Tyddyn Llŷn

Sarn Mellteyrn, North Wales Coast

  • 4 Star Gold
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates

You can book this property from:

  • £861 per week
  • £123 per night
  • 4 Star Gold

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 2 o welyau sengl
  • 2 o welyau bync

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Popty Range/Aga
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Ystafell wlyb
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Storfa tu allan
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Tŷ fferm gyda golygfeydd pell-gyrhaeddol dros Benrhyn Llŷn, yr holl ffordd i'r môr ar y gorwel. Gyda twb poeth preifat a gardd gaeedig, stôf goed ac ystafell chwaraeon fawr, mae'r llety hwn yn leoliad delfrydol i ddarganfod Penrhyn Llŷn gyda'i draethau niferus a phentrefi glan môr godidog. 

Llawr Gwaelod 

Cegin - cegin tŷ fferm gyda'r holl gyfarpar yn cynnwys peiriant golchi llestri, popty range, yn ogystal â phopty trydan. Yn edrych allan dros y patio. 

Ystafell fwyta - bwrdd bwyta mawr derw, dreser dderw a theledu ar y wal. Ardal gyfforddus a chymdeithasol.

Lolfa - ystafell fawr gyda llawr derw a 2 ardal eistedd arwahan. Stôf goed, teledu a chwaraewr DVD a golygfeydd anhygoel o gefn gwlad.

Ystafell wely - gwely dwbwl gyda dodrefn derw ac ystafell ymolchi ynghlwm gyda gwres o dan y llawr.

Ystafell Iwtiliti tu allan gydag ystafell gawod. Ystafell Iwtiliti gyda peiriannau golchi a sychu dillad, a rhewgell. Ystafell ymolchi gyda cawod, toiled a basn. Ystafell berffaith ar gyfer dillad gwlyb a mwdlyd, neu i storio beic. 

Llawr Cyntaf

Ystafell gyda gwely maint king, dodrefn derw a golygfeydd o draeth Porth Neigwl.

Ystafell gyda dau wely sengl a golygfeydd trawiadol o gefn gwlad, yr holl ffordd i'r môr.

Ystafell gyda gwely bync maint llawn.

Ystafell ymolchi gyda cawod dros y baddon.

Gardd

Gardd breifat, gaeedig gyda twb poeth o dan do, dodrefn gardd a golygfeydd syfrdanol dros gefn gwlad tuag at y môr ar y gorwel.

Ystafell chwaraeon fawr yn yr ysgubor ar gyfer pob oedran. 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Ddim yn derbyn grwpiau dan 21 oed       
  • Pecyn croeso gyda dewis o nwyddau lleol yn cynnwys llaeth, te, caws, menyn, cwrw, cacennau a chreision    
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig     
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig    
  • Cyflenwad cychwynnol o goed tân ar gyfer y stôf goed   
  • 2 sychwr gwallt   
  • Wifi ar gael   
  • Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael ar gais. Dewch â dillad eich hun i'r cot    
  • Cyfleusterau anabl - mae'r llety yn addas ar gyfer mynediad anabl gyda'r llawr gwaelod yn addas ar gyfer cadair olwyn gyda mynediad i'r ystafell wely (yn ddibynnol ar led y gadair) ac ystafell gawod - dewch â chadair/stôl eich hun i'r gawod  
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y llety   
  • Digon o le parcio  
  • Eitemau ychwanegol ar gael yn cynnwys: 
    • Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil a ffilm glynu     
    • Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rholyn papur ar gyfer pob toiled    

Location

Tŷ fferm yn mwynhau golygfeydd o gefn gwlad o ran fwyaf o'r ystafelloedd. Mae Tyddyn Llŷn wedi ei leoli yn ddelfrydol hanner ffordd rhwng arfordir gogleddol a deheuol Penrhyn Llŷn sy'n ei wneud yn leoliad perffaith i ddarganfod yr ardal hon o Harddwch Naturiol Eithriadol. Ac mae digon i'w ddarganfod - o bentrefi glan môr trawiadol i nifer o draethau euraidd, milltiroedd o lwybrau cerdded a nifer o atyniadau. Ychwanegiad gwych i'r llety hwn yw'r ystafell chwaraeon a'r twb poeth preifat yn yr ardd gaeedig. 

