- £700 per week
- £100 per night
- 6 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Ystafell chwaraeon
- Sawna
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Popty Range/Aga
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 4 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 3:00pm
- Amser gadael: 10.00
Description
Llety gwledig gyda llawer o gymeriad a nodweddion traddodiadol i'w mwynhau. Wedi ei leoli ar gyrion Bontnewydd, ger Caernarfon, mae'r llety hwn yn ddelfrydol i ddarganfod Eryri, Ynys Môn a Phenrhyn Llŷn. Mae nifer o brif atyniadau Gogledd Cymru ar stepen y drws, yn cynnwys reid ar drên i fyny'r Wyddfa neu ymweliad â phentref Eidalaidd Portmeirion.
Llawr Gwaelod
Mae'r llety hwn yn cynnig cymysgedd o'r modern a nodweddion traddodiadol hardd. Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol ac ardal fwyta - lle perffaith i eistedd yn glyd o flaen y Rayburn, gyda chyfleusterau megis meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a dillad.
Cyntedd gyda llawr teils a lle i gadw cotiau ac esgidiau. Ystafell folchi gyda thoiled a basn.
Ystafell fwyta gyda lle tân (ddim yn cael ei ddefnyddio). Bwrdd bwyta a chadeiriau gyda mynediad i'r dec a'r ardd drwy ddrysau dwbwl. Dwy gadair esmwyth a theledu Smart i ymlacio a mwynhau'r amgylchedd heddychlon.
Mae'r lolfa yn elwa o stôf goed ar gyfer nosweithiau hyfryd o flaen y tân. Drysau dwbwl yn arwain allan i'r patio a'r ardd. Cadeiriau a soffa ledr gyfforddus i eistedd ac ymlacio tra'n gwylio'r teledu Smart neu fwynhau'r golygfeydd pellgyrhaeddol.
Mae piano a nifer o gemau yn yr ystafell chwaraeon - digon i'ch diddanu gyda'r nos.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 1 - gwely dwbwl, cypyrddau dillad, soffa fach a theledu. Ensuite gyda chawod, basn a thoiled.
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl, cypyrddau dillad a theledu.
Ystafell wely 3 - gwely sengl, cypyrddau dillad a theledu.
Ystafell wely 4 - gwely maint king, cypyrddau dillad a theledu. Ensuite gyda chawod, basn a thoiled.
Ystafell ymolchi gyda bath, basn a thoiled. Mae yma hefyd sauna sydd yn berffaith i adfywio cymalau poenus ar ôl taith gerdded hir!
Gardd
Mae'r ardd hardd yn cynnwys patio a lawnt gyda dodrefn gardd a barbaciw i fwynhau diwrnodau braf yn yr awyr iach.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, llaeth, siwgwr, bacwn, wyau a bapiau ffres
- Dillad gwelyau, tywelion a 4 sychwr gwallt yn gynwysedig
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Wifi ar gael
- Cadair uchel, cot trafeilio a gât i'r grisiau ar gael
- Ni chaniateir anifeiliaid anwes
- Darperir y canlynol ar gyfer eich arhosiad - Cegin - hylif golchi llestri, powdwr golchi dillad, clytiau ayb. Ystafell ymolchi - sebon a phapur toiled
- Dim ysmygu
- Digon o le parcio
- Darperir un bag o lo ac un o goed