Bryn Llewelyn

Pwllheli, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

You can book this property from:

  • £426 per week
  • £61 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Syrffio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 1 gwely dwbl
  • 3 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Ar un lefel, dim grisiau
  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 17:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Llety ar ben ei hun ar gyrion Pwllheli, tref farchnad arforol sy'n enwog am ei Marina a'i hwylio. Gyda caffis, bwytai a siopau annibynnol o fewn pellter cerdded, yn ogystal â thraeth euraidd Pwllheli a Llwybr Arfordirol Cymru. Delfrydol ar gyfer y rhai sy'm mwynhau cerdded a beicio, mae'r bwthyn hwn yn cynnig mynediad i Benrhyn Llŷn gyda'i draethau hardd a'i ddiwylliant Cymreig.

Llawr Gwaelod

Cegin fodern mewn arddull bwthyn. Offer yn cynnwys popty nwy, hob, oergell/rhewgell, meicrodon a pheiriant golchi llestri. 

Iwtiliti fach yn arwain i'r ardd gefn gyda peiriannau golchi a sychu dillad.

Lolfa/ardal fwyta - ystafell olau gyda dodrefn hynafol ynghyd â decor Laura Ashley, soffa ledr fawr a 2 gadair gyfforddus, teledu a chwaraewr DVD. Bwrdd bwyta derw gyda chadeiriau ar gyfer 6 o westeion.

Cyntedd - mae'r thema morwrol/glan môr a lloriau derw yn parhau o'r lolfa. Gyda cist bîn hynafol, drôr ar gyfer teganau/gemau, llyfrau a lle i hongian cotiau.

Ystafell wely 1 - gwely dwbwl hynafol gyda chypyrddau dillad.

Ystafell wely 2 - gwely sengl, cwpwrdd dillad a bwrdd ymolchi marmor.

Ystafell wely 3 - ystafell helaeth gyda dau wely sengl â dodrefn pîn.

Ystafell ymolchi gyda baddon, cawod, basn a thoiled gyda theils steil llechi ar y llawr.

Gardd

Lawnt gysgodol o flaen y llety, gyda bwrdd a dwy gadair.

Gardd breifat gyda patio yn y cefn gyda bwrdd a chwech o gadeiriau, a bwrdd a chadeiriau ychwanegol mewn rhan arall o'r ardd. 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth, yn ogystal â potel o wîn, caws lleol, bisgedi a blodau ffres  
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig  
  • Wifi ar gael
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig  
  • 1 sychwr gwallt ar gael  
  • Cot a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot 
  • Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu  
  • Lle parcio ar gyfer dau gar neu gar a llong os ydych yn dymuno gwneud defnydd o'r Marina   
  • Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri, 4 tabled i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled ar gyfer pob toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol 

Location

Wedi ei leoli ar lôn dawel ar gyrion Pwllheli, gyda gardd gaeedig ac o fewn pellter cerdded i holl adnoddau'r dref. Yn enwog am ei Marina a'i hwylio, mae Pwllheli yn cynnig ystod o siopau annibynnol, archfarchnad fawr a nifer o gaffis a bwytai. Mae traeth euraidd Pwllheli a Llwybr Arfordirol Cymru o fewn deg munud o gerdded, drwy gât garu ac ar hyd llwybr coediog.

Ymysg y llefydd gorau i fwyta'n lleol mae Whitehall ym Mhwllheli, Bodegroes yn Efailnewydd (1 filltir), Dylan's yng Nghriccieth (15 munud mewn car neu ar drên), a nifer o fwytai yn Abersoch sydd ond 6 milltir ar hyd y ffordd arfordirol. Mae nifer o gaffis gwych yn yr ardal yn ogystal, yn cynnwys Taro Deg ym Mhwllheli, Ystafell De Oriel Glyn y Weddw yn Llanbedrog (3 milltir) a Caffi Meinir yn Nant Gwrtheyrn (7 milltir). Os am ymlacio gyda peint o gwrw neu lasied o wîn, mae nifer o dafarndai mewn lleoliadau anhygoel o gwmpas y Penrhyn, yn cynnwys Tŷ Newydd yn Aberdaron a Tafarn Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen.  

Mae Bryn Llewelyn a Phwllheli yn cynnig mynediad i Benrhyn Llŷn, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ble mae'r iaith a'r ffordd Gymreig o fyw yn dal i ffynnu. Yn ogystal â'r nifer o draethau euraidd a'r pentrefi arfordirol hardd sydd i'w gweld o gwmpas y penrhyn, mae yna hefyd nifer o atyniadau poblogaidd ar stepen eich drws. Mae rhain yn cynnwys Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog (3.5 milltir) - maenordy gwych gyda galeriau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd o'r môr. Gellir treulio diwrnod cyfan ym Mharc Glasfryn (4.5 milltir) yn mwynhau ystod o weithgareddau megis bowlio deg, gwibgartio, saethyddiaeth a mwy, ac mae yma hefyd siop fferm, caffi a bwyty. Mae'n werth ymweld â Chastell Criccieth (8 milltir), Rheilffordd Ffestiniog ym Mhorthmadog (13 milltir), a phentref Eidalaidd Portmeirion (16 milltir). 

Traethau 

  • Traeth Deheuol Pwllheli - traeth Baner Las, graean bras yn bennaf. Yn ymestyn o Graig Gimblet, ar draws y promenâd, ac ymlaen hyd at Llanbedrog (0.5 milltir)   
  • Glan-y-mor, Pwllheli – 3 milltir o dywod yr holl ffordd i draeth Abererch (1 filltir)   

Chwaraeon Dŵr

  • Clwb Hwylio Pwllheli, Marina Pwllheli - cyfleusterau rhagorol, ac o bosib y dyfroedd gorau ar gyfer hwylio yn y D.U. (1 filltir)
  • Mae traeth Abersoch yn cynnig dŵr llyfn ar gyfer tonfyrddio a sgïo dŵr, hwylio, cychod pŵer a hwylfyrddio (6 milltir)

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Llŷn - 84 milltir o amgylch Penrhyn Llŷn, o Gaernarfon i Borthmadog. Ymunwch â’r llwybr 0.5 milltir o’r bwthyn ar y Traeth Deheuol
  • Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd 4.5 milltir o hyd sydd yn cynnwys y man uchaf ar Benrhyn Llŷn (7 milltir o’r bwthyn)

Beicio

  • Ceir nifer o ffyrdd a lonydd tawel ar hyd Penrhyn Llyn sy'n addas ar gyfer beicio 

Pysgota

  • Ceir ystod o gyfleoedd i bysgota ar Benrhyn Llŷn ac opsiynau addas ar gyfer pob oedran

Golff

  • Clwb Golff Pwllheli - cwrs golff 18 twll, addas ar gyfer golffwyr o bob oedran a gallu (0.5 milltir)
  • Canolfan Golff Llŷn - Pen-y-Berth. Maes ymarfer 15 bae, lawnt a byncar ymarfer a chwrs golff 9 twll gyda golygfeydd o’r môr. Ar gyfer dechreuwyr a chwaraewyr mwy profiadol - gellir llogi clybiau (2 filltir)

Marchogaeth

  • Canolfan Farchogaeth Cilian - gwersi marchogaeth, reidiau ar y traeth a mwy. Delfrydol ar gyfer plant a'r di-brofiad (9 milltir)