Bythynnod Lleuddad Cottages

Llangwnadl, North Wales Coast

  • 4 Star
  • Awaiting Grading
  • Special OfferUp to 20% off Special Offer Discount - selected dates
  • Special Offer20% offer on Spring holidays - 12th April - 2nd May

You can book this property from:

  • £1,884 per week
  • £269 per night
  • 4 Star
  • Awaiting Grading

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Pecyn croeso
  • Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 5 o welyau dwbl
  • 8 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant sychu dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 4 o doiledau
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd, iard neu batio
  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 16:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae'r llety hwn wedi ei wneud fyny o dri bwthyn hunan ddarpar - gellir eu archebu'n unigol neu fel rhan o grŵp. Cymerwch olwg ar Beudy Lleuddad (cysgu 6), Corlan Lleuddad (cysgu 4), a Stabal Lleuddad (cysgu 8) am fwy o wybodaeth am y bythynnod unigol.

Yn edrych am lety i deulu estynedig neu i grŵp o ffrindiau ble y gall pawb fod hefo'i gilydd ond eto arwahan? Mae'r 3 bwthyn wedi eu lleoli gyda'i gilydd ar rhan o fferm weithiol, ac o ben drws eich bwthyn gwyliau gellir darganfod prydferthwch Penrhyn Llŷn. Gellir mwynhau hyfrydwch arfordir Penrhyn Llŷn a'r golygfeydd o gefn gwlad heddychlon o'r llety hwn, gyda'r traeth agosaf ond 2 filltir i ffwrdd. Mae'n ganolog i holl atyniadau Penrhyn Llŷn ac yn ardal ddynodedig o harddwch naturiol eithriadol. 

Gwybodaeth Stabal Lleuddad (Uned 1 - cysgu 8):


Llawr Gwaelod
Cegin dderw yn llawn cymeriad gyda llawr llechi, waliau cerrig a bwrdd ty fferm o binwydd sydd â lle i 8 o’i amgylch yn braf. Peiriant golchi llestri, ffwrn a hob drydan, micro-don, peiriant coffi ac oergell a rhewgell, ynghyd â’r holl offer eraill y byddwch yn eu disgwyl mewn bwthyn 5 seren. Mae hon yn ystafell hardd gyda tho uchel, sydd â thrawstiau ar ei hyd sy’n llwyddo creu’r teimlad o ystafell ymlaciol a mawr.

Ystafell fyw fawr ar wahân gyda soffas lledr a gwres o dan y llawr a stôf goed i ymlacio yn gwylio ffilm ar y chwaraewr DVD.

Yn arfer bod yn gartws, mae gan yr ystafell ddwbl ar y llawr cyntaf wely haearn du, teledu wedi’i godi ar y wal, cadeiriau eistedd a bwrdd coffi ar gyfer eich coffi boreol. Drysau patio mawr yn arwain at ardal batio breifat eich hun gyda bwrdd a meinciau.

Mae gan yr ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod faddon sy’n sefyll wrth ei hun, a chawod ar wahân mewn steil ‘ystafell-wlyb’. Rheilen sy’n cynhesu tywelion, toiled a basn, drych wedi’i oleuo a soced eillio gyda gwres o dan y llawr.

Y Llawr Cyntaf
Ar y llawr cyntaf mae yna ystafell ddwbl arall, gyda gwely pinwydd a golygfeydd syfrdanol o’r môr a chefn gwlad.

Dwy ystafell wely twin gyda gwlâu sengl pinwydd a bondo gogwyddol. Mae yna ddrws sy’n cysylltu'r ddwy ystafell twin, mae hyn yn golygu y gallant gael eu defnyddio fel dwy ystafell dwin neu un ystafell i bedwar. Mae’r ardal glyd hon yn berffaith ar gyfer plant.

Ystafell gawod wedi’i theilio gyda rheilen gwresogi tywelion, toiled a basn.

Gwybodaeth Beudy Lleuddad (Uned 2 - cysgu 6):

Llawr Gwaelod
Cegin fawr, lliw hufen gyda bwrdd ty fferm pinwydd. Ystafell â tho uchel gyda thrawstiau, a llawr moethus o lechi â gwres yn dod oddi tano. Mae popeth y bydd eu hangen arnoch ar gael yn y gegin, gan gynnwys peiriant golchi llestri, micro-don, oergell/rhewgell a pheiriant coffi hollbwysig i’ch paratoi ar gyfer yr awyr iach Gymreig!

