Awel y Mor

Llandudno, North Wales Coast

  • 5 Star
  • Awaiting Grading
  • Llety hunan-ddarpar yn Llandudno ar gyfer 10 o bobl gyda thwb poeth, bwrdd pŵl a stôf llosgi coed, ac sydd o fewn tafliad carreg i lan y môr, y llwybr arfordirol a bwytai.

You can book this property from:

  • £1,176 per week
  • £168 per night
  • 5 Star
  • Awaiting Grading

Features

Gweithgareddau gerllaw

  • Cerdded
  • Beicio
  • Chwaraeon dŵr
  • Pysgota
  • Golff
  • Marchogaeth

Nodweddion Arbennig

  • WiFi
  • Tân agored neu stôf goed
  • Ystafell chwaraeon
  • Twb poeth

Gwelyau ac ystafelloedd gwely

  • Dillad gwely yn gynwysedig
  • 2 o welyau king/super-king
  • 1 gwely dwbl
  • 4 o welyau sengl

Cegin

  • Peiriant golchi dillad
  • Peiriant golchi llestri
  • Rhewgell

Ystafell ymolchi

  • 3 o doiledau
  • Tywelion ar gael

Teuluoedd

  • Addas i deuluoedd
  • Cot
  • Cadair uchel

Awyr Agored

  • Gardd neu iard amgaeëdig
  • Barbaciw
  • Parcio preifat

Hygyrchedd

  • Toiled ar y llawr gwaelod
  • Ystafell wely ar y llawr gwaelod
  • Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
  • Cawod cerdded i mewn

Pwysig - noder os gwelwch yn dda

House Rules

  • Amser cyrraedd: 17:00
  • Amser gadael: 10:00

Description

Mae twb poeth yn yr ardd, ystafell haul a bwrdd pŵl, a stôf llosgi coed groesawgar, ac mae o fewn tafliad carreg i lan y môr, y traeth, llwybr arfordirol Cymru a bwytai. Mae rhywbeth at ddant pawb wrth gymryd gwyliau hunan-ddarpar yn Awel y Môr, sydd 4 milltir yn unig o Landudno. Mae’r bwthyn wedi’i leoli yn nhref lan y môr hyfryd Llandrillo-yn-Rhos, sy’n aml yn cael ei hystyried yn chwaer fach i Landudno, ac mae hefyd yn agos at Gonwy (4.9 milltir) a holl atyniadau mawr Gogledd Cymru.    

Llawr Gwaelod

Cegin / ystafell fwyta – Cegin fawr, fodern sy’n cynnwys ffwrn ddwbl, hob nwy 5 cylch a mwgwd echdynnu, microdon, peiriant golchi llestri ac oergell/rhewgell. Ceir bwrdd bwyta mawr o bren derw soled ym mhen arall yr ystafell gyda chyfuniad o fainc a chadeiriau, ynghyd â daliwr gwin a theledu bychan.

Lolfa 1 – Ystafell hyfryd gyda ffenestr fae fawr a sedd ffenestr, stôf llosgi coed groesawgar, teledu clyfar 40 modfedd a chymysgedd o soffas lledr a defnydd.  

Lolfa 2 – Ail ystafell fyw fawr gyda ffenestr fae a chymysgedd o soffas lledr a defnydd yn ogystal â chaise longue o dan y ffenestr. Teledu 40 modfedd a chwaraewr DVD, ynghyd â bwrdd pŵl.  

Dwy ris yn arwain i lawr i’r ystafelloedd a ganlyn …

Lolfa haul gyda bwrdd pŵl maint llawn yn arwain at ardal â dec lle ceir twb poeth.

Ystafell golchi dillad gyda pheiriant golchi ac unedau.

Ystafell wely 1 – Ystafell wely ddwbl ar y llawr gwaelod gyda chwpwrdd dillad o dderw soled.

Ystafell gawod (cwadrant) â basn ymolchi ac ystafell ar wahân gyda thŷ bach.

Llawr Cyntaf

Ystafell wely 2 – Prif ystafell wely fawr gyda gwely mawr iawn, blanced Gymreig, cypyrddau dillad wedi’u gosod a bwrdd gwisgo. Ffenestr fae fawr yn cynnwys soffa.  

Ystafell wely 3 – Ystafell wely fawr arall gyda gwely mawr iawn o dderw soled. Cist ddillad fawr, cwpwrdd dillad crand a drych hyd llawn.

