mae'r llwybr cerdded dros Aran Fawddwy, y’i cymeradwyir yn arw, ac yn atodol ceir dwy dafarn bentref i’ch croesawu ar y naill ben. Os ydych chi’n mwynhau cerdded, mae’r Aran Benllyn a Chadair Idris yn cynnig llwybrau cerdded mynyddig poblogaidd. Ar gyfer diwrnod hamdden mwy ymlaciol, eisteddwch a mwynhewch y golygfeydd dros Reilffordd Llyn Tegid a thrên bach Tal-y-llyn.

Dyddiau hamdden eraill y’i cymeradwyir yw’r Ganolfan RSPB ar Lyn Fyrnwy, Canolfan Technoleg Amgen, a chanolfan beicio mynydd ac antur coed Go Ape , Coed-y-Brenin. Mae’n werth ymweld â Phrosiect Gweilch y Dyfi ac Amgueddfa Celf Fodern Machynlleth ac os oes gennych chi ddigon o amser, teithiwch ar hyd Rheilffordd Cambrian a’r hyd yr arfordir o Fachynlleth i Bwllheli, un o’r rheilffyrdd gyda’r mwyaf o olygfeydd hardd yn y byd.

Cerdded

Llwybr Rhyd y Cwm - llwybr cerdded byr, gydag arwyddion, sydd yn cychwyn o drothwy drws eich bwthyn.

Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r llwybr hwn yn mynd â chi ar hyd Cwm Cyniewyd tuag at y rhaeadr.

Llwybr Llaethnant - llwybr cerdded gydag arwyddion sydd yn cychwyn o waelod Bwlch y Groes, y bwlch uchaf yng Nghymru. Fe aiff y llwybr a chi heibio i sawl rhaeadr hardd cyn eich arwain i gopa Aran Fawddwy a Chreiglyn Dyfi, tarddle’r Afon Dyfi, milltir o’r bwthyn.

Aran Fawddwy - y man cychwyn mwyaf poblogaidd wrth odre’r mynydd yng Nghwm Cywarch, 3 milltir.

Mae Llwybr Dyffryn Dyfi yn dilyn yr Afon Dyfi o’i haber yn Aberdyfi i’w tharddle ar gopa Aran Fawddwy ac yna yn ôl i lawr gydag ochr dde'r afon drwy Fachynlleth ac i lawr i Borth. Gellir sicrhau mapiau a chanllawiau o Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Machynlleth. Ymunwch â’r llwybr dair milltir o’r bwthyn.

Cadair Idris ( llwybr mynyddig) - Ceir tri phrif lwybr yn cychwyn o Ddolgellau (13 milltir), Minffordd ( 13 milltir) ac Abergynolwyn (18 milltir). Cadwyn mynyddoedd Cadair Idris, 14 milltir.

Chwaraeon Dwr

Llyn Fyrnwy - Canwio, caiacio, hwylio a hwylfyrddio - addas i’r holl deulu, 11 milltir.

Llyn Tegid - hwylio, canwio, caiacio, abseilio, hwylfyrddio, adeiladu rafft a.y.b. 14 milltir.

Canolfan Rafftio Dwr Gwyn Cenedlaethol, Canolfan Tryweryn - Rafftio Dwr Gwyn, Caiacio a Chanwio, 18 milltir.

Beicio

Mae’r lonydd gwledig o’r bwthyn yn ddelfrydol ar gyfer beicio ac yn cynnig golygfeydd gwych, 0 milltir.

Llwybr y Mawddach - llwybr llawn golygfeydd ar hyd yr hen lein rheilffordd o Ddolgellau i Abermaw. Addas ar gyfer pob oed, i feicwyr, cerddwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn, 13 milltir.

Beicio Mynydd Dyfi - llwybrau amrywiol, i gyd yn cychwyn o Fachynlleth, 17 milltir.

Canolfan Feicio Mynydd Coed-y-Brenin - Llwybrau addas i bob oed, 21 milltir.

Pysgota

Llyn Efyrnwy - Brithyll gwyllt brown a seithliw, 11 milltir.

Llyn Tegid, Bala - yr unig le yng Nghymru lle cewch hyd i bysgodyn o’r enw Y Gwyniad , 14 milltir.

Llynnoedd Cregennan ger Dolgellau, 17 milltir.

Pysgota môr yn Abermaw, 23 milltir.

Golff

Clwb Golff Dolgellau - cwrs golff naw twll, 13 milltir.

Clwb Golff Bala - cwrs golff 10 twll, 14 milltir.

Merlota

Canolfan Merlota Bwlchgwyn - addas i bawb dros 4 oed, 21 milltir.

Traeth

Traeth Abermaw - traeth tywodlyd hir gyda gwobr Baner Las, 23 milltir.