Beudy Lleuddad

Llangwnadl, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 15% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer15% Spring offer - 12th April - 23rd May

You can book this property from:

  • £717 per week
  • £102 per night
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd cefn gwlad
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau dwbl
  • 2 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 1 toiled
  • Tywelion ar gael
  • Ystafell wlyb

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn
  • Ystafell wlyb

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Dewch i ymlacio a chael eich ysbrydoli gan y bwthyn gwyliau 5 seren hwn, sydd â golygfa syfrdanol o’r môr ym Mhenrhyn Llyn. Wedi’i leoli mewn man heddychlon ar rhan o fferm weithiol gyda golygfeydd anhygoel, mae yn le perffaith i ymlacio, darllen a gwneud fawr o ddim drwy gydol y gwyliau - heblaw am farbeciw neu ddau efallai. Fodd bynnag, gyda Phenrhyn Llyn yn le mor adnabyddus, mae'r lleoliad canolog hwn yn sicr yn ei gwneud hi'n werth mynd i ddarganfod beth sydd mor arbennig am y lle.

Llawr Gwaelod

Cegin fawr, lliw hufen gyda bwrdd ty fferm pinwydd. Ystafell â tho uchel gyda thrawstiau, a llawr moethus o lechi â gwres yn dod oddi tano. Mae popeth y bydd eu hangen arnoch ar gael yn y gegin, gan gynnwys peiriant golchi llestri, micro-don, oergell/rhewgell a pheiriant coffi hollbwysig i’ch paratoi ar gyfer yr awyr iach Gymreig!

Llawr derw yn yr ystafell fyw, a chadeiriau esmwyth lledr mawr a chyfforddus gyda stôf goed i ymlacio. Daw’r teledu sgrin fflat gyda chwaraewr DVD.

Ystafell wely ddwbl 1 - gwely dwbl haearn lliw hufen gyda golygfeydd syfrdanol o’r môr a chefn gwlad, a wal gerrig hardd.

Ystafell wely ddwbl 2 - gwely dwbl haearn lliw hufen gyda golygfeydd ardderchog o’r môr a chefn gwlad.

Ystafell ymolchi gyda baddon trawiadol a chawod ar lefel y llawr, rheiliau tywel wedi’u gwresogi a gwres dan y llawr - rhai o nodweddion 5 seren y bwthyn hwn.

Llawr Cyntaf

Ar ben y grisiau mae ystafell glyd gyda theledu arall a bag ffa mawr ledr. Mae hefyd chwaraewr DVD - lle perffaith i’r plant.

Ystafell twin mewn croglofft draddodiadol ac mae modd ei chyrraedd drwy’r ystafell glyd, ac mae ganddi fondo gogwyddol a wal gerrig wreiddiol.

Gardd

Yn y bwthyn moethus hwn, mae'r ardal batio yn y lle delfrydol - o flaen tirwedd godidog, a gyda seddi i ymlacio ac edmygu'r olygfa arbennig o'ch amgylch.

Tu ôl i’r bwthyn, mae gardd fawr gymunedol gyda bwrdd a meinciau, a gaiff ei rannu gyda’r ddau fwthyn gwyliau arall sydd ar y safle.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Darparir pecyn croeso o gynnyrch lleol i bawb yn cynnwys Bara Brith.
  • Caiff yr eitemau canlynol hefyd eu darparu yn y bwthyn yn ystod eich arhosiad...
Cegin: papur cegin, lliain llestri, brws a sgwriwr i olchi’r llestri, hylif golchi llestri a thabledi peiriant golchi llestri.
Ystafell Ymolchi: papur ty bach.
Offer cyffredinol: bagiau bin, canhwyllau, matsis, fflach lamp, brillo ac amrywiaeth o offer golchi.
Iwtiliti: Powdr golchi dillad a chyflyrwr ar gyfer peiriant golchi.

