- Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
- Special Offer10% offer for stays between 7th June – 27th June
- Special Offer20% Spring offer - 12th April - 23rd May
- Special Offer10% Summer offer - 26th July - 22nd August 2024
- Special Offer15% offer 28th June – 18th July
- Special Offer10% offer w/c 19th July
- Special Offer10% Summer offer w/c 30th August
- Special Offer20% Summer offer w/c 23rd August
- £599 per week
- £86 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Tân agored neu stôf goed
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 17:00
- Amser gadael: 10:00
Description
Mae traeth ac adnoddau pentref Nefyn i gyd o fewn pellter cerdded i’r bwthyn hwn sydd yn edrych allan dros y môr. Ceir mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordirol Cymru oddi yma a gellir mwynhau machlud haul syfrdanol o’r bwthyn. Mae Bwthyn Nefyn yn hynod gyfforddus, ac yn leoliad delfrydol i grwydro a mwynhau golygfeydd anhygoel Penrhyn Llyn ac Eryri.
Llawr Gwaelod
Llofft ddwbwl gyda gwely nodweddiadol Fictorianaidd o efydd a haearn, cypyrddau dillad, bwrdd gwisgo gyda drych, cypyrddau wrth y gwely a lampau bach. Mae ystafell ymolchi ynghlwm yn cynnwys cawod fawr, basn a rheilen sychu tywelion. Ystafell hardd gyda golygfeydd o’r môr.
Llofft ‘twin’ gyda matresi moethus. Droriau pinwydd, lle i hongian dillad, cypyrddau wrth y gwely a lampau bach. Ystafell braf gyda golygfeydd o’r môr.
Ystafell ymolchi arwahan gyda ciwbicl cawod, toiled a basn. Llawr wedi ei deilio a rheilen sychu tywelion.
Ystafell iwtiliti gyda peiriant golchi/sychu dillad, sgrîn tân (ar gyfer y stôf goed os oes angen), haearn a bwrdd smwddio, a sinc. Mae yma hefyd ail beiriant golchi llestri, oergell/rhewgell, tegell, cytleri ac offer coginio ar gyfer y Barbaciw (ar gyfer yr amser y byddwch yn bwyta y tu allan).
Llawr cyntaf
Mae’r ystafell fyw ar y llawr cyntaf yn cynnwys cegin, ardal fwyta a lle i eistedd. Ystafell hardd a chyfforddus gyda stôf goed/glo, a golygfeydd anhygoel o’r môr a’r mynyddoedd a machlud haul syfrdanol ar ddiwrnod braf.
Nodweddion yr ardal goginio/bwyta yw dreser hardd gyda platiau hynafol a bwrdd mawr pinwydd gyda 6 cadair. Offer cegin yn cynnwys peiriant golchi llestri, hob nwy gyda 5 cylch, popty ffan trydan, ac oergell/rhewgell.
Mae’r ardal eistedd gyfforddus yn cynnwys soffa fawr ‘chesterfield’, yn ogystal â soffa y gellir ei hagor allan i fod yn wely. Bwrdd coffi mawr pinwydd, byrddau bach, teledu a chwaraewr DVD.
Gardd
Gardd helaeth gaeëdig yn cynnwys lawnt, man parcio, a stepiau yn arwain i lawr at y bwthyn a’r patio. Yma fe geir bwrdd pren gyda 4 cadair a 2 fainc i ymlacio.
Sied storio yn yr ardd i gadw’r Barbaciw, clustogau i’r cadeiriau, parasol, a rhai teganau ar gyfer y tu allan.
Gellir cael mynediad i draeth Nefyn ar hyd llwybr o ochr arall y ffordd.
*Carafan static hyfryd hefyd wedi ei lleoli yn yr ardd gefn - cysgu 6 ac yn derbyn anifeiliaid anwes bychan. Ar gael i'w archebu ar gais ar gyfer teulu estynedig neu ffrindiau - cysylltwch am fanylion pellach.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres (gwresogyddion trydan) a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- 2 sychwr gwallt ar gael
- Wi-fi ar gael
- Cyflenwad bach o goed tân
- Cot, cadair uchel a gât i’r staer ar gael drwy gais
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Digon o le parcio oddi ar y ffordd ar gyfer ceir a chychod
- Mae carafan fawr ar gael o fewn tir y bwthyn pe bai angen lle cysgu ychwanegol. Cysylltwch os oes gennych ddiddordeb mewn llogi’r garafan.
