- Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
- £1,134 per week
- £162 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 3 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 3 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
- 2 o welyau soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Popty Range/Aga
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 3 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 09:00
Description
Yng nghalon Eryri, mae Ysgubor Cae'r Blaidd yn cynnig lleoliad trawiadol ar gyfer darganfod y Parc Cenedlaethol gyda'i ystod o atyniadau. Wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd, cestyll a fforestydd, digon o ddiwylliant a threftadaeth, llynnoedd hyfryd a nifer o draethau euraidd, dyma'n wir y lleoliad delfrydol ar gyfer aduniadau teulu neu ffrindiau. Yr eiliad y cyrhaeddwch yr ysgubor, byddwch yn teimlo'n gartrefol, gyda gardd helaeth a golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd i'w mwynhau.
Mae'r bwthyn yn sefyll ar ben ei hun ar gyrion Llanffestiniog, lai na milltir o dafarn/bwyty ac o fewn 3 milltir o Blaenau Ffestiniog a'i atyniadau rhyfeddol. Mae'r rhain yn cynnwys Zip World Titan a thrampolinau tanddaearol Bounce Below, beicio mynydd Antur Stiniog a thrên stêm Ffestiniog, sy'n mynd â chi i Porthmadog a'r arfordir, lai na 10 milltir i ffwrdd. Mae Brailsford Way (beicio) a'r Llwybr Llechi hefyd ar stepen y Drws. Mae atyniadau lleol eraill yn cynnwys pentref Eidalaidd Portmeirion, Canolfan Genedlaethol Dŵr Gwyn ger y Bala, Zip World Forest yn Betws y Coed, Clwb Golff Royal St David's yn Harlech a llawer mwy.
Gellir cerdded i unrhyw gyfeiriad o'r ysgubor gan fwynhau bryniau, dyffrynnoedd a mynyddoedd garw. Mae yna hefyd raeadr hardd ond dwy funud o'r llety. Mae Ysgubor Cae'r Blaidd yn wir leoliad ysbrydoledig ar gyfer eich gwyliau nesaf yn Eryri.
Llawr Gwaelod
- Mynedfa - gwres dan y llawr, yn arwain i ardal cynllun agored, gyda -
- Cegin - offer yn cynnwys popty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, meicrodon a pheiriant coffi. Golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd.
- Ardal bwyta - gyda bwrdd mawr i eistedd 12.
- Lolfa - gyda soffas a chadeiriau i eistedd 12. Eisteddwch nôl ac ymlaciwch o flaen y stôf goed, neu fe fedrwch fwynhau golygfeydd Eryri drwy ddrws llithro mawr sy'n agor allan i'r patio. Teledu Freeview a chwpwrdd sy'n llawn o lyfrau, gemau, mapiau, a digon o syniadau am bethau i'w gweld a'u gwneud.
- Ystafell wely 1 - gwely maint king (gellir ei droi'n ddau wely sengl 2'6") a gwres dan y llawr.
- Ystafell wely 2 - gwely maint king (gellir ei droi'n ddau wely sengl 2'6").
- Ystafell ymolchi - cawod fawr, uned ymolchi a rheilen sychu tywelion.
- Toiled/Iwtiliti - Toiled, sinc ac uned ymolchi. Peiriannau golchi a sychu dillad yn yr Iwtiliti.
Llawr Cyntaf
- Ystafell wely 3 - gwely king mawr (gellir ei droi'n ddau wely sengl 3') ac ystafell gawod ensuite. Gyda gwely dwbl soffa, gall yr ystafell fod yn ystafell deulu i 4 (1 oedolyn neu 2 blentyn),am gost ychwanegol drwy son wrth archebu. Golygfeydd o'r ardd a'r mynyddoedd.
- Ystafell wely 4 - gwely king mawr (gellir ei droi'n ddau wely sengl 3') ac ystafell ymolchi ensuite gyda bath. Gellir gwneud yr ystafell hon hefyd yn ystafell deulu i 4(1 oedolyn neu 2 blentyn) drwy ddefnyddio'r gwely soffa dwbl am gost ychwanegol drwy son wrth archebu. Golygfeydd o'r ardd a'r mynyddoedd, ynghŷd â ffenestri mawr yn edrych dros y lolfa.
Gardd
- Gyda golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd, mae'r bwthyn â gardd fawr gaeedig, gyda nant a pwll ym mhen draw'r ardd.
- Patio mawr gyda dodrefn gardd. Pydew tân a barbaciw siarcol - un bag o siarcol yn gynwysedig.
- Garej gyda storfa beiciau diogel.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Cyflenwad cychwynnol o goed a glô yn gynwysedig. Mwy o goed ar gael i'w prynu
- Croesewir hyd at 2 o gŵn. Bydd yn rhaid iddynt fod o leiaf blwydd oed, wedi eu brechu a'u trin rhag chwain.
- Dim ysmygu tu mewn y llety
- Parcio ar gyfer 4 neu fwy o geir