- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- £451 per week
- £64 per night
- 5 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Ystafell chwaraeon
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 3 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 16:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Bwthyn wedi ei adnewyddu yn ddiweddar, yn sefyll ar ben ei hun, gydag ystafell chwaraeon a gardd gaeedig. Wedi ei leoli oddi mewn i Barc Cenedlaethol Eryri, gyda golygfeydd trawiadol o'r mynyddoedd o gwmpas, a mynediad cyfleus i'r adnoddau gwych sydd i'w darganfod yn yr ardal. Mae tref farchnad Bala yn cynnig ystod o siopau, tafarndai a bwytai, ac yn gartref i Lyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru sy'n adnabyddus am ei gyfleoedd chwaraeon dŵr a hwylio.
Llawr Gwaelod
Cegin, ardal fwyta a lolfa cynllun agored gyda digon o olau naturiol.
Cegin - modern gyda peiriant golchi llestri, popty a hob infusion, oergell/rhewgell fawr a meicrodon. Ystafell iwtiliti gyda peiriant golchi/sychu dillad a toiled.
Ardal fwyta gyda bwrdd derw a chadeiriau gyda golygfeydd o gefn gwlad drwy'r drysau patio sy'n arwain allan i'r ardd gefn.
Lolfa gysurus gyda teledu Smart 40" a chwaraewr DVD, stôf drydan a soffas lledr. Llyfrau a gemau bwrdd ar gael.
Ystafell wely 1 - gwely maint king, byrddau bach ger y gwely a lle i storio dillad.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl, cypyrddau a storfa.
Ystafell wely 3 - gwely sengl a chypyrddau dillad.
Ystafell ymolchi gyda cawod fawr, baddon, toiled a basn.
Gardd
Mae'r garej wedi ei thrawsnewid i ystafell chwaraeon gyda bwrdd pŵl llechen a cabinet dartiau.
Lawnt fawr a chaeedig yn amgylchynu'r bwthyn. Lleoliad heddychlon â golygfeydd anhygoel o gefn gwlad a mynydd Arenig gyda bwrdd picnic a chadeiriau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr a llaeth, yn ogystal â chacen gartref a menyn Cymreig
- Dillad gwelyau, tywelion a sychwr gwallt ar gael
- Gwres ganolog a thrydan yn gynwysedig
- Cot a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Wifi ar gael
- Haearn a bwrdd smwddio ar gael
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled
- Digon o le parcio preifat y tu allan i'r bwthyn
Location
Bwthyn yn sefyll ar ben ei hun, oddi mewn i ardd dawel a chaeedig sy'n mwynhau golygfeydd gwych o gefn gwlad. Hanner milltir o bentref y Parc sy'n sefyll ar lan yr afon Llafar ac yn fan cychwyn i nifer o lwybrau cerdded a beicio. Mae'r bwthyn yn cynnig mynediad i holl adnoddau gwych yr ardal.
Mae'r dafarn/bwyty agosaf, Tafarn yr Eryrod, ym mhentref Llanuwchllyn (3.5 milltir), ac mae hefyd yn gartref i siop y pentref. Mae tref farchnad brysur y Bala (4 milltir) yn cynnig ystod o adnoddau, yn cynnwys archfarchnad, siopau annibynnol, caffis, tafarndai a bwytai. Mae yma hefyd sinema draddodiadol a Chanolfan Hamdden.
Fe orwedd y Bala oddi mewn i Barc Cenedlaethol Eryri ger Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru a chartref i bysgodyn unigryw o'r enw y Gwyniad, sydd wedi goroesi o Oes yr Iâ. Yn enwog fel canolfan chwaraeon dŵr megis pysgota, hwylio, canŵio, syrffio a rafftio, mae'r Bala hefyd yn bencadlys Rheilffordd lein fach Llyn y Bala. Wedi ei amgylchynu gan fynyddoedd y Berwyn ar un ochr a chadwyn Mynyddoedd Eryri ar yr ochr arall, dyma fan delfrydol ar gyfer dringo, cerdded, beicio mynydd a nifer o weithgareddau awyr agored eraill megis Zip World a Bounce Below (20 milltir).
Lleoliad delfrydol ar gyfer teithio o gwmpas Gogledd a Chanolbarth Cymru, ac arfordir trawiadol Bae Ceredigion. Gellir ymweld â thref boblogaidd Dolgellau (16 milltir) ble cynhelir marchnad y ffermwyr yn fisol, neu Betws y Coed, sy'n enwog am ei rhaeadr ewynnog a'i phyllau dŵr. Gydag atyniadau a gweithgareddau niferus drwy'r ardal, dyma leoliad gwych sydd yn darparu ar gyfer pob diddordeb.
Cerdded
- Digon o lwybrau cerdded o stepen y drws, drwy dir fferm ac o bentref y Parc (o fewn 0.5 milltir)
- Llyn Tegid – llwybr hyd at 10 milltir o gwmpas y llyn 4 milltir o hyd (2 filltir)
- Mynyddoedd yr Aran - 14 copa dros 2,000 troedfedd, yn cynnwys Aran Fawddwy (2969tr) ac Aran Benllyn (2904tr). Llwybr yn cychwyn o Lanuwchllyn (3.5 milltir)
- Mynyddoedd Arenig - 13 copa dros 2,000tr, yn cynnwys Arenig Fawr a Moel Llyfnant. Llwybr yn cychwyn ger Llyn Celyn (10 milltir)
Beicio
- Mae'r lonydd tawel o gwmpas y bwthyn yn berffaith ar gyfer beicio gyda llwybr beicio penodol yn cychwyn o'r Parc (0.5 milltir)
- Llyn Tegid - gellir beicio y 10 milltir o gwmpas y llyn (2 filltir)
- Llyn Celyn – llwybr cylchol 15 milltir o hyd o gwmpas y llyn (10 milltir)
- Canolfan Beicio Mynydd Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog (20 milltir)
- Canolfan Beicio Mynydd Coed-y-Brenin – addas ar gyfer pob oed (23 milltir)
- Gellir llogi beiciau yn yr ardal
Pysgota
Nifer o gyfleoedd i bysgota yn yr ardal - yr agosaf yw Llyn Tegid (2 filltir)
Chwaraeon Dŵr
- Llyn Tegid – hwylio, canŵio, caiacio, syrffio, adeiladu rafftiau ayb (2 filltir)
- Canolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol, Canolfan Tryweryn – rafftio dŵr gwyn, caiacio a canŵio (9 milltir)
Golff
Clwb Golff y Bala - cwrs 10 twll gyda golygfeydd anhygoel (5 milltir)
Marchogaeth
Canolfan Farchogaeth Bwlchgwyn - addas ar gyfer unrhyw un dros 4 oed (24 milltir)
Traethau
- Traeth Abermaw– traeth Baner Lâs euraidd (26 milltir)
- Traeth Black Rock - 3 milltir o draeth euraidd (27 milltir)