- £304 per week
- £43 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- 1 Pet
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae Crud y Wennol yn ysgubor wedi ei thrawsnewid sy'n cynnig llety steilus a delfrydol i ddau, ac yn caniatau anifeiliaid. Lleoliad heddychlon, o fewn 5 milltir i Lyn Tegid yn y Bala, a nifer o atyniadau eraill, mae Crud y Wennol yn fan delfrydol ar gyfer gwyliau ymlaciol i gyplau. Mwynhewch chwaraeon dŵr, cerdded, darganfod trefi marchnad bychain Cymreig, reidiau ar drên stêm neu ar y gamlas, digon o fwytai gwych a llawer mwy.
Llawr Gwaelod
Cegin, ardal fwyta a lolfa agored - mae'r ysgubor hon wedi ei hadnewyddu gan gadw llawer o'r trawstiau a'r nodweddion gwreiddiol.
Yn y gegin a'r ardal fwyta fe geir llawr llechi, unedau cegin golau gydag oergell a rhewgell oddi mewn, meicrodon a phopty. Bwrdd bwyta gyda lle i dri, soffa ymlaciol ar gyfer darllen neu wylio'r teledu.
Llawr Cyntaf
Grisiau derw modern yn arwain i'r llawr cyntaf ac ystafell wely olau o gynllun agored gyda nenfwd uchel. Lloriau a drysau derw gyda thrawstiau traddodiadol. Cypyrddau ar ddwy ochr y gwely a theledu.
Ystafell ymolchi ensuite gyda cawod uwchben y baddon, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Gardd odidog i gyplau ymlacio a mwynhau'r golygfeydd anhygoel. Wedi ei lleoli yng nghefn y bwthyn mae'r ardd wedi ei chau i mewn gyda dodrefn patio.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Mae Crud y Wennol yn un o ddau fwthyn, y drws nesaf i Crud y Werin sydd yn cysgu 4. Gellir archebu'r ddau fwthyn i gysgu cyfanswm o 6.
- Dillad gwely, tywelion a sychwr gwallt ar gael
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Croesewir un ci bach am gost ychwanegol o £25 (yn daladwy wedi cyrraedd)
- Cot, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir
- Peiriannau golchi a sychu dillad ar gael yn y sied tu allan (rhannu hefo'r bwthyn drws nesaf - £3 yr awr i olchi; £3 am hanner awr i sychu
- Gwyliau byr i gyplau ar gael drwy'r flwyddyn
- Llefydd parcio tu allan y bwthyn