Crud y Werin

Bala, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May
  • Special Offer10% Summer offer - 26th July - 5th September 2024

You can book this property from:

  • £458 per week
  • £65 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri

Ystafell ymolchi

  • 2 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mwynhewch y llety hunan ddarpar chwaethus hwn sy’n caniatáu anifeiliaid, wedi ei leoli yng nghanol cefn gwlad hyfryd. Mae Bala a Corwen 10 munud i ffwrdd yn y car o fwthyn gwyliau Crud y Werin. I’r de, mae tref farchnad Bala yng nghanol ysblander Eryri ac mae’n enwog am ei lyn enwog, chwaraeon dwr ac atyniadau poblogaidd i dwristiaid. Mae taith fer i’r gogledd yn dod a chi i Gorwen, cwrs go-cartio pencampwriaeth, tref gamlas Llangollen a llawer mwy. Mae Crud y Werin felly’n fan gwych os ydych yn edrych am hoe heddychlon neu wyliau’n llawn gweithgareddau.

Llawr Gwaelod

Cegin / Ystafell fwyta – Mae’r ysgubor yma sydd wedi ei adnewyddu’n ddiweddar wedi cadw nifer o’i drawstiau a nodweddion gwreiddiol. Mae gan y gegin / ystafell fwyta lawr llechfaen, unedau cegin derw a modern gydag oergell ac adran rewgell ynddo, micro-don a phopty.

Golau, eang ac wedi ei addurno’n chwaethus gyda bwrdd bwyta i bedwar a llefydd eistedd cyfforddus ar gyfer darllen neu wylio’r teledu.

Ystafell fyw - Dau ris lechfaen yn arwain lawr at ystafell eistedd glud gyda sofa lliw hufen a dwy gadair. Mae gan yr ystafell hon lawr derw cadarn, trawstiau traddodiadol a silffoedd ffenestr ddofn. Mae’n ystafell olau iawn gyda theledu, chwaraewr DVD a bocs o deganau i blant.

Llawr Cyntaf

Ceir grisiau derw cadarn goleuedig yn arwain at y llawr cyntaf a dau banel gwydr â rheilen law dderw ar y balconi. Mae gan y balconi eang lawr a drysau o dderw cadarn. Wrth yr ystafell dwin mae cadair ddarllen a bwrdd gwisgo bach.

Ystafell wely ddwbl - Tri gris derw yn arwain lawr i’r brif ystafell ddwbl. Mae’r ystafell yn fawr ac agored gyda tho uchel yn gostwng, trawstiau traddodiadol, dwy ffenestr velux yn y to ac un ffenestr ar lefel y llawr gyda bracedau diogelwch. Llawr derw cadarn gyda bwrdd gwisgo hynafol, cistiau ger y gwely a chadair, teledu a gwely dwbl modern ar gyfer moethusrwydd llwyr. Ystafell gawod en-suite gyda chawod, toiled a rheilen dywel wedi’i chynhesu.

Ystafell wely twin - Mae’r ystafell hon eto’n fawr a golau gyda ffenestr fawr â bracedau diogelwch ac un ffenestr velux. Mae’r dillad gwely’n lliwgar a hwylus, ac mae’r ystafell yn cynnwys trawstiau traddodiadol, llawr a drysau derw cadarn, to sy’n gostwng, cwpwrdd a chistiau ger y gwely.

Ystafell ymolchi - bath gydag uned gawod ar y tapiau, toiled, basn gyda chwpwrdd, rheilen dywel wedi’i chynhesu a phwynt eillio. Ystafell wedi ei theisio i gyd.

Gardd

Mae gan fwthyn gwyliau Crud y Werin ardd gaeedig ei hun gyda golygfeydd hyfryd dros y dyffryn. Dodrefn patio, barbeciw ac ardal gyda lawnt yn gynwysedig.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Mae Crud y Werin drws nesaf i fwthyn Crud y Wennol sy’n cysgu 2. Byddai hyn, os fyddai angen yn darparu llety i 6 gwestai i gyd.
  • Lleiniau gwely, tywelion dwylo a bath yn cael eu darparu.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Croeso i anifeiliaid anwes – 1 ci bach. Tâl ychwanegol o £25.00.
  • Darperir wi-fi
  • Darperir cot a chadair uchel a gais.
  • Digon o lefydd parcio tu allan i’r bwthyn.

