Ffermdy Penrhyn

Morfa Bychan, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Bwthyn hunan ddarpar mewn lleoliad anhygoel, yn swatio mewn cornel heddychlon o arfordir Eryri.  

You can book this property from:

  • £829 per week
  • £118 per night
  • 4 Star

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • Tân agored neu stôf goed
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
  • Smart TV

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 3 o welyau dwbl
  • 1 gwely sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell ymolchi en-suite
  • Baddon
  • Cawod

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot trafeilio
  • Cadair uchel
  • Giât diogelwch

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Bwthyn hunan ddarpar mewn lleoliad anhygoel. Yn swatio mewn cornel heddychlon o arfordir Eryri, mae'r llety hwn ym Morfa Bychan yn mwynhau golygfeydd gwych o Gastell Criccieth ar draws y môr a thirwedd dramatig Gogledd Cymru. Mynediad uniongyrchol i Lwybr Arfordirol Cymru sy'n arwain at draeth Criccieth yn ogystal â thraeth Morfa Bychan (Black Rock Sands) - y ddau o fewn hanner milltir.

Llawr Gwaelod

Cegin - gyda'r holl offer angenrheidiol, unedau derw a bâr brecwast. Yn cynnwys popty a hob arwahan, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriannau golchi llestri a golchi/sychu dillad.

Lolfa - ystafell gysurus gyda lle i 8 eistedd, stôf losgi coed gyda teledu freeview a chwaraewr DVD.

Ystafell fwyta - gyda bwrdd mawr, stof dan trydan, radio a gorsaf docio ipad. 

Ystafell haul - yr ystafell fwyaf poblogaidd yn y tŷ gyda golygfeydd anhygoel o'r môr, yn cynnwys Castell Criccieth, a golygfeydd gwych o Barc Cenedlaethol Eryri.

Ystafell wely 1 - ystafell ddwbwl gydag ystafell gawod ensuite. Mae'r ystafell hon yn addas ar gyfer cadair olwyn.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 2 - ystafell helaeth gyda gwely dwbwl ac ystafell gawod ensuite.

Ystafell wely 3 - gwely dwbwl gyda golygfeydd anhygoel.

Ystafell wely 4 - ystafell eang gyda gwely sengl

Ystafell ymolchi - gyda baddon a chawod oddi mewn

Gardd

Mae'r llety hardd hwn ym Morfa Bychan yn cynnig gardd ffrynt gaeedig gyda golygfeydd panoramig o Benrhyn Llyn, traeth a chastell Criccieth, a cadwyn mynyddoedd Eryri. Ardal Barbaciw gyda byrddau picnic ar gyfer 8 o westeion.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso yn cynnwys bara a menyn, te, siwgwr a llaeth   
  • Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig, yn ogystal a basgedaid gychwynol o goed i'r stof   
  • Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig. Dewch a'ch tywelion eich hunain i'r traeth    
  • 1 sychwr gwallt
  • Bwrdd a haearn smwddio ar gael
  • Cot deithio, cadair uchel a 2 giât ddiogelwch i'r grisiau (top a gwaelod) ar gael os dymunir. Dewch a'ch dillad eich hun i'r cot.  
  • Croesewir hyd at 2 gi. Noder fod y ty fferm wedi ei leoli mewn cefn gwlad agored gydag anifeiliaid fferm mewn caeau cyfagos, felly dylid gofalu fod cwn dan reolaeth ar dennyn bob amser. Dim cwn yn yr ardd tu blaen y ty.       
  • Dim ysmygu tu mewn  
  • Lle i barcio ar gael 2 car yn unig 
  • Eitemau ychwanegol yn cynnwys tabledi i'r peiriant golchi llestri, hylif golchi llestri, 2 rolyn papur toiled ar gyfer pob toiled a sebon hylif  

Location

Ffermdy o gerrig traddodiadol yn sefyll ar ben ei hun mewn lleoliad heddychlon ar y penrhyn uwchben traeth Morfa Bychan (Black Rock Sands), rhwng Morfa Bychan a Chriccieth yng Ngogledd Cymru. Golygfeydd panoramig anhygoel o Barc Cenedlaethol Eryri, Bae Abermaw a Chastell Criccieth.

