- £681 per week
- £97 per night
- 6 Guests
- 3 Bedrooms
- 2 Bathrooms
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 2 o welyau king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 2 o doiledau
- Tywelion ar gael
- Ystafell ymolchi en-suite
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Bwthyn ar ben ei hun yn cynnig encil hardd ym mynyddoedd Eryri, uwchlaw arfordir Gogledd Cymru. Gyda golygfeydd anhygoel dros aber yr afon Mawddach a Chader Idris tu hwnt, mae'r llety hunan ddarpar hwn ger Abermaw yn rhoi ichi eich cornel fach breifat o Gymru, ble gellir ymalcio mewn gwir lonyddwch. O fewn tafliad carreg i Lwybr Panorama ac ond 2 filltir o draeth baner las, siopau bach gwahanol, a bwytai yn nhref glan y môr Abermaw.
Llawr Gwaelod
Ystafell fyw agored yn eich croesawu - lolfa i'r chwith, cegin fwyta i'r dde.
Lolfa - soffas cyfforddus o flaen teledu freeview / chwaraewr DVD, a stôf losgi coed o fewn lle tân traddodiadol. Trawstiau derw a llawr pren.
Cegin/Ardal fwyta - cegin fodern yn cynnwys topiau gwenithfaen a sinc Belfast, peiriant golchi llestri, popty ac oergell gyda rhewgell oddi mewn (rhewgell ychwanegol yn yr ystafell iwtiliti)
Ystafell Iwtiliti tu allan - mae'r ystafell hon yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad, a rhewgell tair dror. Mae yma hefyd le i storio beiciau ac offer cerdded.
Llawr Gwaelod Is
Ystafell wely 1 - dau wely sengl a theledu ar y wal.
Ystafell ymolchi gyda baddon a chawod.
Llawr Cyntaf
Ystafell wely 2 - gwely dwbwl gyda teledu a golygfeydd trawiadol.
Ystafell wely 3 - ceir mynediad i fyny grisiau sbiral, mae'r ystafell hon gyda trawstiau derw a theledu. Ystafell ymolchi ensuite gyda cawod yn ogystal â baddon.
Gardd
Gardd gaeedig, breifat gyda bwrdd a chadeiriau gardd, Barbaciw, a golygfeydd anhygoel.
Storfa ddiogel ar gyfer beiciau ayb.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys potel o wîn, te, coffi a siwgwr
- Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
- Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
- Coed ar gael ar gyfer y stôf. Gellir prynu mwy o goed o'r fferm
- 1 sychwr gwallt ar gael
- Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â'ch dillad eich hun i'r cot
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu y tu mewn i'r bwthyn
- Mae'r eitemau canlynol ar gael ar gyfer eich arhosiad - Cegin: papur cegin, hylif golchi llestri, tabledi i'r peiriant golchi llestri, clytiau. Ystafell ymolchi: sebon, 2 bapur toiled ar gyfer pob toiled
- Digon o le parcio