Mae'r siop agosaf (sy'n cynnwys cigydd a swyddfa bost) ym mhentref Sarn Mellteyrn (1.5 milltir), tra fod Morfa Nefyn a Nefyn (6 milltir) yn cynnig archfarchnadoedd bach, garej, fferyllfa, caffis ayb. Mae'r dafarn bentref agosaf (Tŷ Newydd Sarn) 1.5 milltir i ffwrdd, tra fod y Lion yn Tudweiliog (3.5 milltir) hefyd yn cynnig bwyd da. Mae yna hefyd nifer o opsiynau eraill i fwyta allan, yn cynnwys Y Llong yn Edern (5 milltir), Y Llong a Tŷ Newydd yn Aberdaron (7 milltir), Tremfan Hall yn Llanbedrog a The Cliffs yn Morfa Nefyn.  

Yn ychwanegol i't traethau trawiadol megis Porthoer, Abersoch ac Aberdaron, mae'r llwybr cylchol o Morfa Nefyn i Tŷ Coch, Porthdinllaen (wedi ei restri y 3ydd tafarn draeth orau yn y byd) hefyd werth ei gerdded yn ystod eich arhosiad ym Mhenryn Llŷn. Mae'n werth hefyd mynd ar drip diwrnod i Ynys Enlli, gyda Parc Glasfryn a Portmeirion yn opsiynau gwych i deuluoedd. Gellir dod o hyd i'r cestyll agosaf yng Nghriccieth a Chaernarfon, tra fod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig nifer o atyniadau  - o Reilffordd Mynydd y Wyddfa, Zip World a Surf Snowdonia. 

Traethau

Mae'r tŷ fferm yn ganolog i holl draethau Penrhyn Llŷn. Towyn, Tudweiliog yw'r agosaf - traeth cysgodol o fewn pellter cerdded o siop ac ystafell de Cwt Tatws (4 milltir)    

Cerdded

Llwybr Arfordirol Llŷn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru) – 84 milltir o gwmpas Penrhyn Llŷn, o Gaernarfon i Bwllheli. Ymunwch â'r llwybr 4 milltir o'r bwthyn ar draeth Towyn 

Nifer o lwybrau cerdded o stepen y drws   

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Pen Llŷn, Llaniestyn - addas ar gyfer pob gallu (2 filltir)   

Canolfan Farchogaeth Cilan ger Abersoch. Delfrydol ar gyfer plant (9 milltir)     

Chwaraeon Dwr

Abersoch - dwr llyfn sy'n addas ar gyfer sgîo dwr, hwylio, syrffio gwynt a mwy (6 milltir)    

Aberdaron - canolfan genedlaethol Porth y Swnt yn cynnig sesiynau caiacio ar hyd yr arfordir rhwng y Sulgwyn a mis Medi (7 milltir)   

Porth Neigwl - lle poblogaidd ar gyfer syrffio a mwy (9 milltir)  

Golff

Clwb Golff Abersoch - cwrs 18 twll ger y traeth (6.5 milltir)    

Clwb Golff Nefyn a'r cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll mewn lleoliad anhygoel (6.5 milltir)   

Canolfan Golff Llŷn, Penyberth - cwrs 9 twll gyda mannau ymarfer ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr profiadol - gellir llogi clybiau (8 milltir)    L

Beicio

Gweler gwybodaeth am feicio ar Benrhyn Llŷn

Pysgota

Pysgota môr - o gwmpas yr holl Benrhyn - opsiynau addas ar gyfer pob oedran