- £564 per week
- £81 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- Tân agored neu stôf goed
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely king/super-king
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Baddon
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Balconi
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Storfa tu allan
- Barbaciw
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Gyda golygfeydd panoramig o'r môr o'r holl ystafelloedd a'r ardd, ynghyd â stôf goed groesawgar, mae'r bwthyn fferm hwn ar arfordir Eryri yn cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer eich gwyliau nesaf yng Nghogledd Cymru. Mae rhodfa milltir o hyd yn arwain i bentref Dyffryn Ardudwy, gyda digon o adnoddau, yn cynnwys traeth tywod, siop bentref a thafarn. Mynediad i lwybrau cerdded yn y mynyddoedd a'r arfordir o stepen y drws. Nifer o atyniadau o fewn pellter teithio byr, o draethau Baner Las a trenau stêm i Gastell Harlech, Portmeirion a Zip World.
Llawr Gwaelod
Cegin / ardal fwyta - ystafell helaeth gyda cegin dderw, bwrdd a chadeiriau. Offer yn cynnwys popty, hob a meicrodon, peiriant golchi llestri, oergell a rhewgell. Ystafell iwtiliti arwahan yn cynnwys peiriannau golchi a sychu dillad.
Ystafell haul - gyda mynediad drwy'r gegin, dyma'r ystafell ble mae amser yn sefyll yn llonydd. Gellir mwynhau golygfeydd panoramig o gefn gwlad a'r môr oddi yma - y man perffaith i eistedd nôl a sipian coffi, gwîn (neu'r ddau) drwy'r dydd tan fachlud haul. Mae drysau yn arwain allan i'r patio sy'n mwynhau'r un golygfeydd godidog.
Lolfa - ystafell gysurus sydd eto'n mwynhau golygfeydd o'r môr ac yn leoliad perffaith i ymlacio fin nos o flaen y teledu a'r stôf goed.
Ystafell wely 1 - ystafell helaeth gyda gwely maint king, teledu/chwaraewr DVD a golygfeydd i'ch ysbrydoli bob bore.
Ystafell wely 2 - dau wely sengl, gyda golygfeydd.
Ystafell ymolchi - baddon a chawod oddi mewn, toiled, basn a rheilen sychu tywelion.
Gardd
Fel y bwthyn ei hun, mae'r ardd yn mwynhau golygfeydd anhygoel o gefn gwlad a'r môr, yr holl ffordd i Benrhyn Llyn ar y gorwel. Patio caeedig gyda bwrdd a chadeiriau.
Stepiau o'r patio i lawr i'r lawnt gyda bwrdd picnic. Barbaciw siarcol ar gael.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Pecyn croeso yn cynnwys te a choffi, siwgwr a llaeth, potel o wîn a blodau
- Dillad gwelyau, tywelion ac 1 sychwr gwallt ar gael
- Gwres a thrydan yn gynwysedig
- Wifi ar gael
- Cot a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i'r cot
- Addas ar gyfer cadair olwyn. Drysau llydan ac ar un lefel - arwahan i un step ger y mynediad, ac un step i lawr i'r ystafell haul
- Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu tu mewn y bwthyn
- Storfa beiciau ar gael
- Digon o le parcio
- Eitemau ar gael yn cynnwys...
- Cegin: pupur a halen, papur cegin, hylif golchi llestri a thabledi i'r peiriant, clytiau, ffoil a ffilm glynu
- Ystafell ymolchi: sebon hylif a 2 rolyn papur i bob toiled
- Cynnyrch glanhau cyffredinol