- £391 per week
- £56 per night
- 4 Guests
- 2 Bedrooms
- 1 Bathroom
- No Pets
Features
Gweithgareddau gerllaw
- Cerdded
- Beicio
- Chwaraeon dŵr
- Syrffio
- Pysgota
- Golff
Nodweddion Arbennig
- WiFi
- Pecyn croeso
- Golygfeydd cefn gwlad
- Golygfeydd o'r môr neu'r arfordir
Gwelyau ac ystafelloedd gwely
- Dillad gwely yn gynwysedig
- 1 gwely dwbl
- 2 o welyau sengl
Cegin
- Peiriant golchi dillad
- Peiriant golchi llestri
- Rhewgell
Ystafell ymolchi
- 1 toiled
- Tywelion ar gael
- Cawod
Teuluoedd
- Addas i deuluoedd
- Cot trafeilio
- Cadair uchel
Awyr Agored
- Gardd, iard neu batio
- Gardd neu iard amgaeëdig
- Parcio preifat
Hygyrchedd
- Ar un lefel, dim grisiau
- Toiled ar y llawr gwaelod
- Ystafell wely ar y llawr gwaelod
- Ystafell ymolchi ar y llawr gwaelod
- Cawod cerdded i mewn
Pwysig - noder os gwelwch yn dda
House Rules
- Amser cyrraedd: 5:00pm
- Amser gadael: 9:00am
Description
Mwynhewch y llonyddwch, y golygfeydd pell-gyrhaeddol yr holl ffordd i’r arfordir, a’r lleoliad canolog i ddarganfod Gogledd Cymru. Mae’r bwthyn fferm croesawgar hwn wedi ei leoli ar godiad gerllaw tref arfordirol Abergele. O Barc Cenedlaethol Eryri, i gestyll niferus, traethau a Llwybr Arfordirol Cymru, i drefi marchnad a dinas Rufeinig Caer, mae’r bwthyn hwn wedi ei amgylchynu gan gyfoeth o atyniadau.
Llawr Gwaelod
Cegin olau ac eang gyda popty a hob, meicrodon, oergell/rhewgell a pheiriant golchi llestri, bwrdd bwyta i 4 a ffenestr fawr i fframio’r golygfeydd anhygoel.
Lolfa – ystafell draddodiadol gyda trawstiau, dwy soffa gyfforddus o flaen stôf drydan, teledu a chwaraewr DVD.
Ystafell Haul – drysau patio yn arwain o’r lolfa i ystafell haul ymlaciol gyda golygfeydd o’r patio a chefn gwlad.
Ystafell wely 1 – gwely dwbwl gyda golygfeydd pell-gyrhaeddol yr holl ffordd i arfordir Gogledd Cymru (ceir mynediad i’r ystafell hon drwy ystafell wely 2).
Ystafell wely 2 – dau wely sengl.
Ystafell ymolchi – cawod fawr, toiled, basn a rheilen sychu tywelion (mynediad i’r ystafell hon drwy ystafell wely 2 hefyd).
Gardd
Patio preifat a chaeedig yn y cefn, gyda bwrdd a chadeiriau i fedru mwynhau’r lleoliad tawel. Patio llai o flaen y tŷ gyda dodrefn gardd.
Gwybodaeth Ychwanegol
· Pecyn croeso yn cynnwys te, coffi, siwgwr, llaeth, cacen a menyn Cymreig
· Dillad gwelyau a thywelion yn gynwysedig
· Gwres canolog a thrydan yn gynwysedig
· 1 sychwr gwallt ar gael
· Cot trafeilio a chadair uchel ar gael os dymunir. Dewch â dillad eich hun i’r cot
· Wi-fi ar gael
· Dim anifeiliaid anwes nac ysmygu
· Parcio ar gyfer 2 gerbyd
· Bwthyn ar fferm deuluol. Mae’r perchnogion yn byw drws nesaf ac yn hapus i helpu gydag unrhyw ymholiadau, gwybodaeth neu argymhellion lleol