Darperir dillad gwely a thywelion dwylo a baddon. Un sychwr gwallt i bob ystafell ddwbl.
  • Mae gwres a thrydan yn gynwysedig. Gwresogydd olew o dan y llawr ar y llawr gwaelod, rheiddiaduron ar y llawr cyntaf.
  • Wifi ar gael
  • Darperir coed tan
  • Croesewir hyd at ddau gi sy’n ymddwyn yn dda am £25 y ci.
  • Mae modd darparu cot a chadair uchel os gofynnir amdano. Dewch a dillad gwely eich hun ar gyfer y cot.
  • Ystafell olchi gymunedol gyda pheiriant golchi a sychu dillad a all gael eu defnyddio gan holl breswylwyr y bythynnod yn rhad ac am ddim.
  • Dim ysmygu
  • Digonedd o lefydd parcio ar gael
  • Ar gyfer grwpiau mawr, mae lle i 18 person rhwng y 3 bwthyn moethus sydd ar y safle os cânt eu bwcio gyda’i gilydd

Location

Mae’r bwthyn wedi ei leoli mewn man heddychlon a hardd, ar fferm gig eidion a llaeth yn agos at bentref Llangwnadl. Yn un o dri bwthyn moethus sydd ar y safle, mae golygfeydd godidog o’r môr a chefn gwlad i’w gweld ac mae'n fan delfrydol a chanolog er mwyn archwilio Penrhyn Llyn. Ddim yn bell oddi ar y brif ffordd, mae yna drac ffarm o ryw ¼ milltir sy’n arwain at eich bwthyn gwyliau gyda golygfa o’r môr - perffaith ar gyfer mynd am dro bach hamddenol.

Mae’r siop bentref agosaf yn Nhudweiliog (2 filltir) ac mae nifer o dafarndai da a bwytai cyfagos. Ymhlith y mannau bwyta sy'n cael eu hargymell mae Y Llew yn Nhudweiliog, The Ship Inn yn Edern (4 milltir), Nanhoron Arms, Nefyn (7 milltir), Venetia a Coconut Kitchen yn Abersoch (9 milltir) a Thy Newydd, Aberdaron (5 milltir). Y tafarndai lleol gorau yw Y Llew yn Nhudweiliog ac Y Bryncynan yn Nefyn (7 milltir).

Mae llwyth o drysorau cudd ym Mhenrhyn Llyn, sydd yn ardal o harddwch naturiol arallfydol. Ymhlith yr atyniadau sy’n rhaid eu gweld y mae’r pentref glan môr Aberdaron, y dafarn ar y traeth ym Mhorthdinllaen, traethau di-ddiwedd gan gynnwys yr un agosaf sydd ym Mhenllech, ond 2 filltir o’r bwthyn ac Ynys Enlli.

Atyniad gwych arall yw Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru Nant Gwrtheyrn, o fewn bae cuddiedig ei hun wrth y môr, heb sôn am Barc Glasfryn am ddiwrnod yn llawn hwyl (rasio ceir, bowlio deg ac ati) Castell Caernarfon, Yr Wyddfa (mynydd uchaf Cymru), Mynydd Gwefru Llanberis ac Amgueddfa Lechi Cymru.

Traethau
Y traeth agosaf yw Penllech, traeth hir a thywodlyd sydd â theimlad o lonyddwch a heddwch. 2 filltir.

Mae hefyd traethau gwych eraill o fewn pellter byr yn y car. Ewch yma i weld y 10 traeth gorau ym Mhenrhyn Llyn.

Cerdded
Llwybr Arfordir Llyn (rhan o Lwybr Arfordir Cymru). Y man agosaf i ymuno yw Traeth Penllech, sydd 2 filltir o’r bwthyn.

Yr Eifl – Cadwyn o fynyddoedd gan gynnwys y pwynt uchaf ym Mhenryn Llyn. 4.5 milltir o hyd. 12 milltir.

Marchogaeth
Canolfan Farchogaeth Pen Llyn – Llaniestyn. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 5 milltir.

Golff
Clwb Golff Nefyn a’r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o’r arfordir. 7

Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 9 milltir.

Chwaraeon Dwr
Mae gan draeth Abersoch ddwr gwastad sy’n addas ar gyfer sgilfyrddio ('wakeboarding') a sgïo dwr, hwylio, hwylio cychod modur a hwylfyrddio. 9 milltir.