- £563 per week
- £80 per night
- 5 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 1 gwely dwbl
- 1 gwely sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Ystafell wlyb
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
- Ystafell wlyb
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Wedi ei gynllunio i wneud y mwyaf o'r golygfeydd anhygoel, mae'r bwthyn hardd hwn yn cynnig mangre helaeth a chyfoes i fedru mwynhau arfordir Gogledd Cymru ar ei orau. Wedi ei leoli mewn cornel trawiadol o Barc Cenedlaethol Eryri, o fewn pellter cerdded i draeth euraidd, Llwybr Arfordirol Cymru a thafarn/bwyty, ac ond 2 filltir o Abermaw.
Llawr Gwaelod
Ystafell wely 1 - gwely mawr moethus maint king gyda golygfeydd o'r môr. Cypyrddau dillad, cadair ddarllen, dillad gwelyau wedi eu gwneud yn lleol, a gwres o dan y llawr.
Ystafell wely 2 - ystafell deuluol gyda gwely dwbwl a gwely sengl, cypyrddau dillad, dillad gwelyau wedi eu gwneud yn lleol, gwres o dan y llawr, ac wrth gwrs, golygfeydd o'r môr.
Ystafell ymolchi gyda chawod fawr, rheilen sychu tywelion, basn fodern a drych gyda golau.
Cwpwrdd o dan y grisiau gyda peiriant golchi dillad a storfa.
Llawr Cyntaf
Dyma ystafell i eistedd nol ac ymlacio. Yn meddiannu'r llawr cyfan, mae'r ystafell fyw/bwyta/cegin yn mwynhau digon o olau naturiol, a golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd a'r môr. Wedi ei haddurno mewn dull modern a Chymreig gyda wal gerrig a thrawstiau.
Mae'r ardal fyw gyda dwy soffa gysurus o flaen y golygfeydd, teledu mawr a DVD.
Cegin fodern yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell, rhewgell, meicrodon a bar brecwast gyda golygfeydd o'r mynyddoedd a'r môr. Mae'r bwrdd bwyta hefyd yn mwynhau golygfeydd allan i'r môr.
Gardd
Gardd gaeedig gyda golygfeydd hardd a di-dor dros y môr tuag at Ynys Enlli a Phenryn Llŷn. Lawnt a phatio gyda dodrefn gardd. Sied er mwyn storio beiciau.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth a chacen
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio, cadair uchel a gât i'r grisiau ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot.
- Wifi ar gael
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: pupur a halen, hylif golchi llestri a tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau newydd, ffoil, a ffilm glynu. Ystafell ymolchi: sebon hylif, 2 bapur toiled. Cynnyrch glanhau cyffredinol
- Parcio ar gael