- £469 per week
- £67 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio ar y stryd
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mae'r llety hyfryd hwn yn Nefyn yn lleoliad perffaith ar gyfer toriad cyfforddus ac ymlaciol ar arfordir Gogledd Cymru, gyda popeth yr ydych ei angen o fewn pellter cerdded. Ymunwch â'r Llwybr Arfordirol o fewn 100 metr i stepen eich drws, ymlwybrwch i lawr i'r traeth (500 metr), mwynhewch y bwytai gwych, y tafarndai lleol, a'r cyfleustra o gael siop y pentre rownd y gornel. Mae'r cyn swyddfa bost wedi ei hadnewyddu, ac yn cynnig lleoliad canolog a man delfrydol i ymlacio mewn steil.
Llawr Gwaelod
Ystafell agored a chroesawgar gyda ardaloedd cegin, bwyta a lolfa.
Cegin fodern o ansawdd uchel. Yn cynnwys hob induction, popty ffan, peiriant golchi dillad, peiriant golchi llestri, meicrodon, peiriant coffi Nespresso, ac oergell/rhewgell. Mae yma hefyd oerwr gwîn a bar brecwast mawr gyda stolion lledr moethus. Mae'r ardal bwyta o flaen ffenestr fawr gyda digon o olau naturiol ac mae'n cynnwys bwrdd bwyta a 4 cadair.
Fe geir soffa ledr gyfforddus yn y lolfa sydd yn troi mewn i wely dwbwl os dymunir (£20 ychwanegol), teledu Smart 32" ar y wal, gyda WiFi.
Llofft hardd gyda gwely dwbwl, 2 fwrdd a lampau ger y gwely, cwpwrdd dillad, digon o le i storio, a theledu ar y wal.
Ystafell gawod - gwres o dan y llawr, teils, cawod y gellir cerdded i mewn iddi gyda sgrîn, basn, toiled a chwpwrdd.
Tu Allan
Teras yn ffrynt y tŷ gyda bwrdd a chadeiriau. Mae'r llety hwn yn Nefyn yn elwa o'r ffaith fod holl adnoddau'r pentref ar stepen y drws, ynghŷd â'r llwybr arfordirol sydd yn eich arwain at y traeth sydd ond 500 metr i ffwrdd.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn Croeso yn cynnwys Bara Brith, gwîn, llaeth, te a choffi
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Sychwr gwallt ar gael
- Wifi ar gael
- Cot, cadair uchel a sterilizer ar gael os dymunir
- Haearn a bwrdd smwddio ar gael
- Dim anifeiliad anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Parcio ar y stryd
- Darperir yr eitemau canlynol -
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri/tabledi i'r peiriant, clytiau newydd, ffoil, ffilm glynu a sebon llaw
- Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled, shampŵ a hylif cawod bach
- Cynnyrch glanhau cyffredinol