- £701 per week
- £100 per night
- 8 Guests
- 4 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- 2 Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau dwbl
- 4 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Pa le gwell i fynd gyda’ch teulu neu grwp o ffrindiau na’r bwthyn gwyliau mawr, moethus hwn. O Stabal Lleuddad mae machlud hyfryd Penrhyn Llyn i’w weld tu ôl i’r golygfeydd heddychlon o gefn gwlad, gyda’r traeth agosaf ond 2 filltir i ffwrdd. Mewn man canolog i holl atyniadau Penrhyn Llyn, mae hefyd yn y fan delfrydol i fynd i chwilota yn yr ardal odidog hon a darganfod rhai o’i pherlau dirgel.
Llawr Gwaelod
Cegin dderw yn llawn cymeriad gyda llawr llechi, waliau cerrig a bwrdd ty fferm o binwydd sydd â lle i 8 o’i amgylch yn braf. Peiriant golchi llestri, ffwrn a hob drydan, micro-don, peiriant coffi ac oergell/rhewgell yn gynwysedig, ynghyd â’r holl offer eraill y byddwch yn eu disgwyl mewn bwthyn 5 seren. Mae hon yn ystafell hardd gyda tho uchel, sydd â thrawstiau ar ei hyd sy’n llwyddo creu’r teimlad o ystafell ymlaciol a mawr.
Ystafell fyw fawr ar wahân gyda soffas lledr, gwres o dan y llawr a stôf goed - perffaith ar gyfer gêm gymdeithasol o Nintendo Wii ar y teledu mawr sgrin fflat, gêm fwrdd mwy traddodiadol neu noswaith ymlaciol yn gwylio ffilm ar y chwaraewr DVD.
Yn arfer bod yn gartws, mae gan yr ystafell ddwbl ar y llawr cyntaf wely haearn du, teledu wedi’i godi ar y wal, cadeiriau eistedd a bwrdd coffi ar gyfer eich coffi boreol. Drysau patio mawr yn arwain at ardal batio breifat eich hun gyda bwrdd a meinciau.
Mae gan yr ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod faddon sy’n sefyll wrth ei hun, a chawod ar wahân mewn steil ‘ystafell-wlyb’. Rheilen sy’n cynhesu tywelion, toiled a basn, drych wedi’i oleuo a soced eillio gyda gwres o dan y llawr.
Y Llawr Cyntaf
Ar y llawr cyntaf mae yna ystafell ddwbl arall, gyda gwely pinwydd a golygfeydd syfrdanol o’r môr a chefn gwlad.
Dwy ystafell wely twin gyda gwlâu sengl pinwydd a bondo gogwyddol. Mae yna ddrws sy’n cysylltu'r ddwy ystafell twin, mae hyn yn golygu y gallant gael eu defnyddio fel dwy ystafell dwin neu un ystafell i bedwar. Mae’r ardal glyd hon yn berffaith ar gyfer plant.
Ystafell gawod wedi’i theilio gyda rheilen gwresogi tywelion, toiled a basn.
Gardd
Dwy ardal batio gyda byrddau a chadeiriau i fwynhau'r golygfeydd hardd o’r bwthyn. Mae modd edmygu tirwedd syfrdanol Penrhyn Llyn o ochr y bwthyn sy’n wynebu’r de, ac mae’r meinciau ychwanegol yno yn ei wneud yn le delfrydol i ymlacio yn yr haul.
Mae bwrdd gardd arall yn yr ardd gymunedol sydd tu ôl i’r bwthyn. Mae digon o le yn yr ardal hon a chaiff ei rhannu gyda'r ddau fwthyn gwyliau arall sydd ar y safle.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Hamper croeso wrth gyrraedd sy’n cynnwys Bara Brith cartref, tê Cymreig a chynnyrch lleol fel menyn, caws a bara.
- Darperir yr eitemau canlynol hefyd yn y bwthyn...
Cegin: papur cegin, lliain llestri, sgwriwr a brws i olchi’r llestri, hylif golchi llestri a thabledi ar gyfer y peiriant golchi llestri.
Ystafell ymolchi: papur toiled.
Eitemau cyffredinol: bagiau bin, canhwyllau, matsis, fflach lamp, brillo ac amrywiaeth o eitemau glanhau.
Iwtiliti: Powdr a chyflyrydd golchi dillad ar gyfer y peiriant golchi dillad.
- Dillad gwely, tywelion llaw a baddon yn gynwysedig. Un sychwr gwallt i bob ystafell ddwbl.
- Gwres a thrydan yn gynwysedig. Gwres olew dan y llawr ar y llawr gwaelod, rheiddiaduron ar y llawr cyntaf
- Cysylltiad we ddiwifr ar gael
- Darperir coed tan
- Caniateir hyd at 2 gi sy’n ymddwyn yn dda am £25 y ci.
- Cot a chadair uchel ar gael os bydd cais. Dewch a dillad gwely eich hun ar gyfer y cot.
- Ystafell olchi gymunedol gyda golchwr a sychwr dillad, gellir eu defnyddio am ddim gan y sawl sy’n aros yn y bythynnod.
- Dim ysmygu
- Digon o fannau parcio ar gael
- Mae bwthyn gwyliau Stabal Lleuddad, Penrhyn Llyn yn derbyn archebion am wyliau byr yn ystod cyfnodau penodol o’r flwyddyn. Ewch at ‘Prisiau’ am fwy o wybodaeth.
- Er mwyn archebu i grwp, mae lle i 18 gysgu yn y 3 bwthyn moethus sydd ar y safle os cânt eu harchebu gyda’i gilydd.