- £587 per week
- £84 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Twb poeth
- Golygfeydd cefn gwlad
- Dim signal ffôn symudol
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau bync
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Popty Range/Aga
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae’r bwthyn gwyliau hyfryd hwn yn cynnig encilfa foethus yn amgylchedd heddychlon Cwm Cywarch ger Dinas Mawddwy. Wedi ei leoli ar droed yr Aran Fawddwy, y mynydd uchaf yn ne Eryri, mae Troed yr Aran yn fan delfrydol i archwilio Gogledd a Chanolbarth Cymru. Tafarn bentref, caffi a chanolfan grefftau o fewn 2.5 milltir. Llwybrau cerdded gwych o drothwy’r drws, hawl i bysgota ar afon gyfagos, yn agos i ganolfan beicio mynydd byd-enwog ac amrediad helaeth o atyniadau poblogaidd eraill.
Llawr Gwaelod
Yn y gegin fawr groesawgar ceir Rayburn olew o fewn lle tân o friciau, golchwr llestri, popty, hob a gril, oergell, microdon a bwrdd bwyd. Mae’n cynnwys yr holl gyfarpar ac offer sydd ei angen arnoch, digonedd o gypyrddau a llestri Portmeirion.
Ystafell fwyta chwaethus gydag ail fwrdd bwyd a digonedd o le i’r holl westai i eistedd o’i amgylch.
Mae’r ystafell fyw yn gysurus a chlyd gyda stôf llosgi coed o fewn hen le tân cerrig a llechi. Ceir teledu Sky a chwaraewr DVD yma hefyd.
Ystafell iwtiliti gyda pheiriant golchi a sychu dillad, rhewgell, lle storio beiciau ac offer smwddio.
Llawr Cyntaf
Ystafell ddwbl helaeth wedi ei dodrefnu yn chwaethus a gyda golygfeydd arbennig o’r wlad.
Ail ystafell ddwbl sydd hefyd wedi ei dodrefnu’n chwaethus gyda golygfeydd dros y caeau amgylchynol.
Trydedd ystafell wely sydd yn hynod o glyd ac sy’n cynnwys gwely bync.
Ystafell ymolchi fawr gyda sinc, toiled, bath a chawod uwchben y bath.
Gardd
Gardd fawr hardd ac amgaeedig, twb poeth, ardal patio gyda dodrefn gardd a barbiciw, a mynediad i’r caeau o’ch amgylch. (Nodwch os gwlewch chi'n dda y gall gymryd tua 7 awr i newid a chynhesu dŵr y twb poeth ac efallai na fydd yn barod yn syth ar ôl i chi gyrraedd os oes gwesteion yn gadael y bore hwnnw.)
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt
Gwres canolog, trydan a thanwydd yn gynwysedig
Cot teithio a chadair uchel ar gais. Dewch a'ch dillad cot eich hunain os gwelwch chi'n dda.
Gemau / jig-sôs / dvds / llyfrau
Dim signal ffôn - delfrydol os ydych yn edrych am amser i ffwrdd o bobeth. Os y byddwch angen defnyddio ffôn, mae yna ffôn talu yn y bwthyn sy'n derbyn galwadau.
Darperir cyflenwad cychwynnol o bren ar gyfer y llosgwr coed ac mae posib prynu mwy o'r garej ym Mallwyd 5.5 milltir i ffwrdd.
Offer smwddio
Caniateir 2 gi am £20 yr un. Mae posib i drydydd ci gael ei gysidro os ydynt yn fach.
Digonedd o le parcio oddi ar y ffordd, yn cynnwys parcio dan do.
Lle storio beiciau.
Wifi yn gynwysedig.