- £319 per week
- £46 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Pysgota
- Golff
- Marchogaeth
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant sychu dillad
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
Teuluoedd
- Cot
- Cadair uchel
- Giât diogelwch
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Os mai traethau Baner Las, teithiau cerdded trawiadol a rownd o golff gyda golygfeydd o gestyll a môr yw eich syniad chi o wyliau yng Nghymru yna hwn yw’r bwthyn i chi. 5 munud ar droed at draeth euraidd, mae’r bwthyn hwn ar arfordir Gogledd Cymru mewn lleoliad delfrydol am ychydig heddwch a llonyddwch tra’i fod hefyd o fewn cyrraedd i Bermo gyda’i siopau, bwytai ayb.
Dewch a’ch beiciau am brofiad beicio mynydd gwych gerllaw, neu, am ddiwrnod mwy hamddenol, neidiwch ar y fferi o Bermo i'r Friog, teithiwch ar drên stêm Y Friog neu ymwelwch â phentref Eidalaidd Portmeirion. Ar ôl diwrnod llawn, ymlaciwch yn yr ardd i fwynhau golygfa’r machlud ar y môr.
Llawr Gwaelod
Ceir cegin gyflawn a modern yn y bwthyn hwn (cynnwys microdon ac oergell/rhewgell) a bwrdd bwyd i bedwar. Ystafelloedd gwely clud gyda golygfeydd o’r ardd - un dwbl ac un twin. Ystafell ymolchi foethus gyda chawod uwchben y bath.
Llawr Cyntaf
Lolfa hyfryd ac eang gyda thrawstiau ar hyd y nenfwd a golygfeydd gwych o’r môr. Teledu (sianeli am ddim), DVD a Radio/CD yn gynwysedig.
Gardd
Gardd gyda phatio, dodrefn a set barbeciw. Man delfrydol i fwynhau golygfeydd cefn gwlad a glan môr.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Te, Coffi, Siwgr, Llaeth a Chacen i’ch croesawu.
- Darperir llyfrau, gemau a gwybodaeth am bethau i’w gwneud yn lleol yn y bwthyn.
- Dillad gwely, tyweli a sychwr gwallt yn gynwysedig
- Trydan a gwres canolog olew yn gynwysedig
- Cot, cadair uchel a giât ar gyfer y grisiau ar gael ar gais. Dewch a’ch dillad gwely eich hunain ar gyfer y cot.
- Golchdy i’w rannu yn yr ardd gyda pheiriant golchi a sychwr dillad
- Llyfrau, gemau a gwybodaeth am bethau i’w gwneud yn lleol
- Dim ysmygu nac anifeiliaid anwes
- Anaddas i bobl fethedig
- Parcio am ddim