Capel Maethlon

Aberdyfi, North Wales Snowdonia

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

You can book this property from:

  • £600 per week
  • £86 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Dim signal ffôn symudol

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio ar y stryd

Hygyrchedd

  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Capel wedi ei drawsnewid, yn mwynhau lleoliad gwych yng nghanol dyffryn trawiadol a heddychlon Cwm Maethlon yn Eryri. Yn agos i afordir a mynyddoedd Gogledd Cymru, gyda Tywyn (3.5 milltir) ac Aberdyfi (5.5 milltir) yn cynnig traethau euraidd hyfryd a digon o gyfleusterau. Mae nodweddion traddodiadol y capel wedi eu cyfuno'n deimladwy gyda nodweddion modern, yn cynnwys tair ystafell wely gydag ensuite a theledu, i gynnig encil cartrefol. Gyda cae cyfan yn ardd, dyma leoliad perffaith ar gyfer gwyliau gyda plant a/neu gŵn.

Wedi ei leoli ar lôn wledig dawel, mae'r llety yn cynnig nifer o lwybrau cerdded diddorol o stepen y drws, yn cynnwys Llwybr Panorama, sy'n mynd â chi yn uniongyrchol i Aberdyfi gyda'i gaffis a bwytai glan môr, mewn llai na 3.5 milltir. Mwynhewch siwrne ysblennydd yn y car i droed mynydd Cader Idris, gan basio Castell y Bere ar y ffordd. Beth am daith ar drên stêm o Tywyn i Talyllyn, neu grwydro'r arfordir ar Reilffordd y Cambrian - i'r de i Aberdyfi a Machynlleth, neu i'r gogledd i Abermaw, Harlech a Phwllheli. Mae atyniadau poblogaidd eraill yn cynnwys Sinema y Magic Lantern, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Canolfan Grefftau Corris a Labyrinth y Brenin Arthur, i enwi ond ychydig.

Llawr Gwaelod

  • Ystafell Fyw - cynllun agored gyda golygfeydd o'r dyffryn. Mae'r ystafell yn cynnwys lolfa gyda dwy soffa ledr, bwrdd coffi a theledu mawr; ardal fwyta gyda bwrdd derw; a, chegin gyda'r holl offer yn cynnwys meicrodon, popty a hob, peiriant golchi llestri ac oergell/rhewgell.
  • Ystafell Iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad, a sinc Belfast.

Llawr Cyntaf

  • Ystafell wely 1 - gyda gwely dwbl, teledu ar y wal a golygfeydd o'r dyffryn. Ensuite yn cynnwys cawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
  • Ystafell wely 2 - eto gyda gwely dwbl, teledu ar y wal a golygfeydd o'r dyffryn. Ensuite yn cynnwys cawod, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
  • Ystafell wely 3 - gyda dau wely sengl, teledu a golygfeydd. Ensuite gyda bath a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.

Tu Allan

  • Does dim gardd gyda'r llety - yn lle hynny, mae yna gae cyfan. Ar draws y lôn o'r drws ffrynt mae mynediad i'r cae ble gellir mwynhau picnic. barbaciw, neu brydau bwyd alfresco ar y bwrdd picnic. Gellir hefyd ymlacio ar y fainc y tu allan i'r llety a mwynhau'r golygfeydd anhygoel.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig   
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig    
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Croesewir hyd at 2 anifail anwes   
  • Dim ysmygu tu mewn y llety      
  • Dŵr - cyflenwad preifat wedi ei brofi    
  • Parcio ar ochr y lôn ar gyfer hyd at 3 car   

Location