- £714 per week
- £102 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Wedi ei leoli ar godiad gyda golygfeydd panoramig o Eryri a Bae Ceredigion. Gyda balconi mawr a drysau patio, gellir mwynhau golygfeydd gwych o'r ardal fyw agored a dwy o'r ystafelloedd gwely. Mae Pwllheli, gyda Marina, traeth a nifer o siopau, caffis a bwytai annibynnol ond milltir i ffwrdd.
Dyma leoliad gwych i ddarganfod Llwybr Arfordirol Cymru a Phenrhyn Llyn - ardal o harddwch naturiol eithriadol gydag ystod o atyniadau megis Portmeirion a Chastell Criccieth, heb anghofio Parc Cenedlaethol Eryri ac Ynys Môn.
Llawr Gwaelod
Cegin, ardal fwyta a lolfa agored. Mae drysau patio yn arwain i balconi gyda canllaw gwydr a golygfeydd anhygoel dros Fae Ceredigion tuag at Harlech ac Eryri.
Mae'r lolfa fawr yn cynnig seddi cyfforddus i wyth o flaen stôf goed a glô, teledu Smart gyda Netflix ac Amazon Prime. Os ydych yn mwynhau cerddoriaeth, mae yna chwaraewr recordiau a dewis o recordiau yn y cwpwrdd yn y cyntedd. Fe geir nifer o lyfrau, mapiau a gemau bwrdd yma hefyd.
Mae'r gegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell/rhewgell, peiriant golchi dillad a pheiriant golchi llestri, meicrodon, tegell, tostiwr a pheiriant coffi. Bwrdd bwyta gyda lle i 8.
Ystafell wely 1 - gwely maint king, gyda drysau patio yn arwain allan i'r balconi gyda golygfeydd gwych. Dau gwpwrdd wrth y gwely gyda lampau, cypyrddau dillad a chadair.
Ystafell wely 2 - yng nghefn y bwthyn gyda gwely dwbwl, dau gwpwrdd wrth y gwely, lampau a chypyrddau dillad.
Ystafell ymolchi - gydag uned cawod, sinc, toiled a rheilen sychu tywelion.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 3 - gyda gwely maint king, dau gwpwrdd wrth y gwely gyda lampau, cypyrddau dillad a chadair, a golygfeydd panoramig.
Ystafell wely 4 - dau wely sengl yng nhefn y llety.
Ystafell ymolchi gydag uned cawod, baddon, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Gyda balconi mawr dyma leoliad delfrydol ar gyfer bwyta tu allan, gan edrych ar y golygfeydd anhygoel.
Mae yna hefyd lawnt sy'n berffaith i blant chwarae.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys cynnyrch lleol yn ogystal â llaeth, te a phodiau coffi. Hefyd, cod disgownt ar gyfer lluniau lleol sy'n cael eu harddangos o gwmpas y bwthyn
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Pecyn dechreuol o goed ar gyfer y stôf rhwng misoedd Hydref i Ebrill
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 3 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Darperir y canlynol:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur ar gyfer pob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Parcio preifat ar gyfer 3 car
- Os hoffech anghofio'r car yn ystod eich arhosiad gellir dal bys i Bwllheli o arosfa Llwyn-hudol, sydd rownd y gornel