Llyn Dinas Lodge

Betws-y-Coed, North Wales Snowdonia

  • 5 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
  • Special Offer15% offer 28th June – 18th July
  • Special Offer10% offer w/c 19th July

You can book this property from:

  • £951 per week
  • £136 per night
  • 5 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Balconi
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mwynhewch y lleoliad gwych hwn, o fewn pellter cerdded i Betws y Coed, y porth i Barc Cenedlaethol Eryri gyda digon o lwybrau cerdded, gweithgareddau ac atyniadau. Wedi ei leoli oddi mewn i barc tawel ac heddychlon, mae Llety Dinas Lodge yn un o saith llety 5 seren ar y safle - i gyd gyda twb poeth preifat. 

Mae yna fwytai, caffis, siopau a thafarndai o fewn pellter cerdded tra fod Zip World Forest a Rhaeadr Ewynnol ond cwpwl o filltiroedd i ffwrdd. Gellir hefyd dod o hyd i gestyll, trên stêm, gweithgareddau a thrampolîn tanddaearol, reidiau zip wire, a llawer mwy o fewn ychydig filltiroedd. Am ddyddiau allan mwy ymlaciol, mae arfordir Gogledd Cymru a threfi marchnad yn cynnig digon i weld a gwneud.

Yn cael ei redeg gan deulu lleol mae'r llety steilus yn leoliad gwych i fwynhau y profiadau cyflawn sydd gan Eryri i'w cynnig.

Llawr Gwaelod

Mynediad i fyny 4 step i'r llety, sydd ar un llawr. Ardal fyw agored a modern yn cynnwys lolfa, cegin ac ardal fwyta sy'n arwain allan i'r dec a'r twb poeth.

Cegin - yn cynnwys popty, hob a meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant golchi llestri. Mae yna hefyd ynys gyda rac i gadw gwîn.

Lolfa - sofas a chadeiriau cyfforddus o flaen bwrdd coffi a theledu mawr Smart. Golygfeydd gwych.

Ardal fwyta - bwrdd a chadeiriau i bedwar o flaen y drysau patio.

Ystafell wely 1 - gwely maint king, teledu Smart a chwpwrdd dillad. En-suite gyda cawod bwerus, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Ystafell wely 2 - dau wely sengl, cwpwrdd dillad a theledu Smart.

Ystafell ymolchi - baddon a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Ystafell iwtiliti gyda sinc, peiriant golchi/sychu dillad a digon o le i storio. 

Tu Allan

Dec mawr wedi ei amgylchynu gan wydr frosted, gyda twb poeth suddedig er mwyn preifatrwydd. Bwrdd a chadeiriau.

Mae'r safle wedi ei amgylchynu gan wyrddni ac yn elwa o olygfeydd gwych o'r coed gerllaw. 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn null hamper tymhorol. Yn cynnwys botel o ddwr lleol, caws, bisgedi, bara, menyn, jam, cacennau cri, te, coffi, llaeth a siwgwr
  • Gwn a sliperi ar gael ar gyfer y twb poeth
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig     
  • 1 sychwr gwallt ar gael
  • Wifi ar gael
  • Gât ar ben y stepiau yn sicrhau llety caeedig   
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn    
  • Mae'r canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad:
    • Cegin: pupur, halen a olew. Papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau a ffoil.  
    • Ystafell ymolchi: siampw, sebon a 2 rolyn papur toiled    
    • Cynnyrch glanhau cyffredinol     
  • Lle parcio i hyd at 2 gar gerllaw'r llety 

Location