Location

Mae Crud y Werin wedi ei leoli o fewn pellter hawdd i amrywiaeth o atyniadau ac mae siop a garej o fewn 2 filltir. Mae tafarn sy’n caniatau anifeiliaid yn Llandderfel, 3 milltir o’r bwthyn ac mae nifer o lefydd bwyta gwerth chweil o fewn 10 milltir.

5 milltir i’r de o’ch bwthyn gwyliau mae tref y Bala wedi ei osod yng nghanol golygfeydd gwych, a Llyn Tegid sydd 4 milltir o hyd yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Ar hyd y llyn mae Rheilffordd Llyn Tegid ble mae trên stêm yn galluogi ymwelwyr i fwynhau taith sydd 9 milltir yno ac yn ôl drwy Barc Cenedlaethol Eryri. Gall ymwelwyr nofio, bysgota, caiacio a chwaraeon dwr eraill ar y llyn, a cherdded a beicio o’i amgylch. Mae tref y Bala yn cynnwys nifer o siopau diddorol a bwytai. Gellir argymell Plas yn Dre, Bala Spice a Tyddyn Llan yn arbennig. Mae llwybrau cerdded mynydd a golff hefyd ar gael.

Mae’n werth ymweld â thrac go-cartio pencampwriaeth yng Ngherrigydrudion (9 milltir) ac mae Canolfan Coed y Brenin hefyd yn cynnig diwrnod gwych. Mae’n werth ymweld â threfi eraill cyfagos e.e tref gamlas Llangollen (14 milltir), tref ganol oesol Rhuthun (15 milltir) a Betws y Coed, prif atyniad twristiaid ym Mharc Cenedlaethol Eryri (21 milltir).

Cerdded
• Yr Hen Reilffordd (1 milltir) Caer Derwyn (2 filltir), llwybrau cylch yn dechrau o Gorwen. 5 milltir o’r bwthyn.
• Llwybrau cerdded eraill o Gorwen yn cynnwys Llwybr Gogledd Berwyn, Llwybr Dyffryn Dyfrdwy a Llwybr Clwyd. 5 milltir o’r bwthyn.
• Ynghyd â’r nifer o lwybrau cerdded yn Bala, mae llwybr hyfryd o amgylch y llyn. 5 milltir.
• Cadwyn fynyddoedd Aran yn cynnig 14 copa dros 2000 troedfedd. Llwybrau yn dechrau o Lanuwchllyn, 10 milltir.
• Cadwyn fynyddoedd Arenig gyda 13 copa dros 2000 troedfedd, yn cynnwys Arenig Fawr a Moel Llyfnant. Llwybr yn dechrau ger Llyn Celyn, 11 milltir.

Beicio
• Llyn Celyn - llwybr cylchol pymtheg milltir o amgylch y llyn, 11 milltir o’r bwthyn.
• Llyn Tegid - llwybr hyd at 10 milltir o hyd o amgylch y llyn sy’n 4 milltir mewn hyd, 5 milltir.
• Canolfan Beicio Mynydd Coed y Brenin - Llwybrau addas ar gyfer pob oed, 19 milltir

Chwaraeon Dwr

• Canolfan Dwr Gwyn Genedlaethol - Cartref i dair pencampwriaeth canwio’r byd bob blwyddyn, mae’n cynnig amrywiaeth o chwaraeon dwr, o ganwio a chaiacio i rafftio, a hyd yn oed saffari rafft deuluol. Argymhellir eich bod yn archebu o flaen llaw, 2.5 milltir.
• Llyn Tegid - Hwylio, canwio a hwylfyrddio mewn ardal hardd, 7 milltir.

Golff

Clwb Golff y Bala - Cwrs golff 10 twll gyda golygfeydd godidog dros gefn gwlad Gogledd Cymru, 5 milltir.

Pysgota
Llyn Tegid - Amrywiaeth o 14 bysgod: draenogiaid, gwrachennod, penhwyaid, brithyll, penllwydion, slywennod, eog pan fo’n dymhorol a hefyd Gwyniad, 6 milltir.