Llawr derw yn yr ystafell fyw, a chadeiriau esmwyth lledr mawr a chyfforddus, gyda stôf goed. Daw’r teledu sgrin fflat gyda chwaraewr DVD.

Ystafell wely ddwbl 1 - gwely dwbl haearn lliw hufen gyda golygfeydd syfrdanol o’r môr a chefn gwlad, a wal gerrig hardd.

Ystafell wely ddwbl 2 - gwely dwbl haearn lliw hufen gyda golygfeydd ardderchog o’r môr a chefn gwlad.

Ystafell ymolchi gyda baddon trawiadol a chawod ar lefel y llawr, rheiliau tywel wedi’u gwresogi a gwres dan y llawr - rhai o nodweddion 5 seren y bwthyn hwn.

Llawr Cyntaf
Ar ben y grisiau mae ystafell glyd gyda theledu arall a bag ffa mawr ledr. Mae hefyd chwaraewr DVD - lle perffaith i’r plant.

Ystafell twin mewn croglofft draddodiadol ac mae modd ei chyrraedd drwy’r ystafell glyd, ac mae ganddi fondo gogwyddol a wal gerrig wreiddiol.

Gwybodaeth Corlan Lleuddad (Uned 3 – cysgu 4) :

Llawr Gwaelod
Mae’r ardal fyw ar gynllun agored, ac yn ystafell fawr, eang gyda tho uchel sy’n cynnwys cegin hardd, ardal fwyta a lolfa. Mae ei ddau set o ddrysau patio, y llawr llechi gyda gwres oddi tano a’r trawstiau yn ychwanegu at yr awyrgylch ysgafn ac ymlaciol sydd i’r ty.

Mae’r gegin fodern lliw hufen yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch gan gynnwys popty a hob trydanol, oergell a rhewgell, micro-don, peiriant golchi llestri a pheiriant coffi. Bwrdd pinwydd ty fferm gyda lle i 4 eistedd.

Yn y lolfa mae cadeiriau esmwyth lledr, teledu fawr sgrin fflat a chwaraewr DVD gyda golygfeydd dros yr ardd a thu hwnt drwy’r drysau patio. Nodwedd drawiadol arall sydd yn yr ystafell fawr hon yw’r grisiau sydd wedi eu naddu’n lleol sy’n arwain at y llofft falconi.

Ystafell wely ddwbl gyda gwely dwbl haearn lliw hufen, a llawr llechi â gwres oddi tano.

Ystafell ymolchi fodern gyda baddon siâp ‘P’, cawod uwch ei ben a rheilen gwresogi tywelion.

Llawr Cyntaf
Llofft falconi twin gyda bondo gogwyddol sydd â modd ei gyrraedd gyda grisiau o’r ystafell fyw. *Nodwch gan fod yr ystafell twin yn llofft falconi, nid yw’n addas ar gyfer plant ifanc.

Gardd

Tra fod gan bob un o'r bythynnod ei ardal patio ei hun gyda bwrdd a chadeiriau, gellir defnyddio'r holl ardal y tu blaen i'r bythynnod fel ardal gymunedol. O'r ardaloedd patio y tu allan i'r bythynnod gellir mwynhau Penrhyn Llŷn ar ei orau, gyda golygfeydd anhygoel yr holl ffordd i lawr i'r môr ar y gorwel.

Mae yna hefyd ardal gymunedol y tu ôl i'r bythynnod. Mae'r lawnt helaeth yn ddelfrydol ar gyfer anifeiliaid anwes, gêm o bêl droed ayb

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Pecyn croeso ymhob bwthyn yn cynnwys Bara Brith ac wyau 
  • Darperir yr eitemau canlynol yn y bwthyn hefyd...

Cegin: papur cegin, lliain llestri, sgwriwr a brws i olchi’r llestri, hylif golchi a thabledi peiriant golchi llestri.
Ystafell ymolchi: papur toiled.
Offer cyffredinol: bagiau bin, canhwyllau, matsis, fflach lamp, brillo ac amrywiaeth o offer golchi.
Iwtiliti: Powdr golchi dillad a chyflyrydd ar gyfer y peiriant golchi.

