- £605 per week
- £86 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mwynhewch olygfeydd arfordirol gwych o Awelfryn - bwthyn un llawr helaeth ger Pwllheli ar Benrhyn Llyn. Gyda stôf losgi coed, ardal fyw eang a balconi gyda llawr llechi, mae'n bosib i chi wneud y mwyaf o'r holl dymhorau yn y llety ecolegol cyfeillgar hwn. Milltir o Farina Pwllheli, traethau ac ystod o siopau annibynnol, caffis a bwytai, gyda mynediad i'r llwybr arfordirol gerllaw. Lleoliad gwych i ddarganfod Penrhyn Llyn - Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol - yn ogystal ag Eryri, sydd heb fod ymhell.
Llawr Gwaelod
Cegin/ardal fwyta/lolfa o gynllun agored, gyda golygfeydd panoramig o'r arfordir. Cegin gyda'r holl offer angenrheidiol yn cynnwys oergell a rhewgell oddi mewn, peiriant golchi llestri, meicrodon, hob, popty, a pheiriant golchi dillad.
Lolfa agored a chysurus gyda stôf losgi coed a balconi helaeth gyda golygfeydd anhygoel o Fae Ceredigion.
Ystafell wely yn cynnig golygfeydd gwych o'r drysau patio sydd yn agor allan i'r balconi. Gwely dwbwl, cypyrddau dillad, drych, byrddau bach ger y gwely gyda lampau.
Ystafell wely gyda gwely dwbwl, cwpwrdd dillad, drych, byrddau a lampau ger y gwely.
Ystafell wely gyda dau wely sengl, drych, cwpwrdd dillad, bwrdd a lamp ger y gwely.
Ystafell ymolchi gyda baddon, uned gawod, toiled a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Lawnt helaeth a chaeedig yn y cefn gyda golygfeydd o'r môr. Balconi mawr gyda llawr llechi gyda golygfeydd o'r arfordir sydd lai na milltir o'r bwthyn. Lawnt yn y ffrynt gyda'r llwybr cerrig gwreiddiol a borderi blodau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys cynnyrch lleol yn ogystal â llaeth, te a phodiau coffi. Hefyd, cod disgownt ar gyfer lluniau lleol sy'n cael eu harddangos o gwmpas y bwthyn
- Gwres a thrydan yn gynwysedig.
- Pecyn dechreuol o goed ar gyfer y stôf rhwng misoedd Hydref i Ebrill
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch a'ch dillad eich hyn ar gyfer y cot
- Wifi ar gael
- Lle parcio oddi ar y ffordd ar gyfer tri car
- Dim ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- Dim anifeiliad anwes
- Darpariaeth cegin: pupur a halen, te, coffi, papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriannau golchi llestri a golchi dillad, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Darpariaeth ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Os hoffech anghofio am eich car yn ystod eich arhosiad yn Awelfryn, gellir teithio i Pwllheli ar y bws o arhosfan bws Llwyn-hudol, sydd rownd y gornel