- £446 per week
- £64 per night
- 2 Guests
- 1 Bedroom
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely soffa
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
Teuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mwynhewch wyliau ymlaciol, gyda golygfeydd o’r môr, yn y bwthyn hwn i ddau yn Nant Gwrtheyrn - pentref Fictorianaidd unigryw mewn lleoliad arbennig ar Benrhyn Llŷn. Mae’r bwthyn o fewn pellter cerdded i draeth preifat a chyfleusterau caffi ar y safle. Gellir ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru Gyfan i’r ddau gyfeiriad o’r traeth, ac mae’r dafarn a’r siop agosaf filltir i ffwrdd ym mhentref Llithfaen
Llawr Gwaelod
Lolfa gysurus gyda dodrefn derw o ansawdd uchel, soffas lledr (hefyd gwely soffa dwbwl) a llawr derw gyda gwres oddi dano. Nid oes teledu yn y bwthyn felly dyma’r cyfle perffaith i fwynhau amser arbennig gyda’ch gilydd mewn lleoliad gwirioneddol braf
Cegin gyda phopty trydan a hob, meicrodon ac oergell gyda rhewgell oddi mewn. Bwrdd bwyta i ddau. Peiriannau golchi a sychu dillad mewn adeilad ar wahân
Llawr Cyntaf
Llofft fawr gyda chyfleusterau ensuite a gwely maint king, dodrefn derw Cymreig a gwres o dan y llawr. Golygfeydd o’r môr, a chlustogau a blancedi o frethyn Cymreig traddodiadol Melin Wlan Trefriw
Ystafell ensuite gyda chawod, toiled a basn
Tu Allan
Mae’r bwthyn bach clyd hwn yn Nant Gwrtheyrn gyda lawnt fawr gymunedol o’i flaen, ynghyd â golygfeydd anhygoel o’r môr lle gellir eistedd ac ymlacio ar y cadeiriau patio os dymunir. Yn ychwanegol, gellir mwynhau’r caffi ar y safle a’r llwybr sydd yn arwain i lawr i draeth preifat Nant Gwrtheyrn. Mor berffaith fel bod cyplau yn dewis priodi yn y Nant.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwres a thrydan yn gynwysedig (yn cynnwys gwres dan y llawr)
- Darperir dillad gwely gwyn a thywelion
- Pecyn croeso ar gael os dymunir am bris o £20
- Cot, cadair uchel a gât ddiogelwch ar gael os dymunir - rhowch gwybod wrth archebu. Dewch a’ch dillad eich hun ar gyfer y cot
- Wi-fi ar gael yn y caffi (100 llath) yn ogystal â’r bwthyn ei hun
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes
- Ystafell olchi dillad ar y safle at ddefnydd y gwesteion, am gost ychwanegol.
- Digon o le parcio ar gael
- Nodwch, os gwelwch yn dda, mae Nant Gwrtheyrn yn lleoliad amlbwrpas. Efallai bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar y safle yn ystod eich arhosiad. Awgrymwn eich bod yn cysylltu â Nant Gwrtheyrn yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth.