Coedfa

Betws-y-Coed, North Wales Snowdonia

  • Mwynhewch hyfrydwch Betws y Coed yn y cyn lety Bonheddwr Fictorianaidd hwn sy'n edrych allan dros afon a dyffryn Lledr ac o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

     

You can book this property from:

  • £1,004 per week
  • £143 per night

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r afon
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Popty Range/Aga
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 4 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 4:00pm
  • Amser gadael: 10.00

Description

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl yn y cyn lety Bonheddwr Fictorianaidd hwn, sy'n eistedd yn fawreddog uwchben Pont Waterloo ym Metws y Coed. Ond tafliad carreg o ganol y pentref, mae gan Coedfa ystafelloedd mawr gyda gwaith pren hardd ac mae'n llawn o nodweddion gwreiddiol. Eisteddwch yn gysurus o flaen y stof goed gyda'r nos cyn noswylio i'ch gwelyau unigryw ar gyfer noson gyfforddus o gwsg. Mae'r llety'n elwa o gael patio ac ardd gerrig, perffaith ar gyfer bwyta allan, neu ar nosweithiau oerach mae bwrdd mawr yn y gegin gydag AGA groesawgar. 

Mae Coedfa Bach ar yr un safle, bwthyn dwy ystafell wely drws nesaf i'r prif lety fyddai'n addas ar gyfer grwpiau estynedig o deulu a ffrindiau.

Fe fydd gwesteion hefyd yn medru mwynhau defnyddio'r cyfleusterau hamddena yng Ngwesty'r Waterloo gerllaw, a hynny yn rhad ac am ddim. Mae'r cyfleusterau yn cynnwys pwll nofio dan do gyda Jacwsi, cawod ac ystafelloedd newid, sawna, ystafell stêm a campfa.

Llawr Gwaelod

Cyntedd - gyda digon o le ar gyfer cotiau ac esgidiau.

Cegin - ystafell fawr gyda ffenestri Ffrengig yn agor allan i'r patio. Unedau cegin o ansawdd uchel gyda wyneb gweithio gwenithfaen a sinc Belfast, ac yn cynnwys AGA gyda 2 bobty, popty Siemens a meicrodon, peiriant golchi llestri ac oergell. 

Ystafell fwyta - gyda nenfwd uchel, lle tân marmor a dodrefn hynafol. Bwrdd bwyta mawr gyda chadeiriau a lle i eistedd ger y tân ar gyfer diod ar ôl swper.

Lolfa - gyda lle tân nodweddiadol a stôf goed. Digon o gadeiriau cyfforddus a mwy o ddodrefn hynafol. Teledu a chwaraewr DVD.

Ystafell chwarae - gyda bwrdd pêldroed a nifer o gemau i gadw aelodau iau y teulu'n hapus.

Ystafell iwtiliti - peiriant golchi/sychu dillad, oergell/rhewgell a bachau i hongian cotiau.

Ystafell gyda toiled a basn.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 1 - gyda gwely pedwar postyn maint king, cypyrddau dillad, soffa a chadair. Dwy ffenestr fawr yn wynebu'r de gyda golygfeydd anhygoel. Ensuite yn cynnwys bath cornel gyda chawod oddi mewn, basn a thoiled. 

Ystafell wely 2 - gwely dwbwl hynafol, cypyrddau dillad, soffa a nenfwd uchel.

Ystafell wely 3 - gyda dau wely sengl a chwpwrdd dillad. Ensuite gyda chawod, basn a thoiled.

Ystafell wely 4 - gwely dwbwl gyda chypyrddau dillad.

Ystafell ymolchi yn cynnwys bath, uned gawod, basn a thoiled.

Gardd

Wedi ei amgylchynu gan 3/4 acer o erddi Fictorianaidd, gyda lawnt, coetir a nant. Golygfeydd anhygoel dros Ddyffryn Lledr a'r afon. Mae'r ardal hon yn cael ei rhannu gyda Coedfa Bach. Mae yna batio preifat a thŷ haf at ddefnydd Coedfa yn unig, gyda bwrdd a chadeiriau. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr a llaeth     
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig       
  • Coed tân ar gyfer y stôf (bydd yn rhaid talu ar ddiwedd y gwyliau)    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig    
  • Sychwr gwallt ar gael     
  • Wi-fi ar gael   
  • Gemau bwrdd ar gael     
  • Dim ysmygu tu mewn y llety  
  • Cot baban - dewch â dillad eich hun i'r cot   
  • Darperir y canlynol:     
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu    
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled     
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol     
  • Lle parcio i 4 car ar y safle   
  • Barbaciw (dim cyflenwad o danwydd)    
  • Gall gwesteion ddefnyddio cyfleusterau hamdden Gwesty'r Waterloo, yn rhad ac am ddim   

Location