  • Dillad gwely, tywelion baddon a dwylo yn gynwysedig. Un sychwr gwallt i bob ystafell ddwbl.
  • Gwres a thrydan yn gynwysedig. Gwres olew dan y llawr ar y llawr gwaelod, rheiddiaduron ar y llawr cyntaf.
  • Cysylltiad wifi ar gael
  • Croesewir i fyny hyd at 5 o gŵn sy’n ymddwyn am gost ychwanegol o £25 y ci (i fyny at 2 o gŵn yn y bythynnod mwyaf ac 1 ci yn y bwthyn lleiaf).
  • Darperir cot a chadair uchel os bydd cais. Dewch a dillad gwely i’r cot eich hun.
  • Darperir coed tan
  • Ystafell olchi gymunedol gyda pheiriant sychu dillad a pheiriant golchi dillad, a all gael ei defnyddio gan breswylwyr y bythynnod yn rhad ac am ddim.
  • Dim ysmygu
  • Digonedd o fannau parcio ar gael
  • Nodwch os gwelwch chi'n dda nid o dan unrhyw amgylchiadau y gallwch gael mwy na 18 o westeion ar y safle ar yr pryd.

Location

Mae Bythynnod Lleuddad wedi eu lleoli o fewn gerddi preifat ac amgaeedig. Man heddychlon yn llawn golygfeydd, ar dir fferm laeth ac eidion weithredol yn agos i bentref Llangwnadl. Nid ydynt yn bell oddi ar y brif ffordd, mae trac fferm o tua ¼ milltir yn arwain tuag at Fythynnod Lleuddad, lle gallwch fwynhau gwyliau moethus hunan arlwyo. Mae modd mwynhau golygfeydd o Benrhyn Llŷn a’i arfordir o’r bythynnod a’i dir o amgylch. Lleoliad canolog sy’n ddelfrydol er mwyn mwynhau awyr iach Penrhyn Llyn.

Mae’r siop bentref agosaf yn Nhudweiliog (2 filltir) ac mae nifer o dafarndai a bwytai da cyfagos. Ymhlith y mannau bwyta rydym yn eu hawgrymu mae Y Llew yn Nhudweiliog, The Ship Inn yn Edern (4 milltir), Nanhoron Arms, Nefyn (7 milltir), Venetia a Coconut Kitchen yn Abersoch (9 milltir) a Thy Newydd, Aberdaron (5 milltir).

Mae llwyth o drysorau cudd ym Mhenllŷn, sydd yn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Ymhlith yr atyniadau sy’n rhaid eu gweld mae’r pentref glan môr Aberdaron, y dafarn ar y traeth ym Mhorthdinllaen, traethau di-ddiwedd gan gynnwys yr un agosaf sydd yn Penllech, ond 2 filltir o’r bwthyn ac Ynys Enlli.

Atyniad gwych arall yw Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru Nant Gwrtheyrn, o fewn bae cuddiedig ei hun wrth y môr, heb sôn am Barc Glasfryn am ddiwrnod yn llawn hwyl (rasio ceir, bowlio deg ac ati) Castell Caernarfon, Yr Wyddfa (mynydd uchaf Cymru), Mynydd Gwefru Llanberis ac Amgueddfa Lechi Cymru.

Traethau

Y traeth agosaf yw Penllech, traeth hir a thywodlyd sydd â theimlad o lonyddwch a heddwch. 2 filltir.

Mae hefyd traethau gwych eraill o fewn pellter byr yn y car. 

Cerdded

Llwybr Arfordir Llŷn (rhan o Lwybr Arfordir Cymru). Y man agosaf i ymuno yw Traeth Penllech, sydd 2 filltir o’r bwthyn.

Yr Eifl – Cadwyn o fynyddoedd gan gynnwys y pwynt uchaf ym Mhenryn Llŷn. 4.5 milltir o hyd. 12 milltir.

Marchogaeth

Canolfan Farchogaeth Pen Llŷn – Llaniestyn. Bridfa a theithiau i rai ar bob lefel. 5 milltir.

Golff

Clwb Golff Nefyn a’r Cylch - 26 twll, yn cynnig dau gwrs 18 twll pen clogwyn gyda golygfeydd arbennig o’r arfordir. 7 milltir

Clwb Golff Abersoch – cwrs golff 18 twll, wrth ymyl y traeth. 9 milltir.

Chwaraeon Dwr

Mae gan traeth Abersoch ddwr fflat sy’n addas ar gyfer sgilfyrddio a sgïo dwr, hwylio, hwylio cychod modur a hwylfyrddio. 9 milltir.