Mae traeth euraidd Morfa Bychan yn 3 milltir o hyd ac ond 1/2 milltir i ffwrdd gya'r car neu ar droed ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru sydd yn pasio gerllaw. Mae yna siop gyfleus, yn ogystal â siop sgodyn a sglodion o fewn milltir i'ch llety, tra ar ben arall y penrhyn, mae traeth Criccieth hefyd o fewn 1/2 milltir ar hyd Llwybr Arfordirol Cymru.

Gellir dod o hyd i nifer o fwytai argymelledig yng Nghriccieth, yn cynnwys y Poacher's, Dylan's a Moelwyn. Os hoffech fwyta yma, gellir un ai fwynhau taith gerdded braf, 2 filltir o hyd, ar hyd traeth Criccieth, neu deithio mewn car ar hyd y ffordd (4.5 milltir). Dyma gartref hufen ia Cadwalader's - esgus gwych i dretio eich hun. Mae tref harbwr boblogaidd Porthmadog o fewn 3 milltir lle gellir dal y trên stêm a theithio drwy olygfeydd coediog a mynyddig i dref gaerog castell Caernarfon, neu i dref gloddio llechi Blaenau Ffestiniog.

Mae Blaenau Ffestiniog (15 milltir) hefyd yn gartref i nifer o weithgareddau anturus, o Zipworld Titan Bounce Below, i Gloddfa Lechi Llechwedd a chanolfan feicio Antur Stiniog. Mae prif atyniadau eraill yr ardal hon o Eryri yn cynnwys Pentref Eidalaidd Portmeirion (7 milltir), Safle Treftadaeth y Byd - Castell Harlech (13 milltir), a'r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru. Gyda rhai o atyniadau gorau Cymru ar stepen eich drws mae'r ardal hon yn sicr yn cynnig digon i chi ei wneud. 

Traethau

Traeth Morfa Bychan (Black Rock Sands) - 3 milltir o draeth euraidd (0.5 milltir)

Traeth Criccieth - mae pen pellaf y traeth dwyreiniol o fewn taith gerdded fer o'ch llety. Mae ail draeth ochr arall i'r castell yng Nghriccieth. Mae'r ddau gyda chymysgedd o dywod a cherrig gyda pyllau dŵr yn y rhan agosaf i Ffermdy Penrhyn pan fydd y llanw'n isel (0.5 milltir)   

Cerdded

Llwybr Arfordirol Cymru - ar stepen eich drws, gellir dilyn y llwybr enwog hwn i'r ddau gyfeiriad - tuag at Morfa Bychan (i'r de) a Chriccieth (i'r gogledd orllewin)

Y Wyddfa - mae'r llwybr agosaf o Rhyd Ddu, neu gellir dal y trên o Llanberis i'r copa (13/27 milltir)  

Beicio

Digon o ffyrdd bach gwledig o gwmpas y ffermdy   

Llwybrau beicio mynydd Antur Stiniog (16 milltir)  

Golff

Clwb Golff Porthmadog - cwrs 18 twll gyda golygfeydd gwych (2 filltir)   

Clwb Golff Royal St Davids, Harlech - enwog yn genedlaethol a rhyngwladol, un o gyrsiau golff gorau Cymru (13 milltir)   

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Porthmadog - lleoliad anhygoel gyda golygfeydd gwych. Yn cynnwys gwersi a marchogaeth (2.5 milltir)  

Pysgota

Pysgodfa Eisteddfa - 5 llyn gyda caffi - addas ar gyfer pysgotwyr profiadol, dechreuwyr a theuluoedd (3 milltir)