Ty Menai

Caernarfon, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special OfferEarly Bird offer - 10% discount between 7th June and 25th July
  • Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% May Half term - 24th May - 31st May 2024
  • Special Offer15% offer - 31st May - 7th June 2024

You can book this property from:

  • £534 per week
  • £76 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi llestri

Ystafell ymolchi

  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Bwthyn syfrdanol ym mhob ystyr y gair. Wedi ei adnewyddu'n ddiweddar, mae’r bwthyn wedi cadw ei holl nodweddion gwreiddiol, gan gynnwys ffenestri o’r llawr hyd at y to, to uchel gyda ffenestri to, trawstiau a waliau cerrig. I ychwanegu at hynny mae’r amgylchedd heddychlon a gwledig yn cynnig y llecyn perffaith i ymlacio a gwneud dim byd. Fodd bynnag, mae'n werth nodi fod mynydd uchaf Cymru (yr Wyddfa), Parc Coedwig Gelli Gyffwrdd, Canolfan Chwaraeon Dwr Genedlaethol a gwifren zip hiraf Ewrop i gyd o fewn munudau o’ch stepen ddrws, sydd hefyd yn ei wneud yn fan perffaith ar gyfer gwyliau antur yng Nghymru.

Llawr Gwaelod

Cegin wen newydd a chyfoes sy’n cynnwys popty trydanol, peiriant golchi llestri, oergell gyda bocs rhew a microdon. Golygfeydd hyfryd o’r ardd, waliau cerrig gwreiddiol, trawstiau uchel a goleuadau sbot - oll i greu atmosffer ysgafn ac ymlaciol. Drysau stabl (yr hanner top yn wydr) sy’n agor tuag at yr ardal batio sydd yn y cefn.

Yn yr ardal fyw/fwyta mae trawstiau gwreiddiol, waliau cerrig a drysau patio mawr mewn ffrâm gron sy’n dangos golygfeydd syfrdanol o gefn gwlad. Mae’r rhain yn arwain at yr ardal batio a’r caeau tu hwnt. Gallwch dreulio’r diwrnod cyfan yn eistedd ar y soffas lledr neu ar y patio yn edmygu’r amgylchedd heddychlon a gwyrdd. Fel arall, os ydych yma am wyliau anturiaethus yng Nghymru, nid oes ffordd well o orffen y diwrnod na dod adref i soffa gyfforddus gyda golygfeydd gosteg ac eang. Yn yr ardal fyw mae yna hefyd fwrdd bwyta Georgaidd a theledu / chwaraewr DVD 32” wedi ei godi ar y wal.

Ystafell Wely 1 – Ystafell ddwbl ysgafn gyda tho uchel, trawstiau gwreiddiol, waliau cerrig a golygfeydd o gefn gwlad. Bwrdd ymbincio a digonedd o le storio yn y cwpwrdd a’r droriau.

Ystafell Wely 2 – Ystafell wely twin gyda digonedd o le, gyda waliau cerrig a thrawstiau gwreiddiol hefyd. Ffenestr ar y to, cwpwrdd dillad mawr a chist ddroriau.

Yn yr Ystafell Ymolchi mae bath gyda chawod uwch ei ben a rheilen cynhesu tywelion. Drych wedi ei oleuo, plwg eillio, waliau cerrig gwreiddiol a goleuo sbot.

Gardd

Ardal batio fawr gyda dodrefn patio modern, llefydd tân a waliau cerrig traddodiadol. Yn debyg i’r ardal fyw cynllun agored, mae’r golygfeydd sydd i’w cael o’r patio yn syfrdanol ac mae’n fan hyfryd er mwyn gwylio’r adar a bywyd gwyllt.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Beudy Menai yn un o ddau fwthyn pâr a all hefyd gael eu cysylltu i wneud un bwthyn mawr i hyd at 8 o westai. Enw’r bwthyn drws nesaf yw Beudy Menai sydd hefyd â lle i 4 mewn dwy ystafell wely.

Darperir dillad gwely, tywelion bath a llaw a sychwr gwallt.

Gwres a thrydan yn gynwysedig.

Wi-Fi ar gael - BT band llydan fibre.

Signal ffon symudol yn gyfyngedig.

Darperir cot a chadair uchel os bydd cais.

Digonedd o le parcio tu allan i’r bwthyn.

Peiriant golchi llestri a lle i rewi bwyd ar gael yn nhy’r perchennog sydd ar y safle os bydd cais.

Location

Mae’r bwthyn hardd hwn yn un o bâr o dai ac yn rhan o stad hanner can erw wedi ei hamgylchynu gan olygfeydd o goetir, tir fferm, mynyddoedd a bywyd gwyllt. Mae’n cynnig safle gwych ar gyfer gorffwys ac am wyliau o weithgareddau yng Nghymru, gyda llwybrau cerdded ac amrywiaeth eang o atyniadau cyfagos. Mae’r rhain yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, arfordir Gogledd Cymru ac Ynys Môn, tref gaerog Caernarfon a’i chastell, a thref Bangor.