Ystafell wely 4 – Ystafell â 2 wely sengl gyda chwpwrdd dillad crand o dderw soled a golygfa dros yr ardd gefn. Ystafell fach, sy’n fwy addas i blant.

Ystafell wely 5 – Ystafell wely sengl gyda chwpwrdd dillad o dderw soled a golygfa dros yr ardd gefn amgaeedig.

Ystafell wely 6 – Ystafell wely sengl en-suite, cwpwrdd deuran, cwpwrdd dillad crand a chadair. Mae’r en-suite yn cynnwys cawod, tŷ bach a basn.

Y prif ystafell ymolchi – gyda basn ymolchi a bath â chawod uwch ei ben.

Tŷ bach a basn ymolchi ar wahân.

Gardd

Mae gan y llety hunan-ddarpar hwn yn Llandudno hefyd ardd gefn amgaeedig a giât sy’n gallu cloi.  Mae ganddo dwb poeth ‘jacuzzi’ hyfryd y gall 6-7 o bobl eistedd ynddo’n gyfforddus, gwely haul pren siâp L, a barbeciw. Sied ardd ar gyfer cadw beiciau ac ati, borderi blodeuog hyfryd a lein ddillad.  

Gardd flaen â lawnt, mainc a borderi blodeuog.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwres a thrydan yn gynwysedig.
  • Darperir dillad gwely a thyweli bach a mawr (dewch â’ch tyweli eich hunan ar gyfer y twb poeth, os gwelwch yn dda).
  • Darperir 1 sychwr gwallt.
  • Wi-fi ar gael.
  • Mae cot a chadair uchel ar gael ar gais.
  • Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu yn y llety.
  • Er gwybodaeth, nid oes lle i’r platiau bwyd mawr yn y peiriant golchi llestri
  • Ceir parcio oddi ar y stryd ar gyfer hyd at 4 car ac mae digon o le i ôl-gerbydau (os ydych yn dod â chwch / canŵ). Ceir mannau parcio eraill ar y stryd os oes angen.

Location

Yn y llety gwyliau hunan-ddarpar hwn ger Llandudno mae digonedd o le y tu allan ac o dan do, gyda gardd flaen fawr a gardd gaeedig yn y cefn. Mae wedi’i leoli ar lôn ddeiliog hardd ac mae iddo ymdeimlad pendant o steil a cheinder. Dim ond 4 milltir o Landudno ei hun ydyw, ac mae Awel y Môr yn cynnig lleoliad hynod o gyfleus yn Llandrillo-yn-Rhos – chwaer fach Llandudno.

Dim ond 2 funud i ffwrdd ar droed mae glan y môr a’r promenâd, ac mae gorsaf drenau ym Mae Colwyn (0.7 milltir) os hoffech gael gwyliau heb y car. Rydych chi hefyd o fewn 10 munud ar droed i siop leol, siop fferyllydd, bwytai prydau parod a Lidl, a gallwch gerdded i ganol tref Llandrillo-yn-Rhos mewn 15 munud. The Toad (0.3 milltir) ar Bromenâd Cayley yw’r dafarn dda agosaf, ac mae Rhos Fynach hefyd yn gyfleus ac yn cynnwys parc a golff mini.

Gallwn argymell nifer o leoedd bwyta da yn agos at eich llety hunan-ddarpar yn Llandudno, gan gynnwys Bwyty Café 1 newydd Bryn Williams (1 filltir) yng Nghyfadeilad y Glannau, Porth Eirias, Hickory’s Smokehouse (0.7 milltir), ac mae bwyty steciau sydd hyd yn oed yn agosach y gallech gerdded iddo. Ychydig ymhellach, mae bwyty tafarn Pen y Bryn yn Colwyn Heights (1.5 milltir), Afon Conwy Brewers Fayre ym Mae Colwyn (2.8 milltir) sy’n dafarn dda i deuluoedd lle cewch werth am eich arian, a Bwyty Signatures yng Nghonwy (6 milltir).

Mae’r theatr bypedau hynaf ym Mhrydain hefyd wedi’i lleoli yn Llandrillo-yn-Rhos, a, heb os, rhaid ymweld â Llandudno (4 milltir) gyda’r pier Fictorianaidd enwog, y traeth, y siopau, y llethr sgïo, y ceir ceblau ar Ben y Gogarth, a llawer mwy. Ymysg yr atyniadau poblogaidd eraill yn yr ardal, gallwch deimlo eich adrenalin yn pwmpio yn Surf Snowdonia (11 milltir), neu beth am fwynhau cyngherddau awyr agored a gemau rygbi ym Mharc Eirias (1.5 milltir) neu gallech gwrdd â mwncïod, pengwinau ac ati yn y Sŵ Fynydd Gymreig (1 filltir)? Os hoffech ymlacio, mae Gwarchodfa Natur Bryn Euryn o fewn 1.5 milltir, neu mae Castell Conwy â’r wal o’i gwmpas yn werth ei weld (4.9 milltir), ac argymhellir Gerddi Bodnant (11 milltir) yn fawr hefyd.