- Mae bond 'gofal da am lety' ar y llety hwn am £150, sydd yn ad-daladwy ac yn ddyledus i Y Gorau o Gymru ar yr un pryd â balans eich gwyliau. Neu, gallwch osgoi y bond hwn drwy, yn hytrach, dalu ffî sydd ddim yn ad-daladwy am £5 y person
- Bydd Asda ym Mhwllheli yn cludo neges i’r bwthyn os dymunir
Location
Mae Bwthyn Nefyn wedi ei leoli o fewn gardd helaeth gaeëdig. Gellir cael mynediad i draeth Nefyn o’r bwthyn ar hyd llwybr troed (llai na 0.5 milltir). Hefyd, o fewn 10 munud o gerdded mae Nefyn ei hun - pentref bach ar arfordir gogleddol Penrhyn Llyn. Yma fe geir siopau bach, tafarndai, bwytai yn ogystal â ‘têc awê’, llyfrgell, fferyllfa ac amgueddfa.
Mae rhai o lefydd bwyta gorau yr ardal yn cynnwys Y Llong yn Edern (2.5 milltir), Y Llew Coch yn Tudweiliog (5.5 milltir) a Bwyty Bwydmôr Twnti yn Rhyd y Clafdy (6 milltir), heb anghofio Nanhoron Arms yn Nefyn ei hun. Gwnewch yn siwr eich bod hefyd yn ymweld â Thafarn Ty Coch - yn ddiweddar wedi ei dyfarnu i fod y 3ydd bar traeth gorau yn y byd. Mae’r dafarn hon wedi ei lleoli ar y traeth ym Mhorthdinllaen (3 milltir) a gellir cerdded yno drwy gwrs golff enwog Morfa Nefyn, neu ar hyd y traeth.
Mae yna bentrefi arfordirol hardd ym mhob cwr o Benrhyn Llyn, gan gynnwys Abersoch (12 milltir) ac Aberdaron (14 milltir). Mae’r iaith a’r ffordd o fyw Gymreig yn dal i ffynnu yma ac yn ychwanegu at swyn rhyfeddol y Penrhyn, sydd hefyd yn ardal o harddwch naturiol neilltuol. Mae’n adnabyddus am ei draethau hardd a chwaraeon dwr, a gyda yn agos at 100 milltir o lwybrau arfordirol trawiadol yn cychwyn o garreg y drws, mae Bwthyn Nefyn mewn lleoliad delfrydol i wneud y mwyaf o’r holl nodweddion gwych.
Fe gymeradwyir ymweliad â Nant Gwrtheyrn - Canolfan Etifeddiaeth Gymreig mewn lleoliad hudolus gyda caffi a thraeth preifat; gellir mynd ar gwch i Ynys Enlli - safle pererindod grefyddol yn yr amser a fu; neu ymlacio ym Mhlas Glyn-y-Weddw, plasdy hynafol gyda galerïau, gerddi hardd ac ystafell de gyda golygfeydd o’r môr. Mwynhewch wibgartio, bowlio deg, saethyddiaeth ayb ym Mharc Glasfryn; teithiwch ar drên bach stêm Ffestiniog, ymwelwch â Chestyll Criccieth a Chaernarfon; a darganfyddwch bentref Eidalaidd Portmeirion. Os nad yw hynny’n ddigon, mae Parc Cenedlaethol Eryri gyda’i holl atyniadau o fewn taith fer.
Traethau
- Porth Nefyn - traeth tywod y gellir cael mynediad iddo ar hyd llwybr o ochr arall y ffordd (0.4 milltir)
- Morfa Nefyn - mae’r traeth euraidd hwn yn mynd yr holl ffordd i Borthdinllaen (2.2 milltir)
- Fe geir llawer o draethau braf o fewn taith fer o’r bwthyn.
Cerdded
- Gellir ymuno â Llwybr Arfordirol Llyn (rhan o Lwybr Arfordirol Cymru Gyfan) o stepen y drws
- Yr Eifl - cadwyn o fynyddoedd sydd yn cynnwys y man uchaf ar Benrhyn Llyn - 4.5 milltir o hyd (3.5 milltir)
- Llwybr Nant Gwrtheyrn - llwybr cylchol o amgylch y dyffryn unigryw hwn gyda golygfeydd arbennig - 2-3 awr (4.5 milltir)
Golff
- Clwb Golff Nefyn a’r Cylch - Cwrs Golff Pencampwriaethol enwog 26 twll, sydd yn cynnig dau gwrs 18 twll gyda golygfeydd anhygoel (2.5 milltir)
Pysgota
- Opsiynau addas ar gyfer pob oedran ym Mhenryn Llŷn
Marchogaeth
- Stablau Marchogaeth Llanbedrog - gwersi marchogaeth ayb. Reidiau ar y traeth a’r bryniau (9.5 milltir)