- £775 per week
- £111 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae Bwthyn Penarth Fawr mewn lleoliad hanesyddol ac arbennig, yn agos i'r môr a'r mynyddoedd. Hen stablau o'r ail ganrif ar bymtheg wedi eu hadnewyddu, yn agos i Pwllheli, Criccieth ac Eryri, ac yn cynnig cyfuniad perffaith o'r traddodiadol a'r modern. Gyda nifer o nodweddion yn cynnwys stôf goed groesawgar a drws stabl yn arwain allan i'r ardd gaeedig, mae Penarth Fawr yn helaeth, yn derbyn anifeiliaid anwes ac yn drawiadol.
Fel bonws ychwanegol, mae'r bwthyn yn edrych allan dros Dy Canoloesol Penarth Fawr, un o Dai Bonedd Canoloesol gorau Cymru yn dyddio nol i 1460. Mae gardd y bwthyn yn cysylltu â gardd y Ty Canoloesol a gellir cael mynediad yn ystod eich arhosiad. Hefyd, mae'r bwthyn mewn lleoliad gwych i ymweld ag ystod o weithgareddau ac atyniadau poblogaidd gerllaw. O draethau euraidd a chestyll trawiadol i Zip World, Marina Pwllheli a Chanolfannau Celf, i nifer o siopau a bwytai, mae digon i wneud yma drwy gydol y flwyddyn.
Llawr Gwaelod
Lolfa ac ardal fwyta - cynllun agored gyda 2 soffa fawr gysurus o flaen stôf goed a theledu 50" gyda chwaraewr DVD.
Cegin - cegin fodern wedi ei chyflenwi gan y cwmni lleol Steil o Bwllheli, yn agor allan i'r ardal fwyta. Gyda'r holl offer angenrheidiol i wneud eich arhosiad yn un clyd a chartrefol. Yn cynnwys peiriant golchi/sychu dillad, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell a meicrodon.
Ystafell wely 1 - gyda dau wely sengl ac yn agos i'r gegin.
Ystafell ymolchi - baddon gyda cawod oddi mewn, toiled a sinc.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - ystafell fawr ar yr ochr orllewinol gyda gwely haearn maint king a dodrefn ar ddull diwydiannol.
Ystafell wely 3 - ystafell gysurus gyda gwely efydd dwbwl a dodrefn artisan.
Ystafell wely 4 - gwely dwbwl gyda drws yn arwain i stepiau ar y tu allan.
Ystafell ymolchi - gyda cawod y gellir cerdded i mewn iddi, toiled a sinc.
Gardd
Gardd fawr heddychlon a chaeedig. Bwrdd picnic mawr i eistedd 8 ac ardal barbaciw. Mae gardd y bwthyn yn ymestyn allan i ardd y Ty Canoloesol - gellir mwynhau'r ardd yn breifat ar ôl 5.00 yr hwyr.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr, llaeth a Bara Brith
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Cyflenwad cychwynnol o goed ar gyfer y stôf. Mwy o goed ar gael am £5 y bag
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Sychwr gwallt ar gael
- Wi-fi ar gael
- Caniateir hyd at 2 gi am £25 y ci (dim ond yn y mannau di-garped ar y llawr gwaelod)
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât staer ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Mae'r eitemau canlynol hefyd ar gael:
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, slytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Dim ysmygu tu mewn y bwthyn
- Digon o le parcio preifat gyda mwy o le ar gael ar gyfer cychod neu debyg