Gallwch fynd am dro ar lwybrau gwledig (1.6 milltir) o’r bwthyn i gyrraedd y dafarn leol yn Llanddeiniolen lle y cewch hefyd hyd i siop bentref Bethel. O deithio dwy filltir gallwch ymlacio ar lan y dwr yn Y Felinheli tra bod Tesco Extra bedair milltir i ffwrdd. Ymhlith rhai o’r llefydd gorau i fwyta’n lleol mae Garddfon (Y Felinheli - 2 filltir), Gors Bach (Llanddeiniolen - 1.6 milltir) a Ty’n Rhos (Seion - 2 filltir / 1 milltir ar lwybr troed cyhoeddus).

Ymysg yr atyniadau sy’n gwneud y gwyliau yn y bwthyn hunan arlwyo hwn yn addas ar gyfer gwyliau ymarferol mae Parc Coedwig Gelli Gyffwrdd (parc thema wedi’i ysbrydoli gan natur) sydd lai na milltir i ffwrdd, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Dwr ym Mhlas Menai (3 milltir), sawl llwybr cerdded a beicio (rhestrir isod) a Rheilffordd Mynydd Yr Wyddfa sy’n eich cymryd i gopa'r mynydd uchaf (a chaffi uchaf) yng Nghymru. Mae Canolfan Hwylfan (canolfan hwyl dan do fwyaf Gogledd Cymru - 5.4 milltir) yn ddelfrydol ar gyfer plant a dros y bont yn Ynys Môn cewch mwy fyth o atyniadau gan gynnwys Pili Palas, Sw Môr Môn a thref gastell hyfryd Biwmares.

Atyniadau poblogaidd eraill yw mynd i ymweld â Rheilffordd Eryri, Mynydd Gwefru Llanberis, rownd o golff ar lan Afon Menai, ymweld â phentref Eidalaidd Portmeirion a Gerddi Bodnant. Os ydych ddigon dewr, pam ddim gorffen eich gwyliau yng Nghymru mewn steil trwy fynd ar reid ar y wifren zip hiraf yn Ewrop ym Methesda?

Cerdded
Mae’r llwybr i’ch bwthyn yn cynnig taith gerdded hyfryd ac mae’n arwain at y dafarn wledig yn Llanddeiniolen ac at amrywiaeth o lonydd gwledig. 0 milltir.

Llwybr Arfordir Cymru - Mae’r man ymuno agosaf yn Y Felinheli a gallwch fynd tua’r Gogledd Ddwyrain tuag Ynys Môn a Bangor neu tua’r Gogledd Orllewin tua Chaernarfon a Phenrhyn Llyn, 2 filltir o’r bwthyn.

Yr Wyddfa - mynydd uchaf Cymru - llwybr Llanberis (4.7 milltir - 3 awr) yw’r agosaf. 7 milltir o’r bwthyn.

Carneddau (llwybrau mynyddig Eryri) - teithiau cerdded heriol, gan gynnwys yr ail a’r trydydd copa uchaf yng Nghymru. Llwybr agosaf yn dechrau yn Gerlan, uwch Bethesda. 8 milltir.

Beicio
Mae’r llwybr i’r bwthyn hefyd yn wych ar gyfer beicio ac ar ddiwedd y llwybr gallwch barhau ar hyd lonydd gwledig tawel i bob cyfeiriad, 0 milltir.

Lôn Las Cymru - Mae’r llwybr hwn yn rhedeg am dros 250 o filltiroedd ar hyd Cymru gyfan. Y man agosaf i ymuno yw Y Felinheli ac mae llwybr oddi ar y ffordd yn mynd yr holl ffordd i Gricieth, 2 filltir o’r bwthyn.

Lôn Feicio Eifion - llwybr beicio llawn golygfeydd sy’n ddeuddeg milltir a hanner o hyd, o Gaernarfon i Fryncir, 3.5 milltir o’r bwthyn.

Chwaraeon Dwr
Plas Menai - Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Dwr sy’n cynnig cyrsiau dydd ar amrywiaeth eang o weithgareddau, ar gyfer pob lefel, 3 milltir.

Golff
Clwb Golff Caernarfon - cwrs golff 18 twll, 3.5 milltir.

Clwb Golff Henllys - Biwmares. Cwrs golff 18 twll, 9 milltir.

Marchogaeth
Stablau Marchogaeth Eryri - Waunfawr - rhwng Yr Wyddfa a’r môr. Addas ar gyfer pob oed a gallu, 7 milltir.

Traethau
Mae gan Ddinas Dinlle draeth hir a thywodlyd, a dyma’r traeth mwyaf gogleddol ym Mhenrhyn Llyn, 8 milltir

Traeth Llanddona - traeth hir a thywodlyd sydd â Baner Las. Poblogaidd iawn gan deuluoedd, canw-wyr, pysgotwyr a llongwyr, 11 milltir.

Pysgota
Pysgota ar afon - Dyffryn Ogwen - 8 milltir

Pysgota môr o amgylch Ynys Môn o bier Fictorianaidd Biwmares, 9 milltir.