- £505 per week
- £72 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- Twb poeth
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely sengl Zip & Link (gellir cyfuno i wneud gwely king/super-king)
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae gan y bwthyn hunan-ddarpar hyfryd hwn yn y Bala, gyda twb poeth, bopeth rydych ei angen o fewn taith 5 munud ar droed. Wedi ei ddodrefnu’n chwaethus a modern, mae’r bwthyn a drawsnewidiwyd o hen ysgubor mewn lleoliad unigryw ar gyrion y dref. Mae ei leoliad o fewn iard amgaeedig yn creu teimlad o breifatrwydd lle medrwch fwynhau manteision cefn gwlad heb y cyfrifoldeb o orfod gyrru i bobman. Mae’r bwthyn wedi ei leoli 500 metr o Lyn Tegid gyda’i holl weithgareddau chwaraeon dwr; ac o gerdded 5 munud fe ddewch at fwytai, caffis, siopau a thafarndai tref farchnad fendigedig Y Bala.
Lleoliad canolog gwych ar gyfer darganfod Gogledd Cymru gyda theithiau cerdded hardd, rafftio dwr gwyn a’r trên bach yn rhai o’r nifer o weithgareddau sydd ar gael ar drothwy eich drws.
Llawr Gwaelod
Mae gan y bwthyn hunan-ddarpar clud yma yn y Bala gyfleusterau wi-fi a system gwres canolog o dan y llawr drwy’r bwthyn.
Mae yna deimlad eang i’r ystafell fyw agored gyda’i nenfydau uchel a’i drawstiau pren. Mae’r gegin fodern lwyd a sgleiniog yn cynnwys peiriant golchi llestri a pheiriant golchi dillad, hob cerameg sy’n cael ei reoli gan gyffyrddiad gyda ffwrn sengl, microdon a rhewgell/oergell fawr.
Bwrdd bwyd i 4 a theledu sgrin fflat wedi ei osod ar y wal fel y gellwch ei weld o bob rhan o’r ystafell fyw. Ymlaciwch ar y ddwy soffa foethus yn y lolfa a mwynhewch y golygfeydd o’r caeau agored drwy’r drysau patio. Mae’r ardal fyw yn agor allan ar ardd amgaeedig yng nghefn y bwthyn gyda chyfleusterau hot tub ar yr ardal wedi ei decio.
Ystafell wely 1: Gwely maint king croesawgar sy’n gallu cael ei newid yn ddau wely sengl ar gais. Dodrefn derw a theledu sgrin fflat gyda freeview. Mewn arddull fodern gyda nenfydau uchel a thrawstiau pren.
Ystafell wely 2: Ystafell wely twin gyda theledu freeview, dodrefn derw, nenfydau uchel a thrawstiau pren.
Ystafell ymolchi fodern gyda ffitiadau cyfoes, cawod uwchben y bath a rheilen gwresogi tywelion.
Gardd
O’r ystafell fyw, camwch allan i’r ardd amgaeedig sydd yng nghefn y bwthyn gyda chyfleusterau hot tub ar gyfer eich defnydd preifat chi. Ardal wedi ei decio gyda dodrefn ardd a lawnt gyda gwelyau blodau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Dillad gwely, tywelion bath a llaw a sychwr gwallt yn gynwysedig
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Cot a chadair uchel ar gael ar gais
- Gwely soffa yn yr ardal fyw ar gyfer gwestai ychwanegol ar gael ar gais.
- Digonedd o le parcio preifat ar arwyneb gwastad tu allan i’r bwthyn.
- Mae’r hot tub yn gallu cael ei ddefnyddio ar unrhyw adeg o’r dydd, ond rydym yn gofyn i’n gwestai ymdawelu ar ôl 10:30 y.h.
- Lleoliad ar fferm deuluol gyda’r perchnogion ar gael ar y safle i helpu gydag unrhyw ymholiadau, darparu gwybodaeth leol a.y.b. os oes angen.
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu yn y bwthyn.
- Tabledi peiriant golchi llestri, hylif golchi llestri, lliain sychu llestri a halen a phupur yn gynwysedig
- Darperir 1 sychwr gwallt
- WIFI ar gael
- Os gwelwch chi'n dda, wrth archebu nodwch os hoffech chi i'r gwely yn ystafell wely 1 fod fel gwely king neu ddau wely sengl.