Traethau

  • Traeth Llandrillo-yn-Rhos / Bae Colwyn – enillydd gwobr y Faner Las, sy’n uchel ei bri. Lle gwych ar gyfer nofio, chwaraeon dŵr a physgota. Taith gerdded fer ar hyd Promenâd Cayley. 0.5 milltir.
  • Mae Traeth Llandudno yn draeth gwych â golygfa sy’n cynnig teithiau cerdded hamddenol a hyfryd ar hyd y promenâd. Diwrnod llawn hwyl i’r teulu i gyd. 4 milltir.

Cerdded

  • Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru – o Landrillo-yn-Rhos, ewch tua’r gorllewin tuag at Landudno a Chonwy neu i’r dwyrain tuag at Hen Golwyn ac Abergele, gyda golygfeydd anhygoel o’r môr ar hyd y ffordd. 0.2 milltir.
  • Llwybr Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos – mae’n cwmpasu 25 o safleoedd hanesyddol mewn 3 awr yn unig, gan gynnwys Capel Sant Trillo (yr eglwys leiaf ym Mhrydain) ac adfeilion Bryn Euryn – caer fynydd o’r 5ed ganrif gyda golygfeydd trawiadol. 1.2 milltir.
  • Llynnoedd Geirionydd a Chrafnant (yn mynd heibio i Fairy Falls) – Trefriw. Taith gerdded gymhedrol mewn cylch (tua 3 awr). 16 milltir.
  • Carneddau (teithiau cerdded mynydd Eryri) – teithiau cerdded heriol, gan gynnwys yr 2il a’r 3ydd copa uchaf yng Nghymru. Mae’r llwybr agosaf yn dechrau yn Helyg, Capel Curig. 22.5 milltir.

Beicio

  • Mae Llwybr Arfordirol Gogledd Cymru yn berffaith ar gyfer beicio a, hyd yn oed yn well na hynny, gallwch logi beiciau am y diwrnod yn GogCogs ar y Promenâd (0.8 milltir). Y ffordd orau o weld arfordir trawiadol Gogledd Cymru.
  • Llwybr Penmachno – Mae’r llwybr 18 milltir hwn yn eich tywys drwy gefn gwlad hyfryd Dyffryn Conwy. 22 milltir.

Chwaraeon Dŵr

  • Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn, Porth Eirias – gwersi hwylio a bordhwylio, a modd llogi cychod modur a chyfarpar hwylio, bordhwylio, caiacs, canŵs a phadlfyrddau. 1 filltir.
  • Pwll Nofio Parc Eirias – Cyfleusterau o dan do gan gynnwys pwll nofio / hamdden chwe llwybr 25 metr gydag amrywiaeth o gyfleusterau dŵr a llithren ddŵr ar wahân. 1.5 milltir.
  • Surf Snowdonia – 11 milltir.
  • Darllenwch fwy am chwaraeon dŵr ar Arfordir Gogledd Cymru.

Pysgota

  • Pysgota ar y môr gan gynnwys tripiau ar gychod pysgota yn Llandrillo-yn-Rhos. 1.2 milltir.
  • Gardd Ddŵr Conwy – Yma, mae 3 llyn pysgota bras wedi’u hamgylchynu gan goedwigoedd hyfryd Gogledd Cymru. Mae siop offer, siop byrbrydau a bwyty, i gyd wedi’u lleoli’n gyfleus ar y safle. Mae mynediad i’r anabl yma hefyd. 8.5 milltir.

Golff

  • Clwb Golff Llandrillo-yn-Rhos – cwrs tir parc 18 twll ger y môr gyda golygfeydd gwych o’r mynyddoedd a’r dyffrynnoedd o amgylch. 1.5 milltir.
  • Clwb Golff Conwy – Dyma’r 7fed Cwrs Golff Gorau yn y byd, yn ôl rhestr y 100 cwrs gorau. Mae clwb a bwyty ar y safle